Datblygu Hamdden Gwledig
Prif nod y tîm datblygu hamdden gwledig yw cefnogi cymunedau gwledig i ddatblygu clybiau sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon ar ôl ysgol a sesiynau ffitrwydd i oedolion.
Darparu arweiniad a chymorth grant cyffredinol i glybiau ac athletwyr dawnus. Mae’r adran yn cynnwys tîm ymroddedig o hyfforddwyr sy’n darparu ystod o weithgareddau hamdden yng Nghonwy Wledig.
Mae’r rhaglen a gynigir yn cynnwys:
- Dosbarthiadau ffitrwydd oedolion (Ymarfer Bocsio, Beicio Stiwdio, Pilates, Pwysau Tecell, Hyfforddiant Cylchol)
- Chwaraeon ar ôl ysgol (sesiynau aml-chwaraeon)
- Hyfforddiant Beicio a Hyfforddiant Beicio Mynydd
- Hyfforddiant sgwter
- Sesiynau Beicio Mynydd Trydan i grwpiau