Nofio
Ers tro bellach, ystyrir nofio fel gweithgaredd sy’n gwella iechyd cardiofasgwlaidd a chryfhau cyhyrau. Mae hynofedd naturiol y dŵr yn helpu i leihau straen ar y cymalau a niwed posibl i’r cyhyrau. Mae ei nodweddion oeri naturiol yn helpu i leihau’r posibilrwydd o orboethi wrth losgi calorïau, wrth i’r cyhyrau gynhesu gyda’r symud rhythmig parhaus.
Dyma 12 ffordd y gall nofio helpu eich corff, eich enaid a’ch meddwl.
Y Meddwl
Disodli hen gelloedd yr ymennydd
Cyhyrau
Cryfhau cyhyrau’r bol, coesau a breichiau
Y Galon
Lleihau’r perygl o glefyd y galon
Asthma
Cryfhau’r ysgyfaint
Ffrâm
Gwella iechyd esgyrn
Ystwythder
Ystwytho’r cyhyrau
Hirhoedledd
Lleihau’r siawns o farwolaeth gynnar o 50% (yn ôl astudiaeth)
Cartilag
Lleihau’r effaith ar y cymalau
Colli pwysau
Llosgi 500 o galorïau fesul awr
Diabetes
Cynnal lefelau glwcos cywir
Pwysedd Gwaed Uchel
Cadw pwysedd gwaed yn isel
Agwedd
Rhoi hwb i iechyd meddwl a hwyliau
O fewn y canolfannau hamdden yng Nghonwy mae 4 pwll nofio lle rydym yn lletya ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus, rhaglen wersi nofio manwl ar gyfer pob oed a dosbarthiadau ffitrwydd yn y pwll.
Aelodaeth Ffit Conwy
Mae Aelodaeth Ffit Conwy yn cynnig gwerth rhagorol am arian, gyda mynediad i 8 campfa, 4 pwll nofio, dros 200 o ddosbarthiadau ffitrwydd i gyd yn cael eu cynnal mewn 10 canolfan hamdden ledled Conwy.