Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol 2025-2028.
1. Datganiad Crynodeb yr Awdurdod Lleol
Mae chwarae yn rhan sylfaenol o blentyndod iach ac mae gan bob plentyn hawl i chwarae.
Rydym yn cydnabod ac wedi mabwysiadu’r diffiniad o chwarae ym Mholisi Chwarae Cenedlaethol Cymru (2002), sef “Mae chwarae’n cwmpasu ymddygiad plant sy’n cael ei ddewis yn rhydd, yn cael ei gyfarwyddo’n bersonol a’i ysgogi’n gynhenid”. Hynny yw, dyma mae plant yn ei wneud pan maent yn dilyn eu syniadau eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
Rydym yn credu bod gan BOB plentyn yr hawl i ddigon o amser a lle i chwarae fel sydd wedi’i gynnwys yn erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i ddiffinio ymhellach yn Sylw Cyffredinol 17.
Rydym yn credu er mwyn sicrhau bod digon o gyfleoedd i chwarae, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau a chymunedau i feithrin amodau AMSER, LLE a CHANIATÂD i chwarae.
Rydym o’r farn mai cefnogi hawl plant i chwarae yw darparu ystod gyfan o fuddion i blant a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddynt, a gallai atal yr hawl hwnnw gael goblygiadau difrifol ar blant a’r gymuned ehangach.
Rydym yn cydnabod y cysylltiad rhwng cymunedau gwydn ac unigolion gwydn ac yn rhagweld dyfodol yng Nghonwy lle gall POB plentyn a pherson ifanc fod yn gyfranogwyr amlwg ym mywyd eu cymunedau drwy chwarae.
Rydym yn cydnabod bod yna edefyn euraidd y dylid ei gynnwys ym mhob polisi ac ymarfer yng Nghonwy ac rydym yn annog pob budd-ddeiliad, sefydliad a chymuned i ddeall y rôl sydd ganddynt i ddiogelu cyfleoedd digonol i chwarae o fewn cymunedau plant, fel rhan o’r ddyletswydd statudol. Mae hyn hefyd yn cynnwys deall bod darparu cyfleoedd o safon i chwarae yn cyfrannu at nifer o’r amcanion sy’n ymwneud â mynd i’r afael â threchi tlodi plant. Yn olaf, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd digonol i chwarae drwy;
-
Gefnogi sefydliadau i ddeall chwarae yn well a’r ffordd orau i'w gefnogi.
-
Adnabod y rhwystrau o ran chwarae o ddewis y plentyn yn eu cymunedau a chydweithio i ganfod ffyrdd i leihau’r rhwystrau neu gael gwared â nhw.
-
Cefnogi datblygu darpariaeth a chyfleoedd chwarae newydd.
- Cefnogi ansawdd gwell a maint mwy y ddarpariaeth a chyfleoedd chwarae presennol.
- Cydlynu datblygiad prosiectau, partneriaethau a rhaglenni gwaith er mwyn diogelu cyfleoedd digonol ar gyfer chwarae fel sy’n ofynnol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) ac i gydlynu a chynhyrchu Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Conwy a'i Gynllun Gweithredu.
2. Methodoleg
Mae Tîm Datblygu Chwarae Conwy (cyfeirir atynt fel TDCh trwy gydol y ddogfen) yn dod o fewn Datblygu Hamdden ac mae’n rhan o Wasanaethau Hamdden ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae TDCh yn arwain ar bob agwedd o ddatblygu chwarae a gwaith chwarae ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Uwch Swyddog Chwarae yn arwain ac yn cynghori ar yr holl waith datblygu strategol ac mae hefyd yn datblygu ac yn cyflwyno gweithdai cyfleoedd chwarae digonol ledled Conwy.
Mae nifer o adrannau a budd-ddeiliaid wedi bod yn rhan o’r broses drwy amrywiaeth o ddulliau a ddisgrifir isod.
Yn 2015, mabwysiadodd Conwy Bolisi Chwarae Conwy (gweler uchod). Fe sefydlodd y ddogfen hon ddatganiad polisi clir oedd yn cael ei ategu gan y Polisi Chwarae Cenedlaethol (2002) ac Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Yn ystod yr asesiad hwn, mabwysiadwyd dull newydd i sicrhau y gallai budd-ddeiliaid ar y lefel gwneud penderfyniadau ymgysylltu â’r asesiad a chynllun gweithredu.
Cynhaliwyd Gweithdai Cyfleoedd Chwarae Digonol a chafodd cyfarfodydd neu sgyrsiau unigol eu cynllunio y tu hwnt i’r gweithdai yma, gan sicrhau y gallai budd-ddeiliad nid yn unig ddatblygu dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth o ran Cyfleoedd Chwarae Digonol, a phwysigrwydd chwarae a bywydau plant yng Nghonwy o ddydd i ddydd, ond ystyried sut y gallai eu rolau unigol effeithio ar gyfleoedd i chwarae.
Cafodd Adeiladu Rhwydwaith o Gyfleoedd Chwarae Digonol – Deall Cyfleoedd Chwarae Digonol ei gyflwyno ar 8 Ionawr 2025 ac fe’i cefnogwyd gan Chwarae Cymru. Roedd Penaethiaid Gwasanaeth o fewn yr Awdurdod Lleol, Cynghorwyr lleol, swyddogion strategol a rhai partneriaid o’r trydydd sector yn bresennol.
Cafwyd ymgysylltiad gan Arweinydd y Cyngor, Addysg, Gofal Cymdeithasol, Hamdden, Economi a Diwylliant, Ysgolion Bro, Cynllunio, Mannau Agored, Datblygu Economaidd, Arweinwyr Timau Cefnogi Teuluoedd, Tai, Pobl a Pherfformiad, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Swyddogion Gofal Plant a nifer o aelodau etholedig a oedd hefyd yn cynrychioli eu Cynghorau Tref a Chymuned yn y gweithdy yma.

Cyflwynwyd yr ail Weithdy Adeiladu Rhwydwaith Cyfleoedd Chwarae Digonol – Cynllunio ar gyfer Chwarae ar 22 Ionawr ac roedd llawer o bartneriaid yn bresennol. Fe fynychodd yr un partneriaid yr ail sesiwn ac roedd yna ddeiliaid portffolio ychwanegol, swyddogion ac arweinwyr o feysydd allweddol yn cynnwys parciau, cynllunio cymdogaeth a gwasanaethau ieuenctid yn bresennol.
Cynhaliwyd y gweithdy mawr diwethaf Cyfleoedd Chwarae Digonol – Grŵp Llywio - Atebolrwydd ar 20 Mai a chytunwyd yn y cyfarfod hwn y byddai’r grŵp yn cyfarfod bob chwe mis wrth symud ymlaen a byddai’r Uwch Swyddog Chwarae yn cynnal ‘cyfarfodydd is-grŵp’ ar y 4 thema ad-hoc er mwyn rhoi arweiniad, cefnogaeth a ffocws ar gyfer y gweithredoedd a nodwyd. Yna byddai’r cyfarfodydd bob chwe mis yn rhoi platfform i swyddogion ac arweinwyr i adrodd yn ôl ar lwyddiannau a heriau er mwyn sicrhau dull cydweithredol a chyfun.
