Arian ar gyfer Clybiau Chwaraeon
Mae grantiau ar gael i glybiau a sefydliadau sy'n dymuno datblygu cyfleusterau, pobl a chynlluniau newydd i gynyddu faint sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
CRONFA CYMRU ACTIF
Mae Chwaraeon Cymru wedi ailddyrannu cyllidebau i greu cronfa i helpu i gefnogi clybiau a sefydliadau dielw i amddiffyn eu cynnig chwaraeon yn ystod y pandemig, ac i baratoi ar gyfer ailagor.
Enw’r grant newydd yw Cronfa Cymru Actif a bydd yn allweddol wrth gefnogi chwaraeon llawr gwlad i oroesi'r cyfnod clo a ffynnu y tu hwnt i’r pandemig.
Bydd gan y Gronfa Cymru Actif y 3 nod canlynol:
Nid yw’n ddiogel i bob math o weithgaredd ailgychwyn eto. Hyd hynny, gall y gronfa hon eich helpu i oroesi'r pandemig os yw eich gweithgaredd mewn perygl ariannol.
Gall rhai mathau o weithgareddau ddychwelyd wrth i eraill gynllunio i ailgychwyn yn y dyfodol. Gall y gronfa hon eich helpu i baratoi i ailgychwyn mwynhau eich gweithgaredd yn ddiogel.
Bydd yr elfen ‘cynnydd’ yn helpu i fynd a chwaraeon a gweithgareddau i’r cam nesaf a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif/
Neu i wneud cais ewch i: https://grants.sport.wales/en/login?ReturnUrl=%2F