Academi Achub Bywyd Cenedlaethol
Mae gwobrau Academi Achub Bywyd Cenedlaethol Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau’r DU yn gyfres o wobrau blaengar sy’n dysgu sgiliau goroesi personol, cymorth cyntaf, CPR, achub a ffitrwydd i unrhyw un sy’n 12 oed a hŷn.
Eu nod yw i ddysgu ymgeiswyr sut i aros yn ddiogel yn ymyl dŵr a sut i gynorthwyo eraill a allai fod wedi mynd i drafferthion mewn sefyllfaoedd yn ymwneud â dŵr a sefyllfaoedd nad ydynt yn ymwneud â dŵr.
Mae’r gwobrau wedi eu strwythuro i ddysgu sgiliau sylfaenol ac yna cynyddu sgiliau’r ymgeisydd yn raddol. Ar ôl derbyn lefel Medaliwn Efydd y wobr, bydd yr ymgeisydd yn derbyn oriau Cydnabod Dysgu Blaenorol tuag at gymwysterau achub bywyd galwedigaethol Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau’r DU.
Mae’r gwobrau wedi eu strwythuro i dair lefel (Tystysgrif Achub Bywyd Efydd, Seren Efydd a Medaliwn Efydd), ac mae ffrydiau amgylcheddol niferus ar gael ar lefelau’r Seren Efydd a’r Medaliwn Efydd.Mae tair ffrwd y wobr fel a ganlyn:
- Pwll – yn cael ei gwblhau yn y pwll nofio
- Dŵr Agored – yn cael ei gwblhau os yn bosibl mewn safleoedd dŵr agored mewndirol heb lanw
- Traeth – yn cael ei gwblhau ar yr arfordir
Mae’r Dystysgrif Achub Bywyd Efydd wedi’i dylunio i ddysgu achubwyr bywyd newydd beth yw’r egwyddorion sylfaenol ynglŷn ag aros yn ddiogel mewn dŵr neu o’i amgylch. Mae’n rhoi gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â diogelwch dŵr i’r ymgeisydd, sgiliau achub bywyd sylfaenol yn ymwneud â dŵr, CPR sylfaenol a Chymorth Cyntaf sylfaenol.Mae lefelau dilynol y gwobrau (Seren Efydd a Medaliwn Efydd) wedi eu rhannu yn dair adran:
- Theori Achub Bywyd
- Sgiliau Goroesi ac Achub yn ymwneud ag Achub Bywyd
- CPR, AED a Chymorth Cyntaf
Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau a phasio’r holl adrannau cyn symud ymlaen i’r wobr nesaf. Ar ôl cwblhau’r asesiad yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn derbyn un ai tystysgrif neu e-dystysgrif a medal yn dibynnu ar lefel y wobr.
Cost: Debyd Uniongyrchol misol o £27 yn cynnwys gwersi nofio a nofio cyhoeddus diderfyn am ddim – perffaith ar gyfer ymarfer ychwanegol!
I sicrhau lle ac i lenwi ffurflen debyd uniongyrchol ewch i’r ganolfan o’ch dewis.
Canolfan Hamdden Abergele | Canolfan Hamdden Colwyn | Canolfan Nofio Llandudno | Pwll Nofio Llanrwst
Am ragor o wybodaeth: ffoniwch 0300 456 95 25 neu e-bostiwch Hamdden.Leisure@conwy.gov.uk.
Pan rydych yn anfon e-bost nodwch pa ganolfan a gwersi yr ydych yn holi amdanynt.