Cafodd nifer o weithredoedd yng Nghynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol eu hystyried a’u trafod yn y cyfarfod hwn.
Rhestrir y partneriaid allweddol sy’n cyfrannu at yr asesiad yma: Partneriaid allweddol Cyfleoedd Chwarae Digonoln
Trafododd yr Uwch Swyddog Chwarae y meysydd a nodwyd drwy’r gweithdai gyda swyddogion unigol. Yn dibynnu ar y rhan o fewn yr asesiad a’r personél, byddai’r Uwch Swyddog naill ai’n anfon y thema gyfan neu feysydd ar draws themâu at unigolion i’w cwblhau.
Roedd modd i nifer o swyddogion adnabod meysydd i’w gwella ac fe gysylltodd rhai swyddogion gefnogaeth a syniadau. Roedd modd i’r Uwch Swyddog hefyd dynnu sylw at feysydd sy’n cyd-fynd ar gyfer swyddogion a chysylltu patrymau gwaith ynghyd. Mae hyn yn wedi galluogi Conwy i gael dull mwy cyfannol i’r Cynllun Gweithredu er enghraifft, mae angen Datblygu’r Gweithlu mewn nifer o brif feysydd, felly mae dull Cyngor cyfan wedi cael ei gynnwys fel cam gweithredu.
Er eu bod wedi cael eu hannog i fynychu, nid oedd llawer o bartneriaid allanol yn bresennol yn y Gweithdai Cyfleoedd Chwarae Digonol. Cafodd yr Uwch Swyddog lawer o drafodaethau un-i-un a chyfarfodydd gyda phartneriaid allanol er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei gofnodi yn yr asesiad.
Mae hyn wedi cael ei nodi fel maes o waith sydd ei angen yn y cynllun gweithredu.
Fe fydd Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol yn mynd drwy’r broses wleidyddol yn flynyddol yn yr hydref; pan fydd adroddiad ar bob cam gweithredu gan y ‘swyddogion arweiniol’ a enwir yn cael ei lunio
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle - Hydref 2025
Cabinet – Hydref 2025

3. Sut mae ymgysylltu gyda phlant a theuluoedd wedi dylanwadu ar yr Asesiad o Gyfleoedd Chwarae Digonol
Mae ymgysylltu gyda phlant a theuluoedd yng Nghonwy wedi chwarae rôl sylweddol yn ffurfio’r asesiad a’r cynllun gweithredu. Mae’r asesiad yn cynnwys casglu mewnwelediadau gan fudd-ddeiliaid amrywiol, yn cynnwys plant o oedran gwahanol er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau cyfleoedd i chwarae sy’n benodol i amser, lle a chaniatâd a roddir i blant ar draws cymunedau.
Mae Arolwg Chwarae Mawr Conwy wedi cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth gan blant ym mlynyddoedd 5 ac 8 yn yr ysgol. Mae’r arolwg yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am brofiadau ac anghenion chwarae.
Mae’r canlyniadau o’r arolwg yma yn siapio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion plant, ac yn rhoi mewnwelediad o’r sefyllfa bresennol yng Nghonwy i’w rannu gyda swyddogion yn ystod digwyddiadau i fudd-ddeiliaid.
Cafodd y data a gasglwyd o’r arolwg a’r dadansoddiad dilynol ei rannu gyda budd-ddeiliaid yn ystod Grŵp Llywio Cyfleoedd Chwarae Digonol i roi syniad o’r sefyllfa, a rhoi naratif i Benaethiaid Gwasanaeth ac Arweinwyr i ddechrau cynllunio ar ei gyfer.
Daeth nifer o gamau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol fel effaith uniongyrchol yn sgil y profiadau a rannwyd gan y plant.
Ar ôl i’r TDCh gael dadansoddiad o arolwg Chwarae Mawr Conwy, roedd modd i ni gymharu â chylchredau blaenorol, dechreuodd y tîm ddatblygu adnoddau Grŵp Ffocws.
Mae Grwpiau Ffocws y Plant yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau a dewisiadau chwarae. Mae’n rhoi dealltwriaeth i ni o’r newidynnau allweddol sydd yn sicrhau profiadau chwarae cadarnhaol a digonol.
I ddechrau, fe ffurfiwyd 10 grŵp, un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd ym mhob un o’r 5 is-ardal yng Nghonwy.
Fe gymerodd bob grŵp ran mewn 4 gweithdy 45-60 munud o hyd fel a ganlyn:
- Dod i’ch adnabod a meddwl am chwarae.
- Meddwl am yr amser sydd gennych ar gyfer chwarae a phryd ydych chi’n chwarae.
- Meddwl am lefydd yr ydych yn chwarae ynddynt a llefydd yr hoffech chwarae ynddynt.
- Meddwl am bobl wahanol yn eich cymuned a sut y gallent newid eich chwarae. (Caniatâd)
Mae pob Grŵp Ffocws wedi cael eu recordio ac mae Tîm Chwarae Conwy wedi defnyddio taflenni a baratowyd i gefnogi’r plant i recordio eu profiadau.
Yn ystod y Gweithdai Cyfleoedd Chwarae Digonol, fe nodwyd fod yr wybodaeth yr oedd y plant yn ei rannu gyda ni yn allweddol, a bod pob darn o wybodaeth yn ffurfio sgwrs oedd yn gwneud iddynt feddwl ar lefel strategol.
Fel y nodwyd yn y cynllun gweithredu, mae yna awydd i’r TDCh barhau i arwain y gwaith yma fel bod gan bob cymuned ‘gynllun gweithredu chwarae’ cymunedol sy’n canolbwyntio ar blant. Mae barn a phrofiadau plant yng Nghonwy wedi creu’r mentrau o fewn Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol Conwy.
Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn parhau i ymgysylltu gyda phreswylwyr lleol, cynghorwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol i gasglu gwybodaeth am fentrau. Mae angen ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer nifer o’r mentrau presennol sy’n cael eu darparu, e.e. tynnu arwyddion ‘Dim Gemau Pêl’, gwelliannau i fannau chwarae a darpariaeth chwarae cymunedol.
Ar draws Conwy, mae nifer o adrannau eraill yn llunio rhaglenni sy’n seiliedig ar ymgynghoriad â theuluoedd, megis gwasanaethau’r ganolfan i deuluoedd, gwasanaethau anabledd, parciau a chyfleusterau a chynlluniau datblygu’r gweithlu
Fe nodwyd bod y dulliau i ymgynghori gyda phreswylwyr iau angen sylw, ac yn sgil hynny, mae wedi’i gynnwys yng Nghynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol. Bydd TDCh yn gweithio gyda budd-ddeiliaid allweddol i gefnogi a datblygu methodolegau ac arferion i ymgynghori â phlant.
Poblogaeth (Materion A, B, E):
-
Cam Gweithredu 1: Dangosodd Arolwg Chwarae Mawr Conwy ar bron i bob matrics bod plant anabl a phlant o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael cyfleoedd a phrofiadau gwael i chwarae. Mae Cam Gweithredu 1 yng Nghynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol o dan ‘Poblogaeth’ yn nodi cyfres o fentrau a fydd yn cefnogi TDCh a phartneriaid i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu. Ar ben hynny, fe fydd y casgliadau yma’n gosod prif weithredoedd a mentrau i fynd i’r afael â’r rhwystrau.
