top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Datblygu Chwarae
start content

Datblygu Chwarae

Mae Tîm Datblygu Chwarae Conwy yn eirioli dros chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi chwarae mewn amryw ffyrdd ledled y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am ein gwaith, cysylltwch â Nat ar 01492 575016 neu anfonwch e bost at nathania.scyner@conwy.gov.uk.

Gwirfoddolwyr

Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn cynnig cefnogaeth a mentora i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli mewn lleoliadau chwarae. Rhoddir cyfle i wirfoddolwyr gael mynediad i hyfforddiant a chymwysterau rhad ac am ddim.

Cynllun Hyfforddi

Rydym am roi’r hyn sydd ei eisiau arnynt i’r sector chwarae a phawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, felly os oes gennych angen o ran hyfforddiant ym maes chwarae neu waith chwarae nad ydym yn sôn amdano yma, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.

Os oes gennych grŵp o 6 neu fwy, gallwn redeg y rhan fwyaf o gyrsiau yn arbennig ar eich cyfer chi ar ddyddiad o’ch dewis, mewn lleoliad o’ch dewis. Cysylltwch â ni i drefnu.

Sylwch: Gan mai Tîm Datblygu Chwarae CONWY ydym ni, byddwn yn rhoi’r cynnig cyntaf am leoedd hyfforddiant i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy bob amser. Os oes lleoedd ar ôl ar gyrsiau, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried sefydliadau sy’n seiliedig y tu allan i’r sir.

Cyfleoedd Chwarae Digonol

Dan adran 11 (1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru), mae gofyn i bob Awdurdod Lleol gynnal asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae bob 3 blynedd i asesu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal. Yn ychwanegol, mae gofyn i ni ddatblygu cynllun gweithredu sy’n sicrhau cyfleoedd i blant chwarae. Mae budd-ddeiliaid a phartneriaid yn ymrwymedig i gydweithio i gyflawni’r nodau sydd wedi’u cynnwys yn ein cynllun gweithredu cyfleoedd chwarae digonol fel bod gan blant yng Nghonwy fynediad i ddarpariaeth chwarae wedi’i staffio a heb ei staffio, ond hefyd eu bod yn cael y cyfleoedd gorau posibl i chwarae yn yr ysgol, yn eu cymunedau a thu hwnt.

Tynnu Arwyddion Dim Gemau Pêl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn credu bod chwarae yn bwysig a dylai cynifer ag sy’n bosibl o’n mannau agored ganiatáu i blant chwarae’n rhydd. Felly, credwn y gellid tynnu rhai Arwyddion Dim Gemau Pêl i lawr.

Cliciwch yma i wylio fideo am bwysigrwydd chwarae a thynnu arwyddion Dim Gemau Pêl.

Os ydych yn credu bod Arwydd Dim Gemau Pêl yn eich cymuned chi y dylid ei dynnu i lawr, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwarae Conwy ar 01492 575016 neu llenwch y ffurflen isod a’i hanfon dros e-bost i nathania.scyner@conwy.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi hawl plant i chwarae fel a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fodd bynnag, pan fydd plant a phobl ifanc yn chwarae allan, rhaid i ni ofyn i chi fod yn ystyriol o breswylwyr eraill yn yr ardal.

Pan wneir cais i dynnu Arwydd Dim Gemau Pêl, caiff archwiliad o’r ardal ei gwblhau, a chysylltir â phreswylwyr lleol, y cynghorydd lleol a’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol cyn gwneud penderfyniad am dynnu’r arwydd.

Gwobr Cynllun Cyfoethogi Chwarae

Mae’r Wobr Cynllun Cyfoethogi Chwarae, y mae nifer o ysgolion a lleoliadau gofal plant yng Nghonwy wedi’i hennill, yn cynnig cyfle i’ch lleoliad neu ysgol wella profiadau chwarae eich plant. Bydd lleoliadau sy’n cofrestru ar gyfer y wobr yn cael hyfforddiant i athrawon, goruchwylwyr amser cinio, gweithwyr clybiau ar ôl ysgol, ymarferwyr meithrinfa a rhieni, yn ogystal â gweithdai i ddisgyblion, sesiynau chwarae a pholisi chwarae wedi’i deilwra.

end content