Hyfforddiant a Gweithdai Gwaith Chwarae
Darperir yr holl hyfforddiant gan hyfforddwyr gwaith chwarae cymwys aphrofiadol.Mae’r holl hyfforddiant yn hwyliog a chwareus ac mae’r hyfforddwyr yngwneud popeth i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion pob dysgwr. Cofiwchroi gwybod i ni am unrhyw beth all eich helpu i gymryd rhan yn yr hyfforddiant.
Cynllun Hyfforddiant 2026–2027
Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (drwy’r flwyddyn)
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gynnal sawl gwaith trwy gydol y flwyddyn. Anfonwch e-bost at datblyguhamdden@conwy.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae’n gwrs rhagarweiniol gwych i Waith Chwarae ac mae’n cynnwys cyfuniad da o wybodaeth ymarferol a theori.
Dyma’r cymhwyster lefel mynediad i symud ymlaen at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith.
Archwilio’r Cwricwlwm Gwaith Chwarae
- Lleoliad: Lôn Hen Ysgol, Llandudno
- Dyddiad: 24 Medi 2026, 6pm tan 8pm
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut i greu amgylchedd chwarae mwy cyfoethog.
Bydd y gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i wella eu hamgylchedd chwarae presennol drwy archwilio a hunanasesu chwarae. Bydd y cwrs yn edrych ar bwysigrwydd y cwricwlwm gwaith chwarae ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar sut i ddarparu mannau cyffrous, amrywiol a chyfoethog i blant a phobl ifanc chwarae.
Dylunio Mannau i Chwarae
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Dyddiad: 16 Hydref 2026, 9:30am tan 12:30pm
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut i greu amgylchedd chwarae mwy cyfoethog.
Bydd y gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i wella eu hamgylchedd chwarae presennol drwy archwilio a hunanasesu chwarae. Bydd y cwrs yn edrych ar bwysigrwydd y cwricwlwm gwaith chwarae ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar sut i ddarparu mannau cyffrous, amrywiol a chyfoethog i blant a phobl ifanc chwarae.
Archwilio’r Gylchred Chwarae
- Lleoliad: Lôn Hen Ysgol, Llandudno
- Dyddiad: 12 Tachwedd 2026, 6pm tan 8pm
Meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r gylchred chwarae drwy sesiwn hyfforddiant ddifyr. Byddwn yn edrych ar bob cam yn y gylchred, o awgrymiadau chwarae i dderbyniadau, ac yn ystyried sut gall ein hymatebion gefnogi neu darfu ar chwarae plant, gan eich helpu chi i ddatblygu ymarfer gwaith chwarae mwy meddylgar ac ymatebol.
Tanau, Cuddfannau a Rhaffau
- Lleoliad: RSPB Conwy (i’w gadarnhau)
- Dyddiad: 9 Rhagfyr 2026, 10am tan 1pm
Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ystyried dulliau ymarferol i gynnwys yr amgylchedd naturiol/awyr agored yn chwarae plant. Byddwn yn edrych ar sgiliau ymarferol syml sy’n cefnogi adeiladu yn yr awyr agored, yn cynnwys cyrsiau rhaffau, rhaffau tynn, siglenni coed a chreu cuddfannau.
Byddwn hefyd yn archwilio ffyrdd i gynnwys tanau er mwyn coginio ac archwilio – bydd hyn yn cynnwys coginio dros dân. Byddwn yn edrych ar ffyrdd i gefnogi plant hŷn i ddefnyddio offer a choed i’w helpu i adeiladu strwythurau a chreu eu man chwarae eu hunain.
Yn olaf, byddwn yn trafod sut i daro cydbwysedd rhwng risgiau a manteision y mathau yma o gyfleoedd chwarae er mwyn rhoi cyfle i blant chwarae dan eu harweiniad eu hunain. Bydd y cwrs hwn yn un ymarferol ac yn cael ei gynnal yn yr awyr agored – bydd disgwyl i chi chwarae beth bynnag fo’r tywydd!
Newid Safbwynt drwy Chwarae
- Lleoliad: Lôn Hen Ysgol, Llandudno
- Dyddiad: 21 Ionawr 2027, 6pm tan 8pm
Bydd y sesiwn yn edrych ar ymddygiad sy’n gallu bod yn heriol a newid safbwynt arno drwy ddull gwaith chwarae.
Byddwch yn edrych ar elfennau theoretig ac ymarferol mae modd eu defnyddio ac yn ystyried sut all ein dulliau a lefelau ymyrraeth ddatblygu a gwella chwarae plant a phobl ifanc, a hefyd helpu ymarferwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddelio ag ymddygiad sy’n heriol.
Meddwl am Risg mewn Chwarae
- Lleoliad: Lôn Hen Ysgol, Llandudno
- Dyddiad: 25 Chwefror 2027, 6pm tan 8pm
Bydd y sesiwn yn archwilio sut allwn ni fel ymarferwyr ddarparu graddau rhesymol o risg a her yn ein lleoliad trwy ddefnyddio dull gwaith chwarae.
Bydd yn edrych ar rywfaint o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau allweddol yn ogystal â rhai o’r damcaniaethau sy’n llywio ein hymarfer ac yn ein helpu i ddatblygu darpariaeth sy’n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Bydd yn trafod asesiadau risg deinamig a’r defnydd o asesiadau risg-mantais, yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol o ran sut i daro cydbwysedd, wrth gadw at egwyddorion gwaith chwarae.
Chwarae Cynhwysol
Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Os ydych yn gweithio gyda nhw, byddwch yn siŵr o brofi eu harferion chwarae cyffredin, beth bynnag yw eich rôl neu leoliad. Ymunwch â ni wrth i ni drafod sut all dull gwaith chwarae ategu gwaith ieuenctid ac i’r gwrthwyneb. Byddwn yn ystyried sut allwn wella’r cynnig chwarae mewn lleoliadau ieuenctid a chefnogi pobl ifanc yn well gyda materion sy’n gallu codi yn eu bywydau.
Byddwn yn cynnal dwy sesiwn – un ar gyfer gweithwyr Conwy yn unig a sesiwn gyda’r nos i bob gweithiwr proffesiynol tu hwnt i’r Cyngor.
(Gweithwyr Conwy yn y bore – Gweithwyr proffesiynol gyda’r nos).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi archebu lle, cysylltwch â datblyguhamdden@conwy.gov.uk.
Ddim yn gweld yr hyn sydd arnochchi ei eisiau? Rydym am roi’r hyn sydd ei eisiau arnynt i’r sector chwarae a phawb sy’n gweithio gyda phlant a phob lifanc, felly os oes gennych angen o ran hyfforddiant ym maes chwarae neu waith chwarae nad ydym yn sôn amdano yma, rhowch wybod i ni abyddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.