start content

Gwersi Nofio i Blant

Mae Ffit Conwy yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi ni i gyd yn gynhwysol ac ar gael i amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau. Debyd Uniongyrchol Gwersi Nofio Misol £27.

Mae eich Debyd Uniongyrchol misol o £27 yn cynnwys gwersi nofio a nofio cyhoeddus diderfyn am ddim – perffaith ar gyfer ymarfer ychwanegol!

Rhagor o wybodaeth:

Delwedd o fabi yn nofio gyda chartŵn drosto

Swigod (Oedran 6 Mis - 3 oed)

Swigod (Oedran 6 Mis - 3 oed)
Delwedd o blentyn yn nofio gyda llun cartŵn drosto

Sblash (3+ Oed)

Sblash (3+ Oed)
Llun o blant yn nofio gyda cartŵn drosto

Ton (4-11 Oed)

Ton (4-11 Oed)
Delwedd o blant yn plymio oddi ar fyrddau

Academi

Academi
Llun o blentyn yn chwarae polo dŵr

Polo Dŵr

Polo Dŵr
Person yn nofio mewn pwll

Nofio Ffit Iau

Nofio Ffit Iau
Cymeriad cartŵn ar gyfer cymhwysedd dŵr

Cymhwysedd Dŵr

Cymhwysedd Dŵr
Llun o sesiwn achubwr bywyd rookie gyda chartŵn drosto

Gwersi Achub Bywyd

Gwersi Achub Bywyd
Person yn surfio

Academi Achub Bywyd Cenedlaethol

Academi Achub Bywyd Cenedlaethol

 

 

Gwybodaeth i rieni

  • Mae gofyn i rieni a gwarcheidwaid plant dan 8 oed sy’n mynychu gwersi nofio neu gymnasteg aros ar y safle drwy gydol y sesiwn i sicrhau eu bod ar gael pe bai unrhyw broblemau’n codi.
  • Mae gwersi nofio yn cael eu cynnal ar foreau Sadwrn a gyda'r nos yn ystod yr wythnos.
  • Mae cyrsiau yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gydag egwyl o bythefnos dros y Nadolig.
  • Rydym ni'n darparu'r holl offer ar gyfer y gwersi, megis bandiau braich, cymhorthion arnofio ac ati.
  • Gwisgwch wisg nofio briodol. (dim bicini neu tancini. Gofynnir i ferched wisgo gwisg un darn).
  • Dim siorts hir na siwtiau gwlyb.
  • Rhaid clymu gwallt hir yn ôl neu wisgo cap nofio.
  • Sicrhewch fod eich plentyn wedi bod yn y toiled cyn mynd i mewn i'r dŵr.
  • Os yw eich plentyn yn teimlo'n sâl dylech ystyried a ydynt yn ddigon iach i fynd i'r wers.
  • Os oes gan eich plentyn gogls rhaid iddyn nhw allu eu gwisgo a’u tynnu eu hunain.
  • Peidiwch â gadael eitemau yn y ciwbiclau - byddant yn cael eu hystyried yn eiddo coll ac yn cael eu symud oddi yno.

Os byddai’n well gennych chi i’ch plentyn gael gwersi yn eu dewis o iaith yn unig, boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg, Cysylltwch â Ni ac fe wnawn ni bob ymdrech i drefnu hyn.
(*Sylwer: Yn ystod salwch neu wyliau blynyddol, efallai na fydd athro sy’n siarad Cymraeg ar gael.)

Wrth i rieni a gwarcheidwaid gysylltu â ni i holi am wersi, rydym yn trafod iaith y wers gyda nhw.  Rydym yn asesu’r galw am wersi Cymraeg drwy hyn. Rydym yn monitro’r galw am wersi Cymraeg yn gyson. Ar hyn o bryd, mae 52% o’n gwersi nofio ar gael yn ddwyieithog ledled y sir.  

I sicrhau lle ac i lenwi ffurflen debyd uniongyrchol ewch i’r ganolfan o’ch dewis. 
Canolfan Hamdden Abergele | Canolfan Hamdden Colwyn | Canolfan Nofio Llandudno | Pwll Nofio Llanrwst

Am ragor o wybodaeth: ffoniwch 0300 456 95 25 neu e-bostiwch Hamdden.Leisure@conwy.gov.uk.
Pan rydych yn anfon e-bost nodwch pa ganolfan a gwersi yr ydych yn holi amdanynt.

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Picture of 'Funded by the UK Government' Logo

end content