cy Cartref Datblygu Hamdden Datblygu Chwarae Cyfleoedd Chwarae Digonol
start content

Cyfleoedd Chwarae Digonol

Dan adran 11 (1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru), mae gofyn i bob Awdurdod Lleol gynnal asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae bob 3 blynedd i asesu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal. Yn ychwanegol, mae gofyn i ni ddatblygu cynllun gweithredu sy’n sicrhau cyfleoedd i blant chwarae.

Mae budd-ddeiliaid a phartneriaid yn ymrwymedig i gydweithio i gyflawni’r nodau sydd wedi’u cynnwys yn ein cynllun gweithredu cyfleoedd chwarae digonol fel bod gan blant yng Nghonwy fynediad i ddarpariaeth chwarae wedi’i staffio a heb ei staffio, ond hefyd eu bod yn cael y cyfleoedd gorau posibl i chwarae yn yr ysgol, yn eu cymunedau a thu hwnt.

Tynnu Arwyddion Dim Gemau Pêl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn credu bod chwarae yn bwysig a dylai cynifer ag sy’n bosibl o’n mannau agored ganiatáu i blant chwarae’n rhydd. Felly, credwn y gellid tynnu rhai Arwyddion Dim Gemau Pêl i lawr.

 

Os ydych yn credu bod Arwydd Dim Gemau Pêl yn eich cymuned chi y dylid ei dynnu i lawr,  llenwch y ffurflen isod 

Pan wneir cais i dynnu Arwydd Dim Gemau Pêl, caiff archwiliad o’r ardal ei gwblhau, a chysylltir â phreswylwyr lleol, y cynghorydd lleol a’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol cyn gwneud penderfyniad am dynnu’r arwydd.

end content