cy Cartref Datblygu Hamdden Sports Awards
start content

Gwobrau Chwaraeon Conwy

Gwybodaeth am y Gwobrau Chwaraeon

Ers 1998, mae Gwobrau Chwaraeon Conwy wedi bod yn rhoi sylw i athletwyr anhygoel ac arwyr tawel Bwrdeistref Sirol Conwy. 

O sêr ifanc y dyfodol i gystadleuwyr profiadol, mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r rhai sy’n gwthio ffiniau rhagoriaeth yn eu camp ddewisol, yn ogystal â’r unigolion ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i gefnogi clybiau ac athletwyr o un wythnos i’r llall.

Mae Conwy yn gartref i dalent eithriadol, gyda chystadleuwyr yn gwneud argraff ar lwyfannau cenedlaethol, rhyngwladol a hyd yn oed ar draws y byd. Mae’r digwyddiad mawreddog hwn, a gynhelir bob blwyddyn yn Venue Cymru, prif theatr a lleoliad cynadledda Conwy, yn ddathliad go iawn o ymroddiad, angerdd a chyrhaeddiad mewn chwaraeon.

  • Gwobrau Chwaraeon 2026: Dyddiad i’w gadarnhau (enwebiadau ar agor Mehefin 2026)

Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy. 

Y categorïau yw:

  • Campwr Iau y Flwyddyn
  • Campwraig Iau y Flwyddyn
  • Tîm Chwaraeon Ieuenctid
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Gwobr Llwyddiant Arbennig
  • Campwr Hŷn y Flwyddyn
  • Campwraig Hŷn y Flwyddyn
  • Tîm Chwaraeon Hŷn
  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Gwasanaethau i Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr y flwyddyn

Ymunwch â ni wrth i ni anrhydeddu’r rhagoriaeth mewn chwaraeon sy’n gwneud Conwy yn falch!

Noddi Gwobrau Chwaraeon


Manylion Cyswllt:
Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden
Ffôn: 0300 456 95 25
E-bost: caroline.jones@conwy.gov.uk

Blynyddoedd blaenorol:

Gwobrau Chwaraeon 2025    Gwobrau Chwaraeon 2024

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content