top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Hawlfraint a Gwadiadau
start content

Hawlfraint a Gwadiadau

 

Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfamserol.  Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd dibynnu ar ddeunydd anghywir a geir ar y wefan hon. Rhoddir cysylltiadau â gwefannau eraill er hwylustod i chi ac nid yw hyn yn golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn eu cymeradwyo.  Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a geir ar wefannau eraill.

Hawlfraint 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n dal yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (gan gynnwys y testun a'r delweddau), oni nodir fel arall.

Gwadiad E-bost

Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw ymgysylltiadau yn gyfrinachol, ac wedi eu bwriadu ar gyfer yr un sy'n cael ei h/enwi yn unig. Gallent gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw'r neges hon wedi eich cyrraedd ar gam, ni ddylech ei chopio, ei rhannu na dangos ei chynnwys i unrhyw un. Cysylltwch efo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar unwaith.

Nid yw'r Cyngor na'r un sydd wedi anfon y neges yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirysau, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio unrhyw ymgysylltiadau. Mae'r Awdurdod yn monitro'r defnydd o e-bost/rhyngrwyd a chynnwys y rhain i ddibenion busnes. 

Ffônau  

Gellir recordio unrhyw alwadau ffôn i’r Cyngor i ddibenion hyfforddiant a monitro. 

Arolwg Ordnans

Rhoddir trwydded ddirymiadwy nad yw'n gyfyngedig, heb freindal, i chi weld y Data Trwyddedig ar gyfer defnydd anfasnachol yn unig, o'r cyfnod y bydd ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

  • Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu, gwerthu neu fel arall drefnu bod y Data Trwyddedig ar gael mewn unrhyw ffurf i drydydd partïon; a
  • Neilltuir hawliau trydydd parti  i orfodi telerau'r drwydded hon i'r Arolwg Ordnans.

Adborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch ei bod yn anghywir neu'n anaddas, rhowch wybod i ni drwy yrru e-bost at gwe.web@conwy.gov.uk

Newid 

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r hysbysiad hwn.

.

end content