top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Chwaraeon Conwy
start content

Chwaraeon Conwy

Chwaraeon Conwy yw'r fforwm gwirfoddol ar gyfer sefydliadau chwaraeon yng Nghonwy. Chwaraeon Conwy yw'r corff cynrychioliadol o hyd at 80 o glybiau a sefydliadau chwaraeon cyswllt. Croesewir Aelodau o'r sector gwirfoddol, preifat a chyhoeddus, gan greu agwedd wirioneddol gyfannol at chwaraeon yng Nghonwy. Cost cysylltiad yw £30 y flwyddyn.

Mae Chwaraeon Conwy yn cynnig arian a chefnogaeth ar gyfer athletwyr talentog sy'n cystadlu ar lefel Ranbarthol drwy'r Grant Datblygu Personol a’r Grant Anafiadau Chwaraeon ac ar lefel Genedlaethol drwy Gynllun Cerdyn Aur Gogledd Cymru. Am fwy o wybodaeth am y rhain, ewch i'r dudalen Cymorth i Athletwyr Talentog.

Mae gan Chwaraeon Conwy Gyfeirlyfr Clybiau, felly os ydych yn chwilio am glwb penodol, neu os ydych eisiau edrych ar yr ystod o gyfleoedd sydd yn y sir, edrychwch yn y Cyfeirlyfr.  Mae Chwaraeon Conwy yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd addysg hyfforddwyr, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Brys, Diogelu a Gwarchod Plant mewn Chwaraeon UK hyfforddi a Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU ar gyfer clybiau a gwirfoddolwyr sy'n ceisio bod yn fwy cynhwysol wrth ddarparu gweithgareddauh.

Os ydych eisiau hybu eich clwb, yna beth am fanteisio ar STOPWATCH, cylchgrawn chwe misol Chwaraeon Conwy. Mae'r cyhoeddiad hwn yn llawn o straeon da, llwyddiannau athletwyr, digwyddiadau sydd i ddod a newyddion ariannu.

Gwefan Chwaraeon Conwy

Tudalen Facebook Chwaraeon Conwy

Chwaraeon Cymru



end content