cy Cartref Datblygu Hamdden Datblygu Chwarae Cwrdd â'r Tîm Chwarae
start content

Cwrdd â'r Tîm Chwarae

 

Tîm Chwarae Conwy

Mae tîm chwarae Conwy yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd chwarae i’r holl blant ar draws Conwy sy’n cefnogi unigolion a’r cymunedau ehangach. Mae bob aelod o dîm chwarae Conwy wedi cymhwyso gyda lefel 2 mewn ymarfer gwaith chwarae ac mae ganddynt nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio yn y sector chwarae.

 

Llun o Nathania Minard

Nathania Minard

Uwch Swyddog Chwarae

Rwyf wedi gweithio mewn swyddi gwahanol gyda Thîm Chwarae Conwy gan ddechrau fel gweithiwr chwarae sesiynol yn yr haf. Rwy’n mwynhau rhoi hyfforddiant, ymgynghori a datblygu cymunedol yn arbennig pan fyddwch yn gweld syniadau plant yn dod yn fyw.

0300 456 9525
07925 371 952

 

Llun o Grant Eglesfield

Grant Eglesfield

Swyddog Datblygu Chwarae

Rwyf wedi gweithio yn y tîm chwarae am ychydig o flynyddoedd erbyn hyn, gan ddechrau fel gweithiwr chwarae sesiynol am haf yn llawn hwyl cyn symud i swydd ddatblygu. Rwyf wir yn mwynhau fy swydd bresennol yn gweithio gydag ysgolion, cymunedau a gweithwyr proffesiynol i geisio gwella amseroedd chwarae ar draws Conwy i bob unigolyn ifanc.

 

Uwch Weithwyr Chwarae  

Mae ein tîm o uwch weithwyr chwarae yn sicrhau bod ein sesiynau dyddiol yn cael eu cadw yn ffres a chyffrous a bod digon i bobl ifanc o bob oed ei wneud. Mae’r uwch weithwyr chwarae yn ymdrechu i wneud bob sesiwn mor hwyliog â phosib gyda’u syniadau a’u gweithgareddau cyffrous.

 Picture of Evan

Evan 

Helo, Evan ydy fy enw i! Fy hoff beth i’w wneud mewn sesiwn yw cynnau tannau a thostio malws melys! Rwyf hefyd yn hoffi chwarae pêl-droed a chwaraeon eraill, yn ogystal â gweithgareddau awyr agored fel heicio a gwersylla.

Picture of Louise 

Louise

Fy enw yw Louise ac rwy’n hoff iawn o gŵn ac mae nhw’n tynnu fy sylw yn hawdd. Rwyf wedi bod yn rhan o’r tîm chwarae am y bum mlynedd ddiwethaf. Un sesiwn rwy’n ei hoffi yw arwain wrth gynnau tân a rhostio pob math o bethau o bopgorn, bara ac wrth gwrs malws melys. Fel arfer byddwch yn dod o hyd i mi yn chwarae cerddoriaeth ac yn canu nerth fy mhen.

end content