cy Cartref Datblygu Hamdden Datblygu Chwarae Her Amser Chwarae Egnïol
start content

Her Amser Chwarae Egnïol

Beth yw’r Her Amser Chwarae Egnïol?

  • Y nod yw gwella amser chwarae mewn ysgolion drwy ddarparu hyfforddiant ar adnoddau chwarae a gwybodaeth am chwarae.
  • Gwybodaeth ar sut i hwyluso mwy o amser, lle a chaniatâd gwell ar gyfer chwarae plant.
  • Casglu ac ystyried safbwyntiau a barn yr ysgol gyfan
  • Cefnogaeth ac arweiniad parhaus drwy gydol y prosiect

Aur, Arian ac Efydd

Mae’r her amser chwarae egnïol yn ymestyn ar draws 3 cham a gall pob lleoliad ddewis eu gwneud neu beidio os ydynt yn penderfynu symud ymlaen i'r cam nesaf.

Efydd - Gwella dealltwriaeth anghenion chwarae ar draws y lleoliad. Gwella’r defnydd o gyfleusterau, adnoddau a storfeydd adnoddau.

Arian - Cefnogaeth barhaus ar gyfer yr ysgol gyfan. Cyfleoedd i agor tir yr ysgol i’w ddefnyddio gan y gymuned y tu allan i oriau ysgol.  Hyfforddiant ar gyfer cymuned yr ysgol ehangach. Cefnogaeth bwrpasol i herio unrhyw rwystrau sy'n codi o ran darpariaeth chwarae.

Aur - Estyn allan i’r gymuned i ddatblygu gwybodaeth ehangach am chwarae. Datblygu cyngor cefnogwyr chwarae a’r sicrwydd eu bod yn cael eu clywed ar draws y cyngor.

Hyfforddiant a Gweithdai i Bawb

  • Mae hyfforddiant chwarae ar gael i'r ysgol gyfan gymryd rhan ynddo ac mae dull ysgol gyfan yn hanfodol i lwyddiant y prosiect.
  • Hyd yr hyfforddiant yw 6 awr a gellir ei rannu’n 2 sesiwn.
  • Mae'r hyfforddiant yn archwilio gwerth chwarae, ei gyd-destun strategol, rôl gwaith chwarae, offer i gefnogi chwarae, rheoli risg a rhoi damcaniaeth ar waith.
  • Cynhelir gweithdy i'r plant yn canolbwyntio ar eu hawliau i chwarae ac mae wedi'i anelu at gyngor yr ysgol.

Rhannau Rhydd, beth ydyn nhw?

Gall rhannau rhydd fod yn unrhyw beth o ddeunyddiau i diwbiau, rhaffau i deiars.  Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae ynddynt, gan roi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymestyn eu chwarae. Nid yw rhannau rhydd yn gyfarwyddol.

Yn hytrach, maen nhw'n cynnig posibiliadau diderfyn, gan roi mwy o gyfleoedd i blant newid a thrin yr adnoddau a mwy o ddewis ynghylch sut maen nhw'n gwneud hynny.

Felly ydyn nhw’n gwella amseroedd chwarae?

Yn fyr, YDYN.

Mae gan blant lawer mwy o opsiynau yn ystod amser chwarae gyda rhannau rhydd a mwy o le a chyfle i sbarduno eu dychymyg a'u creadigrwydd.

Mae adborth yn dangos gostyngiad mewn digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol yn ystod amseroedd chwarae.

Ac nid yn unig yn ystod amseroedd chwarae, mae adborth wedi dangos gwelliant yn y dosbarth hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth: leisure.development@conwy.gov.uk

Active Play School Challenge Logo

end content