top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Telerau Ac Amodau Aelodaeth Ffit Conwy
start content

Telerau Ac Amodau Aelodaeth Ffit Conwy

Croeso i Ffit Conwy. Rydym ni’n falch o’ch croesawu chi!

Er mwyn i gyfleusterau Ffit Conwy weithredu fel un, mae angen i ni i gyd ymrwymo i rywfaint o egwyddorion sylfaenol. Gofynnwn ichi felly ddarllen y Telerau ac Amodau Aelodaeth hyn yn ofalus a chydymffurfio â nhw.

Ffit Conwy yw enw adran gwasanaethau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Pan fyddwn ni’n nodi “ni” neu “Ffit Conwy” yn y telerau ac amodau hyn, yr ydym ni’n cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae pob contract aelodaeth.O ran ein haelodau Debyd Uniongyrchol, rydym ni’n casglu’r ffi ar yr wythfed ar hugain o bob mis calendr neu'r diwrnod gwaith agosaf ar ôl hyn. Os bydd debyd uniongyrchol yn cael ei ddychwelyd gan eich banc heb ei dalu, mae gennym ni hawl dan reoliadau BACS i ailgyflwyno cais am y taliad hwn ar unrhyw adeg heb rybudd ond cyn pen mis ar ôl ceisio cymryd y taliad gwreiddiol.

Dim ond yr unigolyn sydd â’r cofnod aelodaeth sy’n cael defnyddio’r aelodaeth. Pe canfyddir bod unrhyw unigolyn yn defnyddio aelodaeth rhywun arall, gallai’r aelodaeth gael ei chanslo neu gellir gwrthod mynediad i gyfleusterau.  Bydd y defnydd o’r aelodaeth yn cael ei fonitro ac os caiff ei gamddefnyddio, gellir canslo'r aelodaeth ac nid fydd ad-daliad yn cael ei roi am unrhyw ran o'r aelodaeth na chafodd ei defnyddio.

Rydym ni’n cadw’r hawl i derfynu aelodaeth ar unrhyw adeg heb rybudd.

Telerau ac Amodau Ffit Conwy Premiwm

Aelodau presennol Ffit Conwy:

  • Os oes gennych danysgrifiad Debyd Uniongyrchol misol i Ffit Conwy ar hyn o bryd a’ch bod yn dymuno uwchraddio i Ffit Conwy Premiwm, dim ond trwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Hamdden drwy e-bost neu dros y ffôn y gallwch wneud hynny. Y manylion cyswllt yw 0300 456 95 25 neu hamdden.leisure@conwy.gov.uk.
  • Os ydych yn uwchraddio i aelodaeth Ffit Conwy Premiwm ac yna’n dymuno dychwelyd i’ch aelodaeth wreiddiol, dim ond trwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Hamdden drwy e-bost neu dros y ffôn y gallwch wneud hynny. Y manylion cyswllt yw 0300 456 95 25 neu hamdden.leisure@conwy.gov.uk.
  • Dim ond wedi i isafswm o un taliad debyd uniongyrchol gael ei wneud ar gyfer Ffit Conwy Premiwm y gellir dychwelyd at danysgrifiad aelodaeth wreiddiol.
  • Nodwch os gwelwch yn dda os ydych yn dymuno dychwelyd at eich tanysgrifiad aelodaeth wreiddiol y byddwch yn talu’r pris aelodaeth cyfredol, nid unrhyw bris y gallech fod wedi ei gael yn flaenorol.

Aelodau newydd:

  • Gall aelodau newydd gofrestru drwy unrhyw un o’r dulliau presennol, gan ddefnyddio’r wefan ymuno adref, yn nerbynfa’r Ganolfan Hamdden neu drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt ein Gwasanaethau Hamdden ar 0300 456 95 25.
  • Os hoffech ganslo eich aelodaeth, dim ond wedi i isafswm o UN taliad debyd uniongyrchol gael ei wneud ar gyfer Ffit Conwy Premiwm y gallwch wneud hynny.

Aelodaeth Ffitrwydd

Gellir gweld ein dewisiadau aelodaeth i gyd yma: Dewch yn aelod (conwy.gov.uk).