-
Cam Gweithredu 2: Trwy ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol, plant a theuluoedd, fe nodwyd fod yna ddulliau amrywiol i ymarfer chwarae mewn lleoliadau gwahanol. Mae plant yn chwarae’n achlysurol drwy’r dydd, ac amcan adolygu’r Polisi a rhaglen datblygu’r gweithlu yw sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant, ochr yn ochr â gwybodaeth am waith chwarae a dyletswyddau deddfwriaethol, yn arwain at Gonwy sydd yn fwy chwareus ac sy’n goddef chwarae.
-
Cam Gweithredu 3: Yn seiliedig ar arolwg a grwpiau ffocws, mae hi’n amlwg mai un o’r prif ddangosyddion boddhad yw caniatâd i allu chwarae a chaniatâd i gael chwarae. Mae pob menter o dan Gam Gweithredu 3 yn anelu at feithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a chryfhau eiriolaeth dros chwarae. Bydd Conwy yn arwain yr ymgyrch hon, a gyda’n gilydd gallwn gyflawni ‘trobwynt’ lle mae lefelau gwell o foddhad yn bresennol. Bydd yn meithrin derbyniad o anghenion chwarae ac ymddygiad chwarae ar draws cymdeithas. Bydd yn meithrin diwylliant chwareus sydd yn cefnogi profiadau ar gyfer chwarae yng Nghonwy. Sicrhau bod cymunedau a chyfleoedd cyfoethog a chwareus yn rhywbeth arferol o ddydd i ddydd i bob plentyn.
Lleoedd y mae plant yn chwarae ynddynt (Materion C, F ac I)
-
Cam Gweithredu 1: Mae plant wedi trafod pwysigrwydd cysylltiadau i fannau chwarae a phwysigrwydd mannau anffurfiol i chwarae. Fe nododd plant hŷn mai mewn mannau chwarae anffurfiol y maent yn cael y profiadau chwarae mwyaf gwerthfawr. Gyda hyn mewn golwg, fe dynnwyd sylw at y ffaith fod deall defnydd y mannau yma ar gyfer chwarae plant yn bwysig, nid yn unig i wella mynediad, ond i ddiogelu eu defnydd ar gyfer chwarae gan bob oedran.
-
Cam Gweithredu 2: Fe dynnodd Arolwg Chwarae Mawr sylw at y ffaith bod plant o ardaloedd difreintiedig a phlant sydd ag anabledd yn wynebu mwy o rwystrau wrth geisio mynd i lefydd chwarae. Prin yw’r amrywiaeth o gyfleoedd i chwarae i’r carfanau yma hefyd. Bydd Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau yma ac adeiladu ar fynediad presennol ac amrywiaeth o adnoddau ar gyfer chwarae.
-
Cam Gweithredu 3: Roedd profiadau o amseroedd chwarae yn yr ysgol yn amlwg iawn yn yr ymgynghoriad fel amser y gallai plant chwarae gyda ffrindiau heb iddo gael ei hwyluso gan riant neu ofalwr. Roedd yna amrywiaeth o brofiadau o ran amseroedd chwarae yn yr ysgol, yn amrywio o gadarnhaol iawn i wael iawn ac roedd rhai o’r plant yn colli amser chwarae oherwydd heriau ag ymddygiad neu waith heb ei gwblhau. Bydd yr her Amser Chwarae Egnïol yn cefnogi lleoliadau addysg i ddatblygu amgylchedd chwarae cyfoethog. Bydd arferion gwaith chwarae yn cryfhau cyfranogiad ac yn meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd amseroedd chwarae yn yr ysgol. Bydd hyfforddiant a datblygu polisi yn annog dull gwaith chwarae tuag at amseroedd chwarae.
-
Cam Gweithredu 4: Yn ystod ymgynghoriad ag oedolion, fe amlygwyd er bod yna fecanwaith i gael gwared ar arwyddion ‘Dim Gemau Pêl’, nid oedd llawer yn gwybod am y mecanwaith yma ac mae angen gwaith i sicrhau ymgysylltiad â’r gymuned.
- Cam Gweithredu 5: Yn unol ag asesiadau blaenorol, fe dynnwyd sylw at ganiatâd rhieni fel un o’r newidynnau dylanwadol mwyaf i foddhad chwarae. Fe soniodd rhieni nad oeddynt bob amser yn gwybod am lefydd i chwarae yn eu cymuned ac ar draws Conwy. Mae hyn yn golygu y gall yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae fod yn gyfyngedig ac mae’r defnydd cynyddol o dalu am brofiadau yn dod yn ‘norm’ cymdeithasol, gan greu rhwystr i nifer o deuluoedd. Amcan y wefan ranbarthol yw y gall teuluoedd ddod o hyd i amrywiaeth o gyfleoedd chwarae, gydag enghreifftiau o werth chwarae wedi’i gynnwys yn ogystal â gwybodaeth am hygyrchedd ac eiriolaeth ar gyfer chwarae.
Darpariaeth dan oruchwyliaeth (Mater D, G)
- Cam Gweithredu 1: Cafodd nifer o leoliadau dan oruchwyliaeth eu cynnwys ym mhrofiadau’r plant, ac fe nododd y plant y lleoedd yma fel mannau allweddol y gallent eu defnyddio ar gyfer chwarae. Drwy ymgynghoriad proffesiynol a datblygu’r gweithlu, mae TDCh yn ymwybodol o’r amrywiaeth ac ystod o brofiadau y mae plant yn eu cael mewn lleoliadau. Bydd TDCh yn edrych ar fecanwaith sicrhau ansawdd ar gyfer pob darpariaeth chwarae CBSC sy’n cael ei ddarparu, gan sicrhau amgylchedd cyfoethog, heriol, diogel a chynhwysol ar gyfer chwarae. Bydd TDCh yn gweithio gyda Phartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant er mwyn sicrhau bod pob lleoliad yn cael ei gefnogi i ddatblygu’n broffesiynol a chreu lleoedd chwarae cyfoethog i blant.
-
Cam Gweithredu 2: Mae’r angen am eiriolaeth a chefnogaeth i deuluoedd i ddeall yr effaith y mae cyfleoedd chwarae yn ei gael ar ein plant a’r gymuned ehangach yn hollbwysig wrth i’r gostyngiad mewn boddhad chwarae barhau. Mae Cam Gweithredu 2 yn nodi cyfres o gyfleoedd i ymgysylltu gydag oedolion i eirioli am chwarae a chefnogi oedolion i ddarparu cyfleoedd chwarae i blant.
-
Cam Gweithredu 3: Mae cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddeall yr effaith cadarnhaol y mae cyfleoedd chwarae yn ei gael ar ein plant a’r gymuned ehangach yn hollbwysig wrth i’r gostyngiad mewn boddhad chwarae barhau. Mae Cam Gweithredu 3 yn nodi ystod o gyfleoedd i ymgysylltu gweithwyr proffesiynol i eirioli dros chwarae. Bydd cyfleoedd achredig a chyflwyniadol yn cael eu cynnwys.
