Cwestiynau Cyffredin - Chwarae
Nac oes, mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac ar gael i bob unigolyn ifanc.
Nac oes, gallwch ddod i unrhyw un o’n sesiynau heb archebu ymlaen llaw. Pan ddewch i’ch sesiwn chwarae gyntaf, gofynnir i chi lenwi ffurflen gofrestru a fydd yn cael ei gofnodi. Yna, byddwch wedi eich cofrestru ar gyfer pob sesiwn.
Mae ein sesiynau chwarae allan wedi'u targedu at blant 5-12 oed. Fodd bynnag, mae croeso i bob unigolyn ifanc fynychu a rhaid i oedolyn aros gyda phlant dan 5 oed. Mae sesiynau Rhoi Cynnig Arni wedi'u targedu at bobl ifanc 11 oed hyd at 17 oed
Mae ein holl sesiynau chwarae yn rhai mynediad agored, ac anogir pobl ifanc i chwarae ac ymgysylltu â'r hyn maen nhw ei eisiau. Mae’r gweithgareddau yn amrywio o un sesiwn i’r llall, ond gallwch ddisgwyl gweithgareddau fel adeiladu cuddfannau, chwaraeon, celf a chrefft, creu tân, ceginau mwd, chwarae blêr, chwarae â dŵr a chymaint mwy.
Gwisgwch ddillad yr ydych yn hapus iddyn nhw fynd yn flêr - y mwyaf y llanast y mwyaf yr hwyl.