start content

Ffitrwydd i Deuluoedd

Dosbarthiadau Ffitrwydd Newydd i Deuluoedd - lle penodol i rai 8-11 oed a’u hoedolion i symud, chwerthin a datblygu cryfder gyda’i gilydd.

Mae pob dosbarth yn cyfuno hwyl, ffitrwydd a gwaith tîm, gan helpu teuluoedd i ddatblygu arferion iach wrth fwynhau amser gyda’i gilydd. Os ydych eisiau arafu pethau, llosgi ychydig o egni, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth hollol newydd, mae sesiwn i bawb!

Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno | Canolfan Hamdden Colwyn 
Canolfan Hamdden Abergele | Hwb Yr Hen Ysgol, Llanrwst

Abs i Deuluoedd:

Arafwch a mwynhewch sesiwn gyfartal o gryfder craidd ac ymestyn dan arweiniad. Gall rhieni a phlant weithio gyda’i gilydd i wella osgo, hyblygrwydd a chydbwysedd tra’n dysgu gwerth adfer a symudiad. Dosbarth tawel, ystyrlon sy’n gadael y teulu cyfan wedi’u canoli ac yn teimlo’n ffres

HIIT i Deuluoedd:

Byddwch yn barod am ymarfer corff egnïol y gall y teulu cyfan ei wynebu gyda’i gilydd! Drwy ddefnyddio ymarferion cardio, cryfder a phwysau’r corff am gyfnodau byr, mae’r dosbarth yma’n ysgogi rhieni a phlant drwy egwyliau hwyliog sy’n cael eu hamseru. Mae’n ffordd wych o losgi egni, magu ffitrwydd a chefnogi ei gilydd fel tîm.

BoxFfit i Deuluoedd:

Symudwch o orsaf i orsaf a rhowch gynnig ar gymysgedd o ddriliau wedi’u hysgogi gan focsio a heriau ymarfer cylchol. Bydd rhieni a phlant yn dyrnu, neidio ac yn gwthio eu ffordd drwy rowndiau byrrach o weithgareddau gan ddysgu sgiliau newydd tra’n gweithio gyda’i gilydd. Sesiwn hwyliog, gyflym sydd yn magu cryfder, cydsymudiad, a hyder i’r teulu cyfan. 

HYROX i’r teulu

Mae sesiynau HYROX i’r teulu yn ymarfer corff llawn hwyl sydd wedi’u cynllunio er mwyn i oedolyn a phlentyn hyfforddi gyda’i gilydd mewn amgylchedd tîm cefnogol. Mae’r sesiwn yn cyflwyno ffitrwydd trwy amrywiaeth o weithgareddau wedi’u hysbrydoli gan fformat HYROX, a’u haddasu i weddu i gyfranogwyr iau. Mae’r canolbwynt ar ffitrwydd, hwyl a gwaith tîm fel teulu, gan helpu plant i feithrin hyder a llythrennedd corfforol wrth i oedolion fwynhau rhannu profiad hyfforddiant.

Cost: Oedolion – Aelodaeth/ Talu Wrth Fynd| Aelodaeth Plant – Iau/Talu Wrth Fynd
Archebu:

Ap Ffit Conwy
neu 0300 456 95 25

 

end content