Gwobrau Chwaraeon 2024
Newyddion cyffrous! Mae Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024 bellach AR AGOR ar gyfer ceisiadau!
Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy.
Enwebwch yma: Gwobrau Chwaraeon Conwy
Dyddiad cau: Dydd gwener 20 Medi 2024
Seremoni Wobrwyo: Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024 Venue Cymru, Llandudno
Y categorïau yw:
- Campwr Iau y Flwyddyn
- Campwraig Iau y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Ieuenctid
- Gwobr Llwyddiant Arbennig
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Campwr Hŷn y Flwyddyn
- Campwraig Hŷn y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Hŷn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gwasanaethau i Chwaraeon
- Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024 - Nawdd
Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad lleol sydd â diddordeb mewn cefnogi'r digwyddiad trwy nawdd, cysylltwch â Caroline Jones drwy caroline.jones@conwy.gov.uk.
Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024: YouTube