Bydd aelodau sy’n dewis talu ar ffurf debyd uniongyrchol misol hefyd yn gwneud taliad pro rata.  Bydd y taliad pro rata yn cael ei gymryd pan fydd unigolyn yn ymuno, naill ai yn un o’r cyfleusterau neu ar-lein. Mae eich taliad pro rata yn talu am gost eich aelodaeth hyd nes bod eich debyd uniongyrchol wedi’i sefydlu gyda’ch banc. Bydd y gost hon wedi’i nodi’n glir yn y cyfleuster neu ar-lein.

Bydd pob aelod sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol misol, yn talu ffi weinyddol a fydd yn talu am weinyddu eich aelodaeth a'ch cyflwyniad i'ch gweithgaredd.

Bydd gwybodaeth yn ymwneud ag aelodaeth, cynigion aelodaeth neu unrhyw newidiadau i’r telerau ac amodau yn cael eu hanfon i chi yn ysgrifenedig drwy e-bost. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw’ch manylion cyswllt yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw newidiadau.

Tystiolaeth Ar Gyfer Aelodaeth

Efallai y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth, sy'n foddhaol i ni, o’r canlynol:

  • Eich cymhwyster ar gyfer math penodol o aelodaeth, naill ai cyn i'ch aelodaeth ddechrau neu unrhyw bryd yn ystod eich aelodaeth; neu
  • Eich hawl i ganslo neu rewi eich aelodaeth;


Os na allwch chi gyflwyno tystiolaeth foddhaol i ddangos eich bod chi’n gymwys ar gyfer aelodaeth benodol am bris gostyngol, byddwn ni’n eich uwchraddio chi’n awtomatig i'r gyfradd lawn* ac yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig yn unol â'r warant debyd uniongyrchol. *Bydd aelodaeth pobl anabl yn cael eu hatal hyd nes bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno.

Aeloadaeth Gwersi Nofio

Bydd debyd uniongyrchol misol yn cael ei sefydlu gyda'ch banc. Bydd y taliad yn cael ei dynnu o’ch cyfrif banc ar yr unfed ar bymtheg neu’r wythfed ar hugain o bob mis.

Bydd aelodau sy’n talu ar ffurf debyd uniongyrchol misol yn gwneud taliad pro rata. Bydd y taliad sy’n cael ei dynnu o’ch banc bob amser ar gyfer gwersi nofio’r mis calendr nesaf. Mae hyn yn amddiffyn eich lle ar y gwersi yr ydych chi wedi’u dewis. Gall pob aelod sy'n cael gwersi nofio gyda ni fanteisio ar sesiynau nofio cyhoeddus yn rhad ac am ddim ym mhob un o’n cyfleusterau sydd â phyllau nofio, tra eu bod nhw ar y Cynllun Gwersi Nofio. (Sylwer: mae’n rhaid i oedolyn sy’n talu ddod gyda phlant dan 8 oed.)

Taliadau

Bydd ffioedd a thaliadau fel arfer yn cael eu gosod ym mis Ebrill bob blwyddyn am y 12 mis nesaf, fodd bynnag mae Ffit Conwy yn cadw’r hawl i adolygu ffioedd ar unrhyw adeg a bydd yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud, gan roi pythefnos o rybudd.

Bydd angen i bob cwsmer sy’n talu fesul tro dalu am eu gweithgaredd pan fyddan nhw’n cadw eu lle ar gyfer y gweithgaredd hwn.Nid oes ffi am ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd.

