start content

Nofio Ffit Iau

Mae Nofio Ffit Iau yn dilyn Fframwaith Nofio Cymru. Mae’r rhaglen Sgiliau Nofio Uwch yn cynnig cyfle i nofwyr ddatblygu sgiliau nofio uwch allweddol.

Mae 5 lefel wedi’u llunio ar gyfer nofwyr sydd am wella eu techneg yn y pedwar arddull, ynghyd â dulliau dechrau, troi a gorffen. Mae wedi’i lunio i sefydlu ymarfer da ac arferion a sgiliau cywir yn gynnar yn eu gyrfa nofio.

Bydd plant ar Don 8 o wersi nofio yn elwa o Nofio Ffit Iau!

Amseroedd Nofio Ffit Iau

Canolfan Nofio Llandudno

  • Dydd Mawrth 19:00 -20:00 a Dydd Iau 18:30 - 19:30

Pwll Nofio Llanrwst 

  • Dydd Llun 17:15 -17:45

Canolfan Hamdden Abergele

  • Dydd Mawrth 19:00 - 20:00

 

I gyd wedi’u cynnwys gydag Aelodaeth Iau Ffit Conwy neu talu wrth fynd.

end content