top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Ap Ffit Conwy
start content

Ap Ffit Conwy

Croeso i fersiwn 2.0 o Ap Ffit Conwy!

Lansiwyd ein Ap yn wreiddiol ym Mehefin 2021 ac yn ystod yr amser hwn mae dros 25,000 o lawr lwythiadau a 60,000 o guriadau wedi bod bob 14 diwrnod! I sicrhau fod yr ap yn parhau i gyflawni’r hyn y mae ein cwsmeriaid yn gofyn amdano, dyma ni’n gofyn am adborth ym mis Mai 2022 er mwyn dechrau datblygu fersiwn 2.0.

O wrando ar yr hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym, mae’r newidiadau canlynol wedi cael eu gweithredu:
  • Gwella’r dyluniad er mwyn ei wneud yn haws i’w ddefnyddio.
  • Cynnwys newydd yn ein hadrannau ffitrwydd a nofio.
  • Porth talu newydd.
  • Gallu archebu lle mewn canolfannau eraill heb newid clybiau.
  • Gallu newid yr iaith ar unrhyw dudalen.
Os ydych wedi defnyddio fersiwn newydd o’r ap, byddem yn gwerthfawrogi eich barn arno.

Os ydych angen help gyda’ch ap gallwch ffonio ein canolfan gyswllt ar 0300 456 95 25.


Ewch i  Google Play.
Ewch i  Apple App Store.
Gydag ap Ffit Conwy, mae eich canolfan wastad yn eich poced, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi archebu lle ar gyfer eich hoff ddosbarthiadau a gweithgareddau ffitrwydd yn gyflym.


Fe gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf, newyddion, amserlenni dosbarthiadau ffitrwydd, amserlenni nofio cyhoeddus, cynigion, digwyddiadau a hysbysiadau gwthio gyda newyddion pwysig.

  • Amserlenni dosbarthiadau ffitrwydd
    Mae amserlenni dosbarthiadau eich canolfan i’w gweld mewn amser real, gan gynnwys amseroedd, hyfforddwyr ffitrwydd a disgrifiad o’r dosbarth. 
  • Archebu dosbarth ffitrwydd
    Gallwch wirio a oes yna le, archebu lle mewn ddosbarth, newid eich archeb eu ei ganslo – i gyd ar eich ffôn! 
  • Amserlenni nofio cyhoeddus
    Mae amserlen sesiynau nofio cyhoeddus eich canolfan i’w gweld mewn amser real. 
  • Gwybodaeth am y ganolfan
    Gallwch weld ein hamseroedd agor a’n cyfleusterau. 
  • Newyddion a hysbysiadau gwthio
    Mae hysbysiadau am newyddion a digwyddiadau’r canolfannau yn dod yn syth i’ch ffôn. Gyda’r ap, fe gewch chi wybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau neu ddosbarthiadau newydd, gan sicrhau na fyddwch chi’n colli allan ar unrhyw beth. 
  • Cynigion
    Fe gewch chi hysbysiadau gwthio am gynigion newydd i sicrhau eich bod yn cael gwybod am unrhyw gynnig arbennig.
  • Aelodaeth ac ymuno ar lein
    Ewch i weld ein gwahanol fathau o aelodaeth, canfod yr un sydd orau i chi ac ymuno ar lein. 
  • Cysylltu â ni
    Gallwch gysylltu â ni ar rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost y canolfannau neu weld cyfarwyddiadau a mapiau. 
  • Rhannu ar Facebook, Twitter ac e-bost
    Rhannwch ddosbarthiadau, newyddion, gwybodaeth am ganolfannau a chynigion gyda’ch ffrindiau a’ch teulu drwy glicio botwm.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content