Rhewi Aelodaeth - 'Rhewi Eich Aelodaeth'

Rydym ni’n rhoi’r dewis i unigolion ag aelodaeth debyd uniongyrchol ‘rewi’ eu haelodaeth dros dro os byddan nhw’n absennol am gyfnod hir neu’n dioddef o salwch difrifol neu anaf. Dim ond i unigolion ag aelodaeth Debyd Uniongyrchol y caiff hyn ei gynnig. Mae'r budd hwn ar gyfer misoedd calendr llawn yn unig ac mae ar gael am isafswm o 1 mis calendr a hyd at uchafswm o 3 mis calendr mewn cyfnod o 12 mis. Codir ffi ostyngol o £5 y mis fesul aelod. Mae’r budd hwn ar gyfer aelodaeth ffitrwydd drwy ddebyd uniongyrchol misol ac nid yw’n cynnwys debyd uniongyrchol ar gyfer gwersi nofio, lleoedd ar gyfer cyrsiau chwaraeon, nac yn caniatáu estyniad i aelodaeth flynyddol, oni bai bod eithriad meddygol gan weithiwr meddygol proffesiynol yn ei ategu.

Dim ond ar ôl i'r debyd uniongyrchol cyntaf gael ei gymryd (gan gynnwys unrhyw daliad pro rata) y gellir dechrau rhewi aelodaeth. Ni fydd unrhyw gynnig hyrwyddo neu gyfnod gostyngiad yn gysylltiedig â’r cyfnod rhewi yn cael ei ymestyn.  Er mwyn cael y budd hwn, gofynnwch i'n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Hamdden i rewi eich aelodaeth dros dro ar 0300 456 95 25 neu drwy e-bost: Hamdden.Leisure@conwy.gov.uk.

Ar ddiwedd y ‘cyfnod rhewi’, bydd eich debyd uniongyrchol misol yn newid yn ôl i’r ffi briodol yn awtomatig.

Ymddygiad A Derbyniadau

Rydym ni’n disgwyl i'n haelodau ymddwyn mewn modd ystyriol ac nid ydym yn caniatáu unrhyw ymddygiad amhriodol tuag at aelodau eraill na'n staff. Rydym ni’n cadw'r hawl i wrthod mynediad i aelodau sy'n ymddwyn yn y fath fodd. Gall Ffit Conwy ddiarddel aelodau neu derfynu aelodaeth unrhyw aelod heb rybudd a hynny ar unwaith os:

  • yw ymddygiad aelod, pa un a yw ymddygiad o’r fath yn destun cwyn gan aelod arall neu grŵp o aelodau ai peidio, yn golygu, ym marn resymol Ffit Conwy, y gallai fod yn niweidiol i gymeriad, enw da neu fuddiannau Ffit Conwy a/neu’r Cyfleusterau Hamdden i gyd neu rai ohonynt neu ei fod yn golygu nad yw’r aelod yn addas i ymwneud ag aelodau eraill y Cyfleusterau Hamdden i gyd neu rai ohonynt;
  • os yw'r aelodau wedi torri'r Telerau ac Amodau hyn neu wedi torri’r rheolau, is-ddeddfau a rheoliadau'r Cyfleusterau Hamdden i gyd neu rai ohonynt.
  • / Sicrhewch eich bod yn cyrraedd eich sesiwn o leiaf bum munud ymlaen llaw. Unwaith y bydd dosbarth ymarfer corff wedi dechrau ni fydd mynediad pellach.


Ar gyfer derbyniadau nofio, gweler y ddogfen polisi nofio canlynol:

Bydd aelod, y bydd ei aelodaeth yn cael ei derfynu gan Ffit Conwy, yn colli ei freintiau aelodaeth i gyd ar unwaith ac ni fydd hawl ganddo i unrhyw ad-daliad o’i dâl aelodaeth blynyddol neu ddebyd uniongyrchol pan gaiff ei gerdyn aelodaeth ei derfynu.