Polisi, ymgysylltu, eiriolaeth a gwybodaeth (Mater F, G, H, I)
-
Cam Gweithredu 1: Pan rannwyd manylion a chasgliadau arolwg Chwarae Mawr Conwy gyda gweithwyr proffesiynol, cafodd y grŵp ymateb cynyrfiadol. Fe arweiniodd trafodaethau yn gyflym at y camau oedd eu hangen a dechreuodd y gwaith o ddatblygu ymgyrch oedd yn cefnogi lleisiau a barn plant. Mae Cam Gweithredu 1 yn nodi rhai o’r mentrau cychwynnol i ddechrau llunio ymgyrch hirdymor ar gyfer pwysigrwydd chwarae ar draws Conwy.
-
Cam Gweithredu 2: Mae plant yng Nghonwy wedi dweud wrthym pan mae ganddynt amser, lle a chaniatâd i chwarae mewn strydoedd lleol yn agos at eu cartrefi, maen nhw’n teimlo bod croeso iddynt, yn cael eu cynnwys a’u hystyried gan gymdeithas. Mae rhai rhwystrau i chwarae yn diflannu, megis teithio i chwarae, amser ar gyfer chwarae, arian ar gyfer chwarae a chaniatâd (mae nifer o blant yn dibynnu ar gludiant gan rieni). Cafodd hyn ei amlygu fel rhywbeth pwysig iawn i blant heb ardd i chwarae ynddi. Roedd yna rywfaint o arwyddion bod plant sydd heb ardd yn sôn am effeithiau negyddol ar eu hiechyd meddwl a lles. Mae’r fenter hon yn arbennig o bwysig i’r plant yma.
- Cam Gweithredu 3: Mae hi’n bwysig bod barn plant yn cael eu hystyried yn strategol yng Nghonwy, bydd hyn yn sicrhau bod barn plant yn cael eu hystyried yn y camau cyntaf wrth ddatblygu prosiect. Mae yna fomentwm y tu ôl i waith Cyfleoedd Chwarae Digonol yng Nghonwy ar hyn o bryd, mae’r momentwm yma'n deillio o farn ac ystyriaethau plant.
Mae hi’n bwysig parhau i wrando ar blant a rhoi cyfle i blant o bob ardal o Gonwy rannu eu profiadau er mwyn i ni ymdrechu am brofiadau gwell i bawb.
Mae gan blant o gymunedau arfordirol brofiadau gwahanol iawn i blant o gymunedau gwledig, ac mae gan blant hŷn brofiadau gwahanol iawn i blant iau. Mae’r enghreifftiau yma o wahaniaethau yn amlygu pwysigrwydd dull cymuned wrth gymuned.
Bydd datblygu chwarae a sicrhau boddhad chwarae yn arwain at ganlyniadau gwahanol yn seiliedig ar anghenion y gymuned unigol ac anghenion chwarae plant sy’n bresennol yn y cymunedau hynny.

4. Gwneud y Mwyaf o Adnoddau
Mae CBSC yn wynebu pwysau sylweddol sy’n cael ei yrru gan alw cynyddol am wasanaethau. Er gwaetha’r heriau yma, mae’r Cyngor yn ymroddedig i amddiffyn gwasanaethau hollbwysig. Chwarae ydi edefyn euraidd plentyndod, gan roi cyfleoedd datblygiadol i blant gyda chysylltiadau clir i wytnwch unigolion a chymunedau.
Mae yna ddyraniadau ar gyfer gwasanaethau statudol megis Gofal Cymdeithasol ac Addysg, sydd yn bartneriaid allweddol wrth sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn. O ganlyniad, mae nifer o fentrau ar gyfer datblygu chwarae o fewn y cynllun gweithredu yn darparu cyfleoedd i’r timau yma dan arweiniad y Tîm Datblygu Chwarae.
Mae’r Awdurdod Lleol yn dyrannu cyllid cymunedol a chyllid cenedlaethol i raglenni a phrosiectau cymunedol sydd yn hyrwyddo cyfleoedd i chwarae. Mae rhai o’r mentrau yma’n cynnwys darpariaeth chwarae, datblygu asedau cymunedol megis parciau, meysydd chwarae, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a Chanolfannau Cymorth i Deuluoedd.
Trwy Gronfa Ffyniant Bro y DU fe wnaed llawer o waith hanfodol mewn nifer o feysydd chwarae a’u datblygu er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd ar gyfer plant a theuluoedd. Mae buddsoddiad cyfalaf mewn asedau megis meysydd chwarae wedi bod yn eithriadol o anodd dros y blynyddoedd diwethaf heb raglenni grant megis Ffyniant Bro y DU a Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan.
Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid megis grwpiau a sefydliadau cymunedol all helpu i sicrhau cyllid ac adnoddau ychwanegol i gefnogi mentrau chwarae. Enghraifft o hyn yw gwefan ranbarthol Out and About sydd yn darparu eiriolaeth ar gyfer chwarae, cefnogaeth i deuluoedd a gwybodaeth i gefnogi mynediad at fannau chwarae i blant ar draws gogledd Cymru.

Mae yna amrywiaeth o adnoddau ariannu sy’n cael eu defnyddio i gefnogi’r TDCh sy’n dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhain yn cynnwys Grant Gwaith Chwarae Dros y Gwyliau, a ddefnyddir i ddarparu cyfleoedd chwarae ar draws gwyliau’r ysgol ac fe’i ddefnyddir i lenwi bwlch a nodir yn y ddarpariaeth.
Caiff rhaglenni gwyliau eu datblygu i fod yn hyblyg ac ymateb i anghenion cymunedol. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno digwyddiadau chwarae i deuluoedd mewn mannau chwarae anffurfiol megis Chwarae yn y Goedwig a Chwarae ar y Traeth. Mae hyn yn cefnogi teuluoedd i gael mynediad at fannau eraill am ddim i chwarae ac mae’n cefnogi defnydd amrywiol o lefydd ar gyfer chwarae.
Mae enghraifft arall yn ymateb i weithgarwch troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, bu modd i’r tîm chwarae ddarparu cyfleoedd chwarae cadarnhaol ar gyfer plant mewn ardaloedd penodol gan gydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Thimau Canolfannau Cymorth i Deuluoedd ar draws Conwy.
Enghraifft bellach fyddai gwaith partneriaeth gyda Chyswllt Conwy sy’n cael ei gefnogi gan y grant yma, sy’n galluogi’r tîm chwarae i ddarparu sesiynau chwarae yn ystod y gwyliau sydd wedi’u targedu at deuluoedd plant sydd ag anableddau.
Mae adnodd Gwaith Chwarae Dros y Gwyliau hefyd wedi cael ei ddefnyddio i gael gafael ar gyfleoedd hyfforddi achredig ar gyfer gweithwyr chwarae cyflogedig a gwirfoddol, gan gefnogi safon y ddarpariaeth chwarae sydd ar gael i gymunedau.
