Opsiynau Talu Wrth Fynd
Discount SubscriptionsTanysgrifiadau Gostyngol
Mae tanysgrifiadau gostyngol yn daliad unwaith mewn blwyddyn er mwyn derbyn y rhestr brisiau cyfradd gostyngol. Mae hyn ar gael ar gyfer y canlynol (bydd angen tystiolaeth o gymhwysedd)
Tanysgrifiad Gostyngiad Consesiynol - £16.50 y flwyddyn
Ar gyfer oedolion cymwys 16-59.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tanysgrifiad Consesiynol mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Myfyrwyr: 16 oed a hŷn
- Cwsmeriaid sydd wedi cwblhau ein Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol 16 wythnos
- Staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Tanysgrifiad Gostyngiad Anabledd - £16.50 y flwyddyn
Mae Tanysgrifiad Gostyngiad Anabledd yn rhoi mynediad at nofio, campfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd am £3 y sesiwn.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tanysgrifiad anabledd mae’n rhaid i chi dderbyn un o’r canlynol:
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Taliad Annibyniaeth Bersonol
- Lwfans Gweini
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth
- Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog
- Taliad Incwm Gwarantedig
- Credydau Treth i’r Anabl
Ffoniwch: 0300 456 95 25 neu ewch i’ch canolfan Ffit Conwy agosaf i gael gwybod mwy!
Cyflwyno tystiolaeth: Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais am aelodaeth, bydd angen i chi gyflwyno’r dystiolaeth berthnasol i ddangos eich bod yn gymwys, gallwch wneud hynny drwy glicio yma:
Sesiynau Rhagdaledig
Llyfrau Ffitrwydd (rhagdaledig)
Arbed 20% ar bris eich sesiwn Ffitrwydd drwy brynu 10 ymlaen llaw.
I’w defnyddio ar gyfer sesiynau campfa a dosbarthiadau ffitrwydd gan gynnwys Les Mills, yn holl gyfleusterau Ffit Conwy.
Daw i ben 2 flynedd o’r dyddiad prynu.
Llyfrau Nofio (rhagdaledig)
Arbed 20% ar bris eich sesiynau nofio achlysurol drwy brynu 10 neu 25 ymlaen llaw.
Mae modd eu defnyddio ar gyfer nofio cyhoeddus, nofio lonydd, dechrau newydd, oedolion yn unig a sesiynau amser cinio yn holl gyfleusterau Ffit Conwy.
Daw i ben 2 flynedd o’r dyddiad prynu.
Llyfrau Sesiynau Trac (rhagdaledig)
Arbed 20% ar bris eich sesiynau trac drwy brynu 10 sesiwn ymlaen llaw.
Daw i ben 2 flynedd o’r dyddiad prynu.
Sboncen (rhagdaledig)
Arbed 20% ar bris y cyrtiau sboncen drwy brynu 3 sesiwn ymlaen llaw.
Daw i ben 6 mis o’r dyddiad prynu.