Cwn Cymorth

  • Cŵn Cymorth yn unig a ganiateir yn ein canolfannau.
  • Os yw Ci Cymorth yn dod i’r Ganolfan, yr ardaloedd y caiff seibiant ynddynt yw: Y Dderbynfa
  • Mae’n rhaid i’r swyddog Dyletswydd a Hyfforddwr y Gampfa gael gwybod bod Ci Cymorth yn yr Adeilad. Mae hyn er mwyn gwirio lles y ci yn rheolaidd, ac er mwyn cymryd cyfrifoldeb dros y ci os oes angen gwagio’r adeilad, ac mae’r ci yn cael ei wahanu oddi wrth ei berchennog.
  • Dylid darparu dŵr i’r ci mewn cynhwysydd plastig addas.
  • Dylai’r perchennog roi gwybodaeth am unrhyw ofynion arbennig sydd gan y ci.
  • Os oes angen, dylid tywys y perchennog yn ôl at eu ci ar ôl gweithgaredd.
  • Ni ddylai aelodau o’r cyhoedd, plant yn enwedig, dynnu sylw, siarad â, na bwydo’r ci. Pan mae’r ci yn gwisgo harnais, mae’n golygu ei fod ar ddyletswydd, ac ni ddylai pobl eraill dynnu ei sylw.
  • Ni ddylai unrhyw un, ac eithrio’r perchennog, fwydo’r ci yn y Ganolfan, os oes angen gwneud. Cadwch fwyd / pethau i demtio’r ci i ffwrdd o’r ardal a ddarperir i’r ci.
  • Dylid osgoi defnyddio cemegau cryf neu beiriannau yn agos i’r ci.
  • Dylid nodi ardal tu allan i’r Ganolfan i’r ci wneud ei fusnes a’i lanhau.
  • Cyfrifoldeb y perchennog yw disgyblu’r ci. Os oes yna unrhyw broblemau, dylech eu trafod gyda’r perchennog, a fyddai’n awyddus i sicrhau nad yw’r ci’n amharu ar aelodau eraill.

Cydraddoldeb Ac Amrywiaeth

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu cymuned i bawb sy’n byw, gweithio, neu’n ymweld â Chonwy lle mae gwerth yn cael ei roi ar amrywiaeth a lle na fydd aflonyddu a gwahaniaethu’n cael eu goddef.

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Telerau Defnyddio Cyffredinol

Mae defnyddio unrhyw un o’n cyfleusterau a’n gweithgareddau yn amodol ar y canlynol:

  • A ydych chi'n cadw at reolau'r cyfleuster ac unrhyw reolau eraill sy'n ymwneud â'r gweithgaredd neu'r cyfleuster hwnnw.
  • Mae'n ofynnol i bob aelod fewngofnodi gan ddefnyddio'r bariau mynediad neu wrth y dderbynfa ar bob ymweliad. Pan fyddwch chi’n ymuno, bydd angen i ni dynnu eich llun er mwyn i ni allu nodi mai deiliad yr aelodaeth yn unig sy'n defnyddio'r cyfleusterau. Mae hyn er mwyn diogelu ein haelodau i gyd o ran iechyd a diogelwch a sicrhau mai’r aelodau hynny sy'n talu am danysgrifiad Aelodaeth yn unig sy'n cael mynediad. Bydd y llun hwn yn ymddangos ar sgrin y cyfrifiadur bob tro y bydd yr aelod yn mewngofnodi.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw eich iechyd. Mae risg ynghlwm ag ymarfer corff, ac felly ni ddylech chi byth wneud ymarfer corff sydd y tu hwnt i'r hyn y gallwch chi ymdopi ag ef.  Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynghylch eich ffitrwydd, neu os oes gennych chi unrhyw gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich diogelwch drwy wneud ymarfer corff, dylech chi ofyn am gyngor gan eich meddyg cyn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Mae’n rhaid rhoi gwybod i aelod o staff am unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau ar unwaith.
  • Ni chaniateir i chi gael mynediad i’r cyfleusterau na chymryd rhan mewn gweithgareddau dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon. Ni chaniateir ysmygu yn unrhyw un o’n cyfleusterau nac wrth fynedfeydd/allanfeydd. Mae hyn yn cynnwys E-sigaréts/Fêpio.
  • Rydych chi’n gwisgo dillad sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd.
  • Ym mhob achos, ein dehongliad ni o'r Rheolau a'r telerau hyn fydd yn cael blaenoriaeth a phenderfyniad y Rheolwr neu ei enwebai/henwebai sy’n derfynol ac mae’n rhaid ei barchu.

