cy Cartref Datblygu Hamdden Digwyddiadau a Gweithgareddau yn Ystod Gwyliau Ysgol
start content

Digwyddiadau a Gweithgareddau Datblygu Hamdden yn Ystod Gwyliau Ysgol

Mae’r tîm datblygu hamdden yn rhedeg digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. 
Mae’r tîm datblygu hamdden yn ymrwymedig i ddarparu digwyddiadau sy’n ymwneud â chwaraeon trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys rhaglenni gwyliau, digwyddiadau chwaraeon penodol a’r dathliad Gwobrau Chwaraeon blynyddol.

Chwarae allan

Chwarae allan

Ystod Oedran: Oedran 5-15

Mae chwarae allan yn gyfle i chwarae, mwynhau, gwlychu, baeddu a gwneud ffrindiau

Dyddiadau a Lleoliadau

Gweler holl sesiynau, dyddiadau a lleoliadau Chwarae Allan Hanner Tymor yma:

Chwarae Allan

Cost: Am ddim i fynychu a does dim angen archebu ymlaen llaw!

Chwarae allan
Chwarae yn y goedwig -Sesiynau teulu Calan Gaeaf/Hydref

Chwarae yn y goedwig -Sesiynau teulu Calan Gaeaf/Hydref

Ystod Oedran: Rhaid i blant dan 5 oed fod yng nghwmni eu rhieni

Dros hanner tymor mis Hydref eleni, bydd y tîm yn cynnal sesiynau teuluol mewn mannau chwarae mewn coetiroedd yng Nghonwy.

Dyddiadau a Lleoliadau

Bydd amrywiaeth o orsafoedd gennym yn cynnwys crefftau, hwyl gyda phwmpenni, coginio wrth y tân gwersyll, ac adeiladu cuddfannau, yn ogystal â llwybrau arswydus gyda danteithion blasus!

  • Dydd Llun 2:30pm - 4pm Coedwig Marl, Cyffordd Llandudno, LL31 9JA
  • Dydd Mercher 2:30pm - 4pm Parc Plas Mawr, Penmaenmawr LL34 6JA
  • Dydd Gwener 2:30pm - 4pm Coedwig Bodlondeb, Conwy, LL32 8DH

Cost: MYNEDIAD AM DDIM!

Free

Dysgu Mwy

Gwobrau Chwaraeon Conwy

Ystod Oedran:

Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy.

Dyddiadau a Lleoliadau

Gwobrau Chwaraeon 2026: 
Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026 | 7.30pm | Venue Cymru, Llandudno

Cost: -

Dysgu mwy a enwebwch nawr!

 

end content