Pecynnau Aelodaeth Nofio a Phrisiau
Gwersi Nofio Misol
Debyd Uniongyrchol £25.00
Gwers nofio un i un
30 munud £24.95
Gwers nofio un i ddau
30 munud £30.00
Gwybodaeth bwysig
Cynhelir gwersi nofio unwaith yr wythnos a thrwy gydol gwyliau’r ysgol a gwyliau banc
Fel rhan o'r £25 y mis rydych chi'n ei dalu am wersi nofio, fe gewch ddod i sesiynau nofio cyhoeddus am ddim i ymarfer pryd bynnag y dymunwch!
I gofrestru neu i archebu gwers nofio, cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.
Prisiau Nofio
Gellir defnyddio archeb o sesiynau nofio ym mhob un o byllau nofio Ffit Conwy.
Os ydych â diddordeb mewn nofio yn unig, rydym hefyd yn cynnig tocyn gweithgareddau dŵr ar gyfer plant 3-15 oed ac i Ddinasyddion HÅ·n. Dyma’r prisiau ar gyfer hyn:
Tocyn Nofio’r Lluoedd Arfog
Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru’n caniatáu i aelodau cyfredol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog nofio am ddim mewn canolfannau hamdden sy’n rhan ohono (sy’n cynnwys Ffit Conwy), gan ddefnyddio cerdyn braint y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Cyflwynwyd y Cynllun Nofio Am Ddim i’r Lluoedd Arfog y tro cyntaf yn 2016 ac mae’n rhan o’r ymrwymiad parhaus i roi mynediad i gymuned y lluoedd arfog at wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion penodol nhw ac yn cydnabod eu gwasanaeth dros eu gwlad.
Sylwch y bydd cost gychwynnol o £4.40 i’w thalu un waith ac mae’n rhaid i chi fod â thocyn braint y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n ddilys. Ni fyddwn yn derbyn rhif yn y fyddin.
Aelodaeth Ffit Conwy
Mae defnyddio’r pyllau nofio wedi’i gynnwys yn eich Aelodaeth Ffit Conwy. Mae Aelodaeth Ffit Conwy’n cynnig gwerth am arian go iawn, gyda mynediad i 8 ystafell ffitrwydd, 4 pwll nofio, a dros 200 o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n cael eu cynnal o fewn y 10 Canolfan Hamdden ar draws Conwy.