Loceri

Mae loceri yn ein cyfleusterau ni at ddefnydd Aelodau sy’n defnyddio’r cyfleuster yn unig a gellir eu defnyddio dan yr amodau canlynol:

  • Ni ddylech fynd ag allweddi’r locer oddi ar y safle
  • Mae gennym ni hawl i agor unrhyw locer ar unrhyw adeg os ystyrir bod hyn yn angenrheidiol; byddwn ni’n gwagio pob locer bob nos ac yn storio unrhyw eitemau y byddwn ni’n dod o hyd iddynt fel eiddo coll
  • Ni ddylech roi unrhyw nwyddau anghyfreithlon neu ddeunyddiau traul, nwyddau gwenwynig, llygredig neu sydd wedi’u halogi, nwyddau fflamadwy neu beryglus, planhigion neu anifeiliaid byw, bwyd neu nwyddau darfodus neu wastraff yn y loceri.
  • Ni ddylid defnyddio loceri ar gyfer eitemau gwerthfawr. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw weithgarwch troseddol unigolion eraill a chi fydd yn gyfrifol am unrhyw eitemau sy’n cael eu gadael ar ôl.
  • Bydd eitemau sy'n cael eu gadael mewn ciwbiclau (pobl sy’n gwrthod defnyddio loceri) yn cael eu symud i'r dderbynfa.

Eiddo Personol, Anafiadau A Salwch

Ni ddylech chi wneud ymarfer corff sydd y tu hwnt i’ch gallu. Os ydych chi’n gwybod bod gennych chi gyflwr meddygol neu’n pryderu bod gennych chi un a allai eich atal chi rhag gwneud ymarfer corff yn ddiogel, dylech chi ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol cyn defnyddio ein cyfarpar a’n cyfleusterau a dilyn y cyngor hwnnw fel sydd wedi’i nodi yn ein Holiadur Iechyd.

Yn unol â pharagraff olaf yr adran hon, ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw eiddo sy’n mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi o ganlyniad i’r canlynol:

  1. Eich bai chi
  2. Trydydd parti nad yw'n gysylltiedig â'n gwasanaethau dan y cytundeb hwn;
  3. Digwyddiadau na allwn ni na’n cyflenwyr fod wedi eu rhagweld na’u hatal yn rhesymol hyd yn oed pe byddem ni wedi cymryd pob gofal rhesymol

 

Polisi Preifatrwydd

I gael manylion ynghylch sut mae Ffit Conwy yn defnyddio gwybodaeth bersonol, gweler ein Polisi Preifatrwydd ar ein gwefannau. Hysbysiad Preifatrwydd (conwy.gov.uk).

Campfeydd Ffit Conwy - Amodau Defnyddio

Mae’r amodau defnyddio canlynol er eich diogelwch chi, eich mwynhad o’r cyfleuster a diogelwch yr offer y byddwch chi’n ei ddefnyddio.

Y Broses Gyflwyno - mae’n rhaid i chi gwblhau un o’r dewisiadau canlynol cyn defnyddio ein cyfleusterau campfa:

  1. Cyflwyniad Wyneb yn Wyneb - cyn y gallwch chi ddechrau defnyddio’r gampfa yn un o Ganolfannau Hamdden Ffit Conwy mae’n rhaid i chi gael cyflwyniad i’r cyfleusterau. Er mwyn defnyddio campfeydd eraill canolfannau hamdden Ffit Conwy, gall defnyddwyr drefnu Cyflwyniad Cyflym. Mae’n rhaid trefnu’r sesiwn hwn ymlaen llaw.
  2. Cyflwyniad ar-lein - mae’n rhaid i chi gwblhau’r cyflwyniad ar-lein cyn defnyddio cyfleusterau campfa Canolfannau Hamdden Ffit Conwy. Bydd y cyflwyniad ar-lein yn rhoi cyfarwyddyd i chi ar sut i ddefnyddio’r offer. Yn rhan o’r telerau ac amodau, mae’n rhaid gwylio pob fideo cyn defnyddio’r cyfleusterau. Ar ôl i chi gwblhau’r cyflwyniad, bydd modd cael cyflwyniad cyflym/gloywi ar-lein yn Ffit Conwy os bydd angen.