Ar ben hynny, mae’r grant wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu bwyd a byrbrydau mewn sesiynau i blant sy’n bresennol, ac fe’i defnyddiwyd i brynu offer i helpu plant gydag anghenion chwarae penodol.
Grant arall y mae Tîm Datblygu Chwarae Conwy yn ei ddefnyddio ydi Grant Plant a Chymunedau. Defnyddir elfen Teuluoedd yn Gyntaf y grant yma i ariannu gwaith ymyrraeth gynnar ac ataliol gan y tîm chwarae. Mae’n hwyluso darparu sesiynau chwarae cymunedol yn ystod y tymor ac yn ariannu elfennau o’r rhaglen datblygu sy’n ymwneud ag eiriolaeth ac ymyrraeth sy’n cael ei ddarparu ar y cyd â Chanolfannau i Deuluoedd yng Nghonwy.
Mae’r TDCh hefyd wedi gallu defnyddio grantiau eraill megis grant Tlodi Plant i ddarparu prydau bwyd yn ystod sesiynau chwarae i deuluoedd, yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r TDCh wedi cael cyfle i ddefnyddio grantiau megis Cronfa Ffyniant Bro y DU i ddarparu darpariaeth wedi’i thargedu at blant hŷn i gefnogi gwaith o ddatblygu eu profiadau, gan wella teimladau tuag at eu cymuned leol a’u cynnwys mewn rhaglenni gwirfoddoli a datblygiad personol.
Mae’r adnodd hwn wedi galluogi prosiect peilot llwyddiannus sydd bellach wedi cael cyllid ychwanegol gan y Grant Plant a Chymunedau yn sgil yr effaith cadarnhaol a gofnodwyd ac aliniad a synergedd Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Mae hyn yn rhoi enghraifft o sut mae Conwy yn rhoi llais i blant o ran defnyddio grantiau a chyflwyno prosiectau.
Mae Tîm Chwarae Conwy hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau gyda Thîm Ysgolion Bro gan ddefnyddio dull cyfun i ddarparu cyfleoedd i blant.
Bu Tîm Chwarae Conwy yn cyflwyno Rhaglen Bwyd a Hwyl yr Haf mewn ysgol wledig. Mae’r Tîm Chwarae wedi datblygu perthynas gadarnhaol iawn gyda’r gymuned a gafodd ei meithrin drwy ddarpariaeth chwarae, gan arwain at ddarpariaeth Bwyd a Hwyl poblogaidd iawn.
Mae Uwch Swyddog Chwarae Conwy hefyd yn Hyfforddwr Gwaith Chwarae achredig gan alluogi’r tîm i lunio Cytundebau Lefel Gwasanaeth gyda darparwyr hyfforddiant eraill. Nid yn unig y mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr Conwy yn cael y datblygiad proffesiynol gorau, ond bod unrhyw adnoddau a dderbynnir yn mynd yn syth yn ôl mewn i ddarpariaeth chwarae cymunedol.
Enghraifft arall o sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio yng Nghonwy yw Mentrau Teithio Llesol sydd wedi cefnogi datblygu cynlluniau isadeiledd a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned. Mae hyn wedi arwain at greu llwybrau diogel a hygyrch i blant a theuluoedd o amgylch cymunedau, sydd yn ei dro wedi arwain at gyfleoedd cynyddol ar gyfer chwarae yn ystod teithio llesol a mynediad gwell at fannau chwarae ffurfiol ac anffurfiol.
Drwy ddatblygu’r gweithlu ac eiriolaeth, gall y TDCh ddylanwadu ar adrannau a phrosiectau eraill. Maent yn sicrhau eu bod yn ystyried yr effaith ar gyfleoedd chwarae y mae eu gwaith ac adnoddau yn ei gael. Trwy eiriolaeth fanteisgar gall hyn arwain at gynnydd mewn adnoddau sydd ar gael i gefnogi profiadau plant.
Mae Conwy yn ddiolchgar iawn am Grant Chwarae Cyfalaf Cymru Gyfan a fydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhai o’r camau gweithredu, a chryfhau gwaith o fewn Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol.
Fe fydd y grant yma’n cael ei ddefnyddio i ymateb i’r anghenion y tynnwyd sylw atynt yn ystod yr ymgynghoriad a thrwy gydol yr asesiad.
Ers yr asesiad diwethaf, fe fu yna fân newidiadau mewn polisi ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar draws meysydd polisi. Mae hyn wedi arwain at ystyried cyfleoedd pellach a boddhad chwarae mewn meysydd gwaith eraill a’u cynnwys yng nghanllaw’r grant. Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn teimlo bod hyn wedi cael effaith cadarnhaol ar raglenni datblygu a chyfleoedd a gynigir i gymunedau. Enghreifftiau o hyn yw Mentrau Teithio Llesol a Rhaglen Ysgolion Bro.

5. Monitoring
Swyddog Arweiniol Chwarae yng Nghonwy yw’r Uwch Swyddog Chwarae sydd wedi’i leoli o fewn Gwasanaethau Hamdden, adran Economi a Diwylliant.
Mae’r Uwch Swyddog Chwarae yn gyfrifol am weithgareddau sy’n ymwneud ag Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol a Chynllun Gweithredu a sicrhau cyfathrebu clir ar gyfer rolau a chyfrifoldebau ar fentrau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu a gwaith cysylltiedig.
Serch hynny, gyda’i gilydd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd arweiniad a chyfrifoldeb strategol dros Gyfleoedd Chwarae Digonol. Tra bod adrannau a thimau penodol yn gyfrifol am gynnydd mentrau, mae Cyfleoedd Chwarae Digonol wedi’u hamlinellu yn y fframwaith llywodraethu yn y meysydd a ffyrdd canlynol.
Y Cynllun Corfforaethol
Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn canolbwyntio ar bump prif nod yn cynnwys Lles, sydd yn cynnwys Cyfleoedd Chwarae Digonol a chyfleoedd i chwarae ar gyfer pob plentyn a phobl ifanc yng Nghonwy.
Polisi ar gyfer Chwarae Conwy
Mae cysylltiadau cryf i gyfleoedd chwarae a lles gan gyfeirio at ddeddfwriaeth allweddol i’w gweld yn ‘Conwy - Sir sydd yn rhoi Digon o Gyfleoedd i Chwarae’.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Mae’r Bwrdd yn dod â phartneriaid allweddol ynghyd i ddarparu polisïau a mentrau sy’n cefnogi cyfleoedd chwarae digonol. Fel y cyfeirir ato yn yr asesiad, cafodd Uwch Swyddog Chwarae Conwy ei recriwtio’n ddiweddar i is-grŵp BPRh sy’n adeiladu ar gysylltiadau cryfach ar gyfer cyfleoedd chwarae digonol mewn cynllunio a pholisi rhanbarthol. Yn ystod y gaeaf, bydd ymgynghoriad y plant a chynllun gweithredu dilynol yn cael ei gyflwyno i’r bwrdd.
Bwrdd Gwasanaethau Rhanbarthol
Bydd Uwch Swyddog Chwarae Conwy yn adolygu’r asesiadau a chynlluniau gweithredu gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, ac yn cyflwyno themâu trawsbynciol a chamau gweithredu gyda’r nod o ddatblygu cynllun gweithredu rhanbarthol ar gyfer y bwrdd gwasanaeth i’w integreiddio o fewn polisi a rhaglenni gwaith.
