Canolfan Hamdden Colwyn
Wedi’i lleoli o fewn Parc Eirias, mae Canolfan Hamdden Colwyn yn darparu ystod eang o gyfleusterau ffitrwydd a hamdden i rai o bob oed a gallu.
Mae’n cynnwys pwll nofio 25m gydag amrywiaeth o sesiynau nofio cyhoeddus a rhaglen gwersi nofio ar gyfer pob grŵp oedran.
Mae offer o’r radd flaenaf yn y gampfa, ac amserlen ffitrwydd amrywiol sy’n cynnwys dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr a dosbarthiadau dros y we yn amrywio o ioga a beicio dan do i aerobeg dŵr, a Les Mills a Hyrox.
Mae’r cyfleusterau awyr agored yn cynnwys cae bob tywydd, trac athletau, a chae 4G maint llawn, sydd oll ar gael ar gyfer archebion preifat a chlybiau.
Canolfanau Eraill