cy Telerau ac Amodau Nofio a Gymnasteg
start content

Telerau ac Amodau Nofio a Gymnasteg

 

I sicrhau bod cyfleusterau Ffit Conwy yn gweithredu’n effeithiol, gofynnwn yn garedig i’r holl aelodau ddarllen a chadw at Delerau ac Amodau Aelodaeth fel a ganlyn.

Ffit Conwy yw adran gwasanaethau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Pan nodir “ni” neu “Ffit Conwy” yn y telerau ac amodau hyn, cyfeirir at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae pob aelodaeth yn cynnwys cytundeb dan gontract rhwng yr aelod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Ar gyfer aelodau sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, cesglir y taliadau ar yr 16eg neu’r 28ain o bob mis calendr, neu ar y diwrnod gwaith nesaf os yw’r dyddiadau hyn ar benwythnos neu wyliau cyhoeddus.

Os bydd taliad Debyd Uniongyrchol yn cael ei ddychwelyd heb ei dalu, rydym yn cadw’r hawl, dan reoliadau BACS, i ailgyflwyno’r cais am daliad ar unrhyw adeg o fewn mis ar ôl ceisio cymryd y taliad gwreiddiol, heb rybudd ymlaen llaw.Ni chaniateir trosglwyddo aelodaeth ar unrhyw gyfrif, a dim ond yr unigolyn a enwir ar gofnod yr aelodaeth a gaiff ei defnyddio.

Os canfyddir bod unigolyn arall yn defnyddio aelodaeth na chofrestrwyd iddo / iddi, mae’n bosibl y diddymir yr aelodaeth ar unwaith a gwrthodir mynediad i gyfleusterau. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am unrhyw gyfran na ddefnyddiwyd o’r aelodaeth. Rydym yn cadw’r hawl i derfynu unrhyw aelodaeth ar unrhyw adeg heb rybudd.

Dechrau’r Aelodaeth

Cyn dechrau eich aelodaeth mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais cwsmer ac aelodaeth. Bydd peidio â gwneud hyn yn arwain at atal neu ddiddymu aelodaeth, ac ni fydd unrhyw ffioedd a dalwyd yn cael eu had-dalu.

Mae’n rhaid talu’r holl ffioedd yn llawn cyn cymryd rhan yn rhaglen ‘Dysgu Nofio’ neu ‘Gymnasteg RISE’ Ffit Conwy. Os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen taliad pro rata cychwynnol ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad ymuno a’r dyddiad nesaf y cesglir Debyd Uniongyrchol. Mae gwybodaeth gyfredol am y prisiau ar gael yn nerbynfa Ffit Conwy.

Mae taliadau Debyd Uniongyrchol yn talu am y mis calendr sydd i ddod, ac maent yn gweithredu ar sail dreigl, heb ddyddiad terfyn penodedig. Bydd manylion personol a ddarparwyd wrth gofrestru yn cael eu storio’n ddiogel yn ein system aelodaeth, ac yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfathrebu a gweinyddu’r aelodaeth yn unig. Prosesir casgliadau Debyd Uniongyrchol yn uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Amodau Defnyddio

Ni chaniateir trosglwyddo aelodaeth ar unrhyw gyfrif, a dim ond yr unigolyn a enwir ar gofnod yr aelodaeth a gaiff ei defnyddio. Gall cyfranogwyr newydd ymuno â gwersi nofio neu gymnasteg ar unrhyw adeg, os oes lle ar gael.

Pan fo taliad wedi ei wneud am wersi, ni roddir ad-daliadau oni bai bod nodyn meddyg wedi ei lofnodi neu dystysgrif eithrio meddygol ddilys yn cadarnhau’r absenoldeb. Mewn achosion o’r fath, bydd unrhyw gredyd sy’n ddyledus yn cael ei roi fel gostyngiad ar daliadau am wersi yn y dyfodol.

I sicrhau profiad diogel a dymunol i bawb sy’n cymryd rhan, mae’n rhaid gwisgo gwisg briodol bob amser. Mae hyn yn cynnwys dillad gymnasteg Ffit Conwy neu ddillad tebyg ar gyfer sesiynau gymnasteg, a gwisg nofio fel y nodir yn y llyfryn ‘Eich Diogelwch yn ein Pyllau’ ar gyfer gwersi nofio. Dangosir hyn ar ein gwefan hefyd: Dillad nofio yn y pwll.

Mae pob gwers yn cynnwys cyfnod cofrestru a gweinyddu am bum munud o fewn yr amser a drefnwyd ar gyfer y sesiwn er mwyn cofnodi presenoldeb at ddibenion iechyd a diogelwch. Mae yna gyfyngiad ar faint dosbarthiadau yn unol â chanllawiau’r corff llywodraethu perthnasol er mwyn cynnal amgylchedd dysgu o ansawdd uchel.

Ni chaniateir i rieni a gwarcheidwaid fod ar ochr y pwll nac yn yr ystafell gymnasteg ar unrhyw adeg. Bydd hyfforddwyr cymwys yn mesur cynnydd drwy gydol y rhaglen yn unol â’r Fframwaith Dysgu Nofio gan Nofio Cymru a chanllawiau Gymnasteg RISE. Dylid gwneud ymholiadau ynglŷn â chynnydd yn y dderbynfa neu gyda thîm y ganolfan gyswllt.

Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn barod i ddechrau ar yr amser dechrau, ac ni chânt fynd i’r dŵr nac i’r ardal gymnasteg tan iddynt gael cyfarwyddyd i wneud hynny. Bydd cynnydd yn amrywio yn ôl gallu unigol. Pan fo plentyn yn barod i symud i’r cam nesaf, rhoddir gwybod am hynny drwy e-bost a ‘Slip Bathodyn Cwblhau’. Gellir trefnu i newid gwersi drwy’r dderbynfa neu’r ganolfan gyswllt.

Gwaherddir defnyddio camerâu neu ddyfeisiau recordio fideo, gan gynnwys ffonau symudol, yn gyfan gwbl yn y cyfleuster. Mae’n rhaid i rieni neu warcheidwaid plant dan wyth oed aros ar y safle drwy gydol y wers.

Telerau Cyffredinol

Mae’r Rhaglenni Nofio a Gymnasteg yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn am gyfanswm o 52 wythnos, ar wahân i’r cyfnod cau am bythefnos dros y Nadolig. Cyfrifir ffioedd aelodaeth Debyd Uniongyrchol yn seiliedig ar 50 wythnos fesul blwyddyn galendr.

Mae gan unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio drwy aelodaeth Debyd Uniongyrchol yr hawl i fynd i sesiynau nofio cyhoeddus i rai dan un mlwydd ar bymtheg oed am ddim. Bydd plant ar y tanysgrifiadau hyn hefyd yn derbyn gostyngiad oddi ar gost sesiynau Gwersyll Chwaraeon a Disgo Sglefrio.

Gellir addasu taliadau Debyd Uniongyrchol i gyfrif am wersi a gafodd eu canslo yn ôl yr angen. Mae aelodau’n gyfrifol am sicrhau bod digon o arian ar gael yn y cyfrif a ddewiswyd i alluogi i’r ffioedd gael eu casglu ar y dyddiad y cytunwyd arno. Bydd achosion mynych o beidio â thalu yn arwain at golli breintiau Debyd Uniongyrchol hyd nes bydd yr holl symiau sy’n ddyledus wedi eu talu.

Cyn dechrau gwersi mae’n rhaid llenwi ffurflen gofrestru. Bydd cardiau aelodaeth yn parhau i fod yn eiddo i Ffit Conwy. Wrth ymuno tynnir llun o’r plentyn a’i ddangos ar y sgrin wirio wrth fynd i mewn. Mae’n rhaid i’r aelod dalu am gerdyn newydd os yw wedi ei golli neu ei ddifrodi, ac mae’n rhaid cyflwyno cerdyn ar gyfer mynediad i sesiynau nofio cyhoeddus.

Mae’n rhaid i aelodau roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion cyswllt neu feddygol yn ystod cyfnod yr aelodaeth i staff derbynfa’r ganolfan hamdden neu drwy anfon e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk. Gall oriau agor cyfleusterau newid, ac mae’n bosibl i wasanaethau gael eu hatal dros dro oherwydd galâu, twrnameintiau, arddangosfeydd, gwaith atgyweirio, cynnal a chadw, neu amgylchiadau rhesymol eraill. 

Rhoddir rhybudd o newidiadau o’r fath drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan lle bynnag bo’n bosibl. Os na ellir cynnig sesiynau yn eu lle, gellir rhoi credydau am sesiynau a ganslwyd tuag at daliadau yn y dyfodol.

Byddwn yn ymdrechu i ddarparu’r un hyfforddwr ar gyfer pob gwers; fodd bynnag, mae’n bosibl y defnyddir hyfforddwyr eraill heb rybudd ymlaen llaw. Os bydd hyfforddwr yn absennol, gellir cyfuno dosbarthiadau yn ôl doethineb rheolwyr y cyfleuster, a gallai hynny arwain at gapasiti uwch mewn dosbarth.

Mae telerau ac amodau Ffit Conwy yn berthnasol i bob cyfranogwr. Dim ond os oes lle ar gael y gellir cynnig gwersi. Rhoddir gwybod am unrhyw newidiadau i’r Telerau ac Amodau hyn yn ysgrifenedig, gyda rhybudd o bedwar diwrnod ar ddeg o leiaf.

Bydd aelodau’n derbyn pob risg a chyfrifoldeb am unrhyw niwed, colled, difrod, difrod i eiddo, neu anaf personol sy’n deillio o ddefnyddio cyfleusterau Ffit Conwy, neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o gyfleusterau Ffit Conwy. Mae’n bosibl y diddymir aelodaeth os yw aelod yn torri’r cytundeb hwn neu reolau’r cyfleuster, os yw’r cerdyn aelodaeth yn cael ei gamddefnyddio, neu os yw’r aelod yn cam-drin staff neu aelodau eraill yn eiriol neu yn gorfforol.

Mewn achosion o’r fath ni roddir ad-daliad. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw apeliadau yn erbyn diddymu aelodaeth yn ysgrifenedig i hamdden.leisure@conwy.gov.uk; bydd apeliadau’n cael eu clywed wyneb yn wyneb, a darperir penderfyniad o fewn saith niwrnod i ddyddiad y gwrandawiad.

end content