Canolfan Hamdden Abergele
Canolfan hamdden gyfeillgar i’r teulu sy’n cynnig rhywbeth i bawb sy’n awyddus i fwynhau ffordd egnïol o fyw.
O sesiynau nofio ar gyfer pobl o bob gallu mewn pwll 25 metr, campfa fodern â chyfleusterau llawn, raced chwaraeon ac amserlen lawn o ddosbarthiadau ffitrwydd, gweithgareddau gwyliau, chwarae meddal a phartïon pen-blwydd.
Mae gan y ganolfan hefyd neuadd chwaraeon a chae 3G awyr agored sydd ar gael i’w harchebu.
P’un a ydych yn awyddus i wella eich ffitrwydd, dysgu sgil newydd, neu gadw’n heini, Canolfan Hamdden Abergele yw’r lleoliad delfrydol.
Canolfan Hamdden Abergele – Cau’r Pwll Nofio Dros Dro
Bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Abergele ar gau dros dro tan ddydd Llun, 13 Gorffennaf 2026 er mwyn cwblhau gwaith gwella hanfodol.Bydd y gwaith uwchraddio’n cynnwys gosod pympiau gwres yr awyr mwy ynni-effeithlon ac Unedau Rheoli Aer newydd.
Bydd gweddill y ganolfan yn parhau i fod ar agor yn ôl yr arfer. Nodwch os gwelwch yn dda, efallai y caiff y cyfleusterau cawod eu heffeithio o bryd i’w gilydd gan na fydd dŵr poeth ar gael drwy’r amser.
Ymddiheurwn am unrhyw drafferth y bydd hyn yn ei achosi, a hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth.
Canolfanau Eraill