Ein Straeon a Barn y Defnyddwyr
Mae pob stori yn bwysig – ac rydym yn falch o’u rhannu.
O blant yn rhoi cynnig ar rhywbeth newydd i grwpiau cymunedol yn cyrraedd cerrig milltir ardderchog, mae’r lle hwn yn cofnodi’r eiliadau sy’n ein hysbrydoli ni.
Gallwch ddarllen straeon, edrych ar uchafbwyntiau a gweld beth mae pobl yn ei ddweud am ein rhaglenni.
“Dim ond nodyn bach i ddweud faint mae’r bobl ifanc yn mwynhau’r aelodaeth campfa. Maen nhw i gyd mor frwdfrydig ac yn ymgysylltu ag ef. Fe wnaeth un person ifanc sy’n ei chael yn anodd iawn integreiddio â grwpiau aros ar ôl y sesiwn a mynd yn ôl i’r gampfa i wneud mwy o ymarfer corff gyda chefnogaeth ac arweiniad gan un o’n pobl ifanc eraill. Wedyn fe wnaethon nhw gerdded i’r safle bws gyda’i gilydd er mwyn iddo ddal y bws adref ar ei ben ei hun am y tro cyntaf!”
“Diolch am adael i mi aros gyda chi ddydd Mercher pan oedd y plant ‘Rookie’ o’n hwythnos ddwys gyda chi ar gyfer sesiwn ar y traeth. Am sesiwn wych!!
Dyma adborth gan rai o’r plant:
‘Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i mewn i’r môr!’
‘Roeddwn i’n caru’r padlfyrddau!’
‘Roedd syrffio ar y padlfyrddau yn wych!’
‘Roeddwn i’n caru’r cawodydd poeth!’ (haha)
Roedd y rhieni yn canmol yr ymweliad gan ddweud bod eu plant wedi wir fwynhau. Roedd y sesiwn yn llwyddiant mawr. Roedd yn braf a hamddenol, ac fe gawsant gymaint o wybodaeth am ddiogelwch yn y môr.”
“Cafodd ein plant a phobl ifanc amser anhygoel yr wythnos diwethaf yn ein sesiwn Cuddfannau a Llithrennau ar y cyd â Datblygu Hamdden Ffit Conwy! O’r llithro a sleidio poblogaidd yn y dŵr i’r gegin fwd, chwarae dŵr, celf a chrefft, adeiladu cuddfannau a hyd yn oed gweld y rhieni’n ymuno â phaentio wynebau.
Roedd y diwrnod yn llawn o hwyl, cyswllt a chreadigrwydd! Roedd mor hyfryd gweld cynifer o wynebau hapus yn mwynhau bob munud. A dyna’r nod! Diolch yn fawr iawn i’r tîm anhygoel yn Ffit Conwy – mae eich egni a’ch brwdfrydedd yn gwneud popeth mor arbennig. Allwn ni ddim aros tan y sesiwn nesaf!”
“Mae pob sesiwn wedi bod yn wych, gallwch weld y gwahaniaeth yn eu sgiliau ers dechrau’r gaeaf hyd rŵan. Bu cydbwysedd da rhwng hwyl a strwythur ac mae A wedi mwynhau hyn yn fawr.
Mae’n braf eu gweld yn cydweithio a dysgu gan ei gilydd a gennych chi.
Diolch am y gwaith caled a’r ymrwymiad yr ydych chi wedi’i roi i A ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i wylio’r cynnydd.”
“Diolch yn fawr iawn i chi, eich hyfforddwyr a’r chwaraewyr am ddod i’n digwyddiad ddoe – fe wnaethoch chi ychwanegu at lwyddiant y diwrnod. Roedd yn wych sgwrsio â chi a chlywed mwy am yr hyn yr ydych chi’n ei wneud a pham – cafodd hyn effaith arnaf i.
Daeth y Cynghorydd Tref lleol, Anne Williams, i’r digwyddiad ac roedd hi’n eich canmol chi hefyd – bu’n rhaid iddi ddefnyddio cadair olwyn am sawl blwyddyn pan oedd hi’n iau a dywedodd bod eich gweithgareddau chi mor bwysig i rai nad ydynt yn defnyddio cadair olwyn hefyd.”
“Roedd yn bleser cwrdd â chi a’r tîm ddydd Gwener yn y seremoni Gwobrau Chwaraeon. Roedd yr holl waith yr ydych chi a’r tîm wedi’i roi i mewn i’r digwyddiad hyfryd hwn wedi creu argraff arnom. Mae’n ddigwyddiad mor galonogol ac mae’n ein gwneud yn falch o allu ei gefnogi.”