Cymhwysedd Dŵr
Mae Dyfarniadau Water Competence Cymru yn ddelfrydol ar gyfer plant sy'n cymryd rhan yn elfennau Ton neu Nofio Ysgol Dysgu Nofio Cymru.
Mae tri Dyfarniad Water Competence Cymru sy'n dysgu am ymwybyddiaeth o berygl dŵr, technegau hunan-achub a sgiliau goroesi hanfodol mewn dillad, heb gogls nofio.
Datblygwyd Dyfarniadau Water Competence Cymru mewn partneriaeth â Swim England, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a Chymdeithas Achub Bywyd Brenhinol y DU (RLSS UK) ac maent wedi’u cymeradwyo gan Chwaraeon Cymru a Diogelwch Dŵr Cymru.
Dylai unrhyw ddarparwr dysgu nofio eu hystyried ar gyfer eu cyfranogwyr.
Mae Dyfarniadau Water Competence Cymru fel a ganlyn:
Yn ystod y Dyfarniad yma bydd cyfranogwyr yn dysgu ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelwch dŵr a thechnegau goroesi megis arnofio, troedio dŵr a mynd dan y dŵr a dod yn ôl i’r wyneb, heb gogls.
Mae'r Dyfarniad yma’n cynnwys nofio mewn dillad, y negeseuon diogelwch dŵr allweddol gan yr RNLI a'r RLSS, a’r Safle Cynnal Gwres Corff (HELP).
Ar ôl cwblhau'r trydydd Dyfarniad Diogelwch Dŵr, sef y dyfarniad olaf, bydd cyfranogwyr yn deall yn iawn sut i achub eu hunain mewn gwahanol sefyllfaoedd dŵr agored a phwll, a beth i'w wneud os ydynt yn syrthio i ddŵr yn annisgwyl.
Fel gyda Dyfarniadau Dysgu Nofio Cymru eraill, mae gan bob un o Ddyfarniadau Water Competence Cymru nifer o sgiliau (canlyniadau asesu) y mae'n rhaid eu cwblhau cyn i gyfranogwyr gael eu tystysgrif.
Beth nesaf?
Ar ôl cwblhau Dyfarniadau Water Competence Cymru, gallai cyfranogwyr symud ymlaen i'r RLSS Dyfarniadau Achubwyr Bywyd Newydd lle byddant yn datblygu'r sgiliau achub bywyd sydd eu hangen arnynt i fod yn achubwr bywydau.
Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.