top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Diogelu
start content

Diogelu

 

Un o flaenoriaethau corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu ac yn gallu byw mor annibynnol ag sy’n bosibl.

Fel Cyngor, rydym yn credu fod gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i fod yn ddiogel rhag niwed. Mae'r Cyngor yn cydnabod ei rôl a'i gyfrifoldebau i roi arweiniad pendant i staff, Cynghorwyr, partneriaid a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn y maes allweddol hwn.

Mae Diogelu yn berthnasol i bawb ym mhob Gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer delio ag ymholiadau sy’n ymwneud â honiadau / pryderon y gallai plant ac oedolion fod yn dioddef niwed sylweddol, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo rôl yr unigolyn.

Mae Diogelu yn gysyniad ehangach nag amddiffyn plant ac oedolion ac mae’n ymwneud â hyrwyddo:

  • Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol;
  • Diogelu rhag niwed ac esgeulustod;
  • Addysg, hyfforddiant a hamdden;
  • Cyfraniad at gymdeithas;
  • Lles cymdeithasol ac economaidd

Am fwy o wybodaeth ar Ddiogelu neu i roi gwybod am bryder, ewch i: Diogelu (conwy.gov.uk)

Hyfforddiant Diogelu

Mae Chwaraeon Conwy y cyngor chwaraeon gwirfoddol lleol yng Nghonwy yn cynnal cyrsiau diogelu, am fwy o wybodaeth ar y cyrsiau, ewch i: Sport Conwy

Dolenni defnyddiol

SefydliadDolen
NSPCC Deal with a sport safeguarding concern
Disability Sport Wales Child Welfare and Safeguarding
Club Solutions Safeguarding in Sport
Ann Craft Trust About the Ann Craft Trust
Wales Safeguarding Procedures Social care Wales
Childline Childline
Samaritans Every life lost to suicide is a tragedy
Young Minds Children and young people's mental health charity
Mind Help for mental health problems
end content