Llywodraethu
Bydd sicrhau bod Datganiad Gweithredol ar gyfer ‘Y Sefyllfa o ran Chwarae yng Nghonwy’ a’r cynllun gweithredu ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi’r uchelgais am gyfleoedd chwarae digonol i ffurfio edefyn euraidd ym mhob polisi a rhaglen waith ar draws Conwy.
Mae Grŵp Llywio Cyfleoedd Chwarae Digonol yn cyfarfod bob chwe mis i gael y newyddion diweddaraf gan yr Uwch Swyddog Chwarae ac mae Swyddogion unigol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran cynllun gweithredu.
Fe dynnir sylw at unrhyw synergedd, llwyddiant a heriau.
Mae’r Uwch Swyddog Chwarae yn cyfarfod ag unigolion o dro i dro i fynd drwy’r amcanion a nodwyd, i gefnogi cynnydd ac i roi arweiniad.
Bob hydref, mae Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet i gael ei gymeradwyo.
Cyflwynir yr adroddiadau canlynol:
- Crynodeb Gweithredol Asesiad o Gyfleoedd Chwarae Digonol ar gyfer y gylchred sy’n cyd-fynd.
- Cynllun Gweithredu presennol yr Asesiad o Gyfleoedd Chwarae Digonol
- Adroddiad Cynnydd o’r Cynllun Gweithredu blaenorol
Mae hyn yn rhoi cyfle i swyddogion dynnu sylw ar lefel strategol at lwyddiannau eu gwasanaeth, trafod unrhyw heriau maen nhw’n eu hwynebu a chymorth maen nhw’n ei gael gan Arweinwyr.
Ar ôl adolygu cylchredau Cyfleoedd Chwarae Digonol yng Nghonwy, mae lle i gredu mai’r sefyllfa yma yw’r cryfaf y mae Cyfleoedd Chwarae Digonol wedi’i gael erioed yn strategol.
Fe fydd y dull yma’n creu’r cydlyniad a synergedd mwyaf gan weithio ar draws pob maes polisi gan ganolbwyntio ar y cynllun gweithredu ac adroddiad cynnydd.
Serch hynny, mae’n ddull newydd ac fe fydd angen arweiniad, ysgogiad a dyfalbarhad i sicrhau bod popeth yn gweithio’n esmwyth a sicrhau digonolrwydd ar gyfer plant a chymunedau yn y dyfodol.
Ar ben hynny, mae yna fudd-ddeiliaid allweddol sydd dal heb ymgysylltu â chyfleoedd chwarae digonol, a gobeithio gyda’r dull yma, y bydd Conwy’n cyflawni dealltwriaeth, atebolrwydd a chynnydd ar gyfer ei gymunedau.

6. Casgliad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud cynnydd sylweddol yn strategol i ddeall profiadau bywyd ei blant a phobl ifanc. Mae Conwy wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd i chwarae yn y dyfodol ac i ddiogelu’r newidynnau cadarnhaol y mae cymunedau yn ei roi tuag at amser, lle a chaniatâd digonol i chwarae.
Bydd datblygu cyd-ddealltwriaeth y gweithlu o Gyfleoedd Chwarae Digonol ac Eiriolaeth ar gyfer Cyfleoedd Chwarae Digonol yn cefnogi’r gwaith o adnabod cyfleoedd, adnoddau a rhaglenni gwaith, ac felly yn sicrhau effaith cadarnhaol ar gyflwr chwarae yng Nghonwy yn y dyfodol.
Mae TDCh Conwy yn gwneud cynnydd gydag ymchwil ac ymgynghoriad a fydd yn sicrhau bod profiadau chwarae ac anghenion chwarae plant yn cael eu hystyried yn ystod gwaith datblygu cymunedol, cynllunio a datblygu polisi. Mae’n hollbwysig bod dull sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cael ei weithredu a bod pob cymuned yn cael y cyfle i lunio a pharatoi ‘Cynlluniau Chwarae’ lleol ac unigol. Dylai mentrau sy’n seiliedig ar y gymuned gael eu hystyried pan mae cynlluniau’n cael eu cynhyrchu. Mae TDCh yn derbyn na fydd dull ar gyfer un ardal o Gonwy yn addas i ardal arall, ac yn hynny beth, bydd cynlluniau creadigol, deinamig sy’n seiliedig ar anghenion yn cael eu llunio.
Mae TDCh Conwy wedi ymrwymo i ddarpariaeth chwarae a chyfleoedd chwarae o safon. Trwy ddatblygu’r gweithlu, monitro, ymgynghori a sicrhau anhawdd a hyfforddiant, nod y Tîm Datblygu Chwarae yw cefnogi’r holl weithwyr proffesiynol yng Nghonwy i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i leoliadau a chyfleoedd chwarae diogel, cynhwysol a diddorol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi darparu Cynllun Gweithredu arloesol, creadigol ac uchelgeisiol ac maent wrthi’n datblygu mecanweithiau i’w gweithredu ar draws pob maes polisi. Mae Cynllun Gweithredu yn gofyn am ymgysylltu strategol ac arweinyddiaeth strategol er mwyn sicrhau llwyddiant.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn croesawu adnoddau diweddar gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ymdrechu i sicrhau y bydd adnoddau’n cefnogi’r gwaith o roi’r cynllun gweithredu ar waith. Serch hynny, byddem yn croesawu ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y gallwn greu effeithiau hirdymor a fydd o fudd i’n cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
7. Dadansoddiad yn ôl Thema
Poblogaeth:
Mater A: Nifer y plant ymhob grŵp oedran yn yr ardal
Mater B: Anghenion plant o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd yn yr ardal
Mater E: A godir tâl am ddarpariaeth chwarae ac ymhle
Yr hyn y mae plant wedi’i ddweud wrthym ni:
- Dydi 25% o blant byth yn chwarae tu allan
- Mae 70% o blant yn chwarae tu allan o leiaf ambell ddiwrnod yr wythnos
- Byddai 20% yn hoffi mwy o amser yn chwarae tu allan
- Byddai merched yn hoffi mwy o amser i chwarae ac maent yn llai tebygol o gael chwarae tu allan
- Byddai plant sy’n byw yn ardaloedd arfordirol Conwy yn hoffi mwy o amser i chwarae
- Mae oedolion yn mynd â 45% o blant allan i chwarae
- Yr hynaf yw’r plant yng Nghonwy maent yn llai bodlon gyda’u cyfleoedd i chwarae
- Dywedodd plant anabl bod ganddynt lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant o leiafrifoedd ethnig llai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Cynllun hyfforddiant blynyddol y TDCh
- Ymchwil grŵp ffocws ar y gweill
- Mentrau eiriolaeth TDCh megis tynnu arwyddion Dim Gemau Pêl
- 5 canolfan i deuluoedd, 1 ym mhob is-ardal o Gonwy. Darparu rhaglenni llawn i deuluoedd sydd yn cynnwys chwarae.
