cy Cartref Datblygu Hamdden Nofio Diogel
start content

Nofio Diogel

Lansiwyd Nofio Diogel yn 2013 gan Swim England a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a’r nod yw helpu plant i ddysgu sut i aros yn ddiogel mewn dŵr agored ac o’i gwmpas, cyn iddynt fod angen cael eu hachub.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc â’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i reoli risg yn ddiogel, gan roi’r hyder iddynt wneud penderfyniadau deallus yn yr awyr agored. Mae’n cynnig

cyfle i blant feithrin hyder a sgiliau achub bywyd gan ddysgu’n uniongyrchol o amodau go iawn, gyda chefnogaeth hyfforddwyr cymwys.

Mae Tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy yn rhedeg sesiynau Nofio Diogel ar gyfer ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a grwpiau AAA. 

Mae’r rhaglen yn rhedeg bob blwyddyn rhwng mis Mai a mis Hydref ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Yn 2025, enillodd tîm Ffit Conwy Wobr Genedlaethol gan Nofio Cymru - “Gwobr Nofio Ysgolion ac Effaith Diogelwch Dŵr” am ddarparu menter Nofio Diogel.

 

end content