Hyfforddi Hyfforddwyr
Trwy bartneriaeth hir sefydlog gyda Chwaraeon Conwy, mae rhaglen o gyrsiau hyfforddi hyfforddwyr yn cael ei darparu o fewn y sir. Mae'r cyrsiau hyn yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer hyfforddwyr cymwys a gwirfoddolwyr sy'n dymuno ennill cymwysterau hyfforddi yn y dyfodol.
Diogelu ac Amddiffyn Plant SCUK
Mae gan bob plentyn yr hawl i fwynhau ei gamp. Bydd y gweithdy hwn yn codi eich ymwybyddiaeth o arwyddion camdriniaeth ac arfer gwael, ac yn rhoi’r arfau a’r hyder sydd eu hangen arnoch chi i ddelio ag unrhyw fater mewn modd sensitif, priodol ac effeithiol os bydd yr angen byth yn codi yn eich gyrfa fel hyfforddwr. Byddwch yn gallu:
- Darparu profiad chwaraeon cadarnhaol a chyfoethog i blant a phobl ifanc
- Adnabod ac ymateb i arwyddion a symptomau cam-drin plant ac arfer gwael
- Cymryd y camau priodol os oes pryderon ynghylch plentyn
(I lawer o gyrff llywodraethu chwaraeon mae’r gweithdy hwn yn safon ofynnol ar gyfer hyfforddwyr. Mae’r safon ofynnol ar gyfer hyfforddwyr yn cael ei hystyried fel y safon sylfaenol sydd yn rhaid i bob hyfforddwr ei chyrraedd er mwyn ymgymryd â’i rôl yn ddiogel ac yn effeithiol).
Noder: Nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed. Nid yw'r cwrs hwn yn weithdy a argymhellir ar gyfer y rheiny sydd eisiau adnewyddu eu hyfforddiant diogelu.
Cymorth Cyntaf Brys Chwaraeon
Gall triniaeth frys effeithiol cyn i gymorth proffesiynol gyrraedd leihau effeithiau salwch ac anafiadau ac, yn y pendraw, achub bywyd person. Efallai mai dilyn cwrs cymorth cyntaf fydd y penderfyniad pwysicaf y byddwch chi byth yn ei wneud.
Cyrsiau Hyfforddi Cynhwysiant Anabledd (UK DIT)
Mae'r gweithdy yn cwmpasu canfyddiadau a phrofiadau, deall y cyfranogwr, modelau cynhwysiant, cyfathrebu, deddfwriaeth, gwybodaeth bellach a phwy sydd ar gael i helpu, a phrofiad ymarferol o addasu gweithgareddau.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.sportconwy.org.uk
I archebu lle ffoniwch 01492 575564.