- Mynediad agored i Ddarpariaeth Chwarae Cymunedol
- TDCh yn cydweithio gyda Landlordiaid Tai Cymdeithasol
- Datblygu Hamdden yn darparu rhaglen o weithgareddau hamdden mewn ardaloedd difreintiedig
- Diwrnod chwarae cenedlaethol
- Gwefan Mannau Chwarae Rhanbarthol
- Defnyddir Canolbwynt Chwarae i gefnogi mynediad i chwarae ar y traeth i deuluoedd, yn benodol gwaith partneriaid gyda Chyswllt Conwy.
- Darpariaeth ‘Have a Go’ yn targedu plant hŷn wedi ei gyflwyno mewn cymunedau gan gael boddhad enfawr ac eiriolaeth ar gyfer chwarae plant hŷn
- Datblygu Chwarae, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaethau i Deuluoedd a Datblygu Hamdden yn cyfryngu rhaglenni a gweithgareddau map
- Gwasanaeth cyfieithu mewnol
- Rhaglen fawr o gefnogaeth yn cael ei gyflwyno i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol
- Rheoli Risg ac Arweiniad Chwarae i Dîm Plant sy’n Derbyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Menter Her Amser Chwarae Egnïol
- Cefnogaeth Gwaith Chwarae un-i-un dros y gwyliau
- Adnoddau Grant Plant a Chymunedau’n cael eu defnyddio ar gyfer mentrau chwarae
- Sefydlu cysylltiadau rhwng Cyfleoedd Chwarae Digonol a Rheolwr Cynhwysiant Conwy
- Mae angen ymgynghori pellach gyda rheini er mwyn deall rhwystrau caniatâd i chwarae
- Mae plant hŷn yn byw mewn ardaloedd gwledig yn sôn am unigedd o ran cyfleoedd i chwarae yn sgil diffyg cludiant a chysylltiadau cludiant
- Fe soniodd plant hŷn hefyd am ddiffyg cyfleusterau y mae croeso iddynt gael mynediad iddynt i chwarae wrth fynd yn hŷn
- Cludiant yn cael ei reoli gan y sector preifat
- Diffyg dealltwriaeth o anghenion chwarae a rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu yng Nghonwy sydd i’w weld drwy’r Arolwg Chwarae Mawr
- Ymgysylltu gyda Chefnogaeth Gweithiwr Chwarae un-i-un dros y gwyliau
- Ôl-troed y Tîm Datblygu Chwarae ar y wefan gorfforaethol
- Mae angen cysylltiadau pellach gyda sefydliadau’r trydydd sector er mwyn datblygu dealltwriaeth o anghenion chwarae a’r rhwystrau a wynebir
- Adeilad y Cyngor ddim yn chwareus nac yn ddeniadol i blant
- Dim cludiant â chymhorthdal i blant
- Defnyddio’r holl ymchwil ac adnoddau ymchwil sydd ar gael yng Nghonwy
- Arolwg rheini i gefnogi dealltwriaeth
- Arolwg chwarae proffesiynol i ddeall anghenion plant ar draws gwasanaethau
- Grwpiau ffocws yn gweithio i ddatblygu cynlluniau chwarae a deall rhwystrau
- Ymgyrch chwarae ar draws sianeli corfforaethol
- Datblygu rhaglen hyfforddiant flynyddol TDCh
- Canolbwynt Chwarae yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy o ddigwyddiadau eiriolaeth
- Defnyddio darpariaeth ‘Have a Go’ i eirioli ac ymgyrchu dros chwarae ar sianeli corfforaethol
- Datblygu chwarae ar ôl ysgol gan ddefnyddio tir yr ysgol drwy Her Amser Chwarae Egnïol
- TDCh i weithio’n agos gyda Rheolwr Conwy Gynhwysol i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau
- Sesiynau Chwarae wedi’u Targedu drwy gydweithio i adeiladu ar ddealltwriaeth ac adrodd gyda TDCh a theuluoedd
- Llunio Canllaw Rheoli Risg a Chwarae cyfannol ar gyfer pob adran
- Adolygu Polisi Chwarae Conwy
- Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan i gefnogi mynediad i gyfleoedd i chwarae
- Cyfle i arwain ac eirioli cynhwysiant plant ym mhob adeilad a lleoliad y Cyngor
- Archwiliad aeddfedrwydd cynhwysiant
- Caiff Darpariaeth Chwarae Cymunedol ei ariannu drwy grant yn flynyddol.
- Caiff Rhaglen Grant TDCh ei ariannu’n flynyddol.
- Caiff rhaglen Chwarae Allan dros y gwyliau ei ariannu’n bennaf gan Gynghorau Tref neu Gymuned.
Lleoedd y mae plant yn chwarae:
Mater C: Lle gall plant chwarae, yn cynnwys lle agored, ac unrhyw le arall
Mater F: Mesurau traffig sy’n cael eu defnyddio i hybu mynediad i chwarae
Mater I: Y graddau y mae polisïau addysg a chynlluniau datblygu lleol yn ystyried yr angen i wella cyfleoedd chwarae i blant
Yr hyn y mae plant wedi’i ddweud wrthym ni:
- Mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu chwarae neu dreulio amser yn rhai o’r lleoedd neu’r holl leoedd yr hoffent wneud hynny
- Dywedodd plant anabl bod ganddynt lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant o leiafrifoedd ethnig llai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae oedolion yn mynd â 45% o blant allan i chwarae
- Nid yw 20% o blant yn cael chwarae tu allan heb oedolyn
- Mae mannau chwarae anffurfiol yn bwysig iawn (megis coedwigoedd, traethau, canolfannau hamdden, clybiau ieuenctid, pyllau padlo, parciau sgrialu ac ati)
- Mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu chwarae neu dreulio amser yn rhai o’r lleoedd neu’r holl leoedd yr hoffent wneud hynny.
- Dywedodd plant anabl, lleiafrifoedd ethnig a phlant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bod ganddynt lai o ddewis o ran lle i chwarae.
- Mae’r rhan fwyaf o blant bob amser neu fel arfer yn teimlo’n ddiogel wrth chwarae tu allan.
- Mae plant yng Nghonwy yn rhoi gwerth mawr ar lefydd anffurfiol yn cynnwys strydoedd, ardaloedd coetir, pyllau padlo a mannau agored.
- Y llefydd mwyaf cyffredin y dywedodd plant a phlant yn eu harddegau yng Nghonwy maen nhw’n chwarae ynddynt ydi tai a gerddi eu ffrindiau.
- Mae plant hŷn a phlant yn eu harddegau yn llai tebygol na phlant iau o dreulio amser mewn mannau chwarae dynodedig.
- Ar gyfartaledd, fe nododd plant hŷn a phlant yn eu harddegau 3.8 o lefydd y gallant fynd i chwarae neu dreulio amser o’i gymharu â 4.9 a nodwyd gan blant iau. Serch hynny, mae hyn yn llawer is na’r cyfnod cyn Covid ar draws bob oedran, pan nododd plant yng Nghonwy ystod o 5.9-7.3 o lefydd ar gyfartaledd i chwarae.
- Plant a phlant yn eu harddegau sy’n byw mewn ardaloedd gweledig sydd yn gallu chwarae yn y llefydd maen nhw ei eisiau.