Os byddwch chi’n defnyddio un o’n campfeydd ni ac nad ydych chi wedi cwblhau’r naill na’r llall o’r dewisiadau cyflwyno uchod, eich dewis chi yw hynny ac ni fydd gan Ffit Conwy unrhyw atebolrwydd. Bydd gwiriadau ar hap yn cael eu gwneud a bydd unrhyw un sy'n defnyddio'r gampfa nad ydynt wedi cwblhau’r cyflwyniad yn cael ei wahardd o'r cyfleuster.

  • Diogelwch Personol - Ni ddylech wneud ymarfer corff sydd y tu hwnt i’ch gallu. Os ydych chi’n gwybod bod gennych chi gyflwr meddygol neu’n pryderu bod gennych chi un a allai eich atal chi rhag gwneud ymarfer corff yn ddiogel, dylech chi ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol cyn defnyddio ein cyfarpar a’n cyfleusterau a dilyn y cyngor hwnnw.
  • Diogelwch Offer - yn ystod y cyflwyniad, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn y gampfa’n ddiogel ac yn effeithiol, yn cynnwys yr hyn y dylid ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le wrth ddefnyddio’r peiriannau.
  • Defnyddio’r campfeydd - mae’n rhaid i bob aelod alw yn y dderbynfa ar bob ymweliad.  Bydd angen cod ar gyfer rhai cyfleusterau. Byddwch chi’n cael cod ar bob ymweliad.  Mae’r cod hwn yn gyfrinachol ac ni ddylid ei roi i unrhyw ddefnyddiwr arall nac unrhyw un nad yw’n ddefnyddiwr. Ni fydd defnyddwyr a ganfyddir yn rhoi’r cod i eraill yn cael parhau i ddefnyddio’r cyfleuster.
  • Uchafswm nifer – dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael bob awr ym mhob cyfleuster. Er mwyn osgoi siom, cadwch eich lle ar gyfer sesiynau ymlaen llaw. Ni ddylai unrhyw sesiwn bara mwy na 60 munud.   Peidiwch ag aros am fwy na’r awr a neilltuwyd i chi.
  • Problemau – os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn y cyfleuster, gallwch chi siarad â’r hyfforddwyr wyneb yn wyneb, neu gysylltu â’r dderbynfa am gymorth.  Rhowch wybod i’r hyfforddwyr neu i’r dderbynfa am unrhyw ddiffygion, problemau neu offer wedi torri gan y bydd hyn yn cyflymu’r broses atgyweirio ac yn lleihau'r amser pan na fydd yr offer ar gael.
  • Hylendid a Chysur – mae tyweli papur a chwistrellau diheintio ar gael, defnyddiwch y rhain i lanhau’r offer ar ôl ei ddefnyddio er budd defnyddwyr eraill.  Taflwch y tyweli papur a ddefnyddiwyd i’r biniau a ddarperir.   Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo dillad ac esgidiau ffitrwydd priodol bob amser. Fe’ch cynghorir i yfed digon o ddŵr yn ystod eich gweithgaredd corfforol felly dewch â dŵr gyda chi neu efallai y bydd ar gael yn y dderbynfa mewn rhai cyfleusterau.  Fe'ch cynghorir i ddefnyddio tywel campfa er eich budd personol.
  • Cwrteisi yn y Gampfa – ystyriwch ddefnyddwyr eraill wrth wneud ymarfer corff. Mae’r cyfnod y gellir defnyddio pob darn o offer ymarfer corff wedi’i gyfyngu i 20-25 munud yn ystod cyfnodau prysur. Mae’n rhaid dychwelyd y pwysau i’r rhesel ar ôl eu defnyddio.   Peidiwch ag agor y ffenestri os gwelwch yn dda, gofynnwch i aelod o staff wneud hyn os bydd angen.
  • Argyfwng - pe bai damwain neu ddigwyddiad yn y gampfa, rhowch wybod i’r aelod o staff agosaf ar unwaith.


Datganiad: Rwyf wedi darllen a deall yr amodau uchod.  Byddaf yn cadw at yr amodau hyn bob amser.

end content