- Dim ond 78% o blant o leiafrifoedd ethnig ddywedodd bod y llefydd maen nhw’n chwarae ynddynt yn dda lle gallant wneud popeth neu rywfaint o’r pethau maen nhw eisiau eu gwneud.
- Dywedodd 10% o’r holl blant a phlant yn eu harddegau nad oedd y llefydd chwarae yn dda, neu eu bod nhw’n ‘wael iawn’.
Dyfyniadau uniongyrchol gan blant:
Beth sy’n dda?
- Fe elli di wneud popeth wyt ti eisiau heb i bobl ddweud fel arall wrtha ti. A dydi hi byth rhy brysur felly mae hi’n dawel a digyffro.
- Gan mai cae ydi o, mae ‘na lawer o le. Rydw i’n byw ar fferm.
- Mae’n fawr ac rydw i’n gallu cerdded, beicio, defnyddio sgwter neu redeg o amgylch y bloc ar ben fy hun.
- Mae’n dda i chwarae cuddio a mynd allan gyda’ch ffrindiau rhan fwya’r amser.
- Mae KFC yn blasu’n dda :) ac mae Parc Eirias yn agos.
- Mae yna gae pêl-droed a pharc gyda choedwig a chae.
- Mae gen i gymuned wych. Rydw i’n gallu cerdded i’r traeth.
- Mae’r parc yn lân.
- Mae ‘na lawer o le i reidio fy meic ac offer chwarae gwych.
- Digon o le i chwarae a chael bwyd y tu allan gyda fy ffrindiau a digon i’w wneud yn den.
- Rydw i’n byw mewn ardal dawel heb lawer o geir na phobl yn eu harddegau felly does yna ddim llawer o drafferth chwarae neu ddefnyddio sialc ar ffyrdd a phalmentydd, ac rydw i’n byw yn agos at goedwig leol i fynd allan i gerdded neu fynd a fi nghi am dro yno.
- Mae yna lawer o lefydd cuddio felly rydw i’n gallu siarad yn breifat gyda fy ffrindiau heb fy rhieni.
- Os ewch chi lawr y ffordd mae yna ddau barc yn y pentref mae pawb yn adnabod ei gilydd felly mae’n dda.
Beth sydd ddim yn dda?
- Pan mae hi’n bwrw glaw does gennym ni nunlle i dreulio amser gan fod pob man rydym ni’n cael mynd wedi cloi. Rydym ni angen mwy o adeiladau i dreulio amser yno.
- Dim llefydd i siopa, dim llefydd i dreulio amser ar ffyrdd prysur, dim parciau.
- Fe all fod yn brysur iawn ac mae yna bobl sy’n edrych fel nad oes ganddynt drwydded i yrru.
- Dwi’n meddwl mai beth allai fod yn well yw mwy o lefydd i chwarae a threulio amser a mwy o bobl i ddod allan a mwynhau.
- Concrid yw’r cae pêl-droed felly mae’n brifo pan rydw i’n disgyn.
- Mae yna lawer o wydr wedi torri o amgylch ein hardal ac mae plant yn eu harddegau bob amser yn gweiddi.
- Maen nhw’n pwmpio carthffosiaeth mewn i’r ffrwd ac rydw i’n byw ger y safle carthffosiaeth.
- Mae’r parc yn fudr ac yn blentynaidd.
- Mae yna lawer o faw cŵn a mwd. Nid oes yna si-so. Mae ‘na lawer o wybed mân.
- Mae yna arwydd ‘Dim Gemau Pêl’.
- Does gen i ddim gardd ac mae hynny’n fy ngwneud i’n drist.
- Does neb yn dod allan. Does yna ddim byd i’w wneud pan rydym ni allan. Rhywle i fynd pan fyddwn ni allan gan ein bod yn gwlychu pan mae hi’n bwrw ac yn wyntog.
- Nid oes yna lawer o lefydd i fynd dan do heblaw’r llyfrgell ac mae mwyafrif y llefydd yn wlyb a mwdlyd neu hyd yn oed dan ddŵr.
- Mae cŵn un o fy nghymdogion yn dianc o’r tŷ ac yn ceisio ymosod ar gath fy ffrind, wedyn allwn ni ddim chwarae tu allan.
- Mapio darpariaeth ac mae’n hygyrch i bob swyddog. Offer mapio a ddefnyddir yn ystod grwpiau ffocws gyda phlant i archwilio cymunedau.
- Gwefan ‘Go and Play’ rhanbarthol
- Asesiadau gwerth chwarae wedi’u llenwi gan barciau
- Rhaglen hyfforddiant blynyddol y TDCh
- Ymgynghoriad ar y Cyd
- TDCh yn darparu digwyddiadau chwarae mewn amrywiaeth o lefydd chwarae anffurfiol
- Wedi ymgynghori â’r TDCh ac mae chwarae wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol
- Mynediad wedi’i ystyried ar draws pob ased yn cynnwys ardaloedd chwarae.
- Ymgyrch tynnu arwyddion ‘Dim Gemau Pêl’
- Gwnaed llawer o gynnydd i wella hygyrchedd i barciau chwarae gan dîm y parciau (7 safle yn 24/25 wedi’u gwella)
- Parthau 20mya
- Cynllunio llwybrau Teithio Llesol a datblygu llwybrau sy’n cysylltu
- Gostwng ymylon pafin a darparu hyfforddiant beicio.
- Menter Her Amser Chwarae Egnïol
- Nid oes cyllid cyfalaf ar gael i gynnal datblygu mannau chwarae ffurfiol
- Nid all y Cynllun Datblygu Lleol a’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd wneud yn iawn am ddiffygion presennol
- Dim cysylltiadau uniongyrchol i Werth Chwarae yn y CDLl
- Ni chaiff llefydd yn y gymdogaeth eu hasesu am werth chwarae
- Nid oes yna arwyddion blaenoriaeth chwarae neu annog chwarae yng Nghonwy
- Dim mecanwaith i drefnu i gau ffyrdd dros dro ar gyfer chwarae
- Plant yn dweud eu bod yn colli amser chwarae oherwydd ymddygiad neu beidio â chwblhau gwaith yn yr ysgol
- Diffyg llefydd i chwarae dan do i blant hŷn, yn benodol min nos
- Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan
- Cronfa Ffyniant Bro y DU
- Defnyddio Cynlluniau Chwarae tra’n datblygu llefydd
- Archwiliadau Chwarae Cymunedol wedi’u cynnal yn rhan o ymchwil cymunedol
- Bydd CDLl a’r CDLl Newydd yn darparu mannau hamdden ar gyfer datblygiadau tai newydd ac amddiffyn rhai presennol yn amodol ar feini prawf.
- Fe ellir defnyddio asesiad gwerth chwarae a chynlluniau chwarae i chwilio am gyfraniadau A106.
- Mae TDCh a Landlordiaid Tai Cymdeithasol yn cydweithio’n agos tra’n datblygu strydoedd cymunedol newydd neu ddatblygu strydoedd cymunedol.
- TDCh i ddefnyddio CDLl i ddatblygu prosiectau sy’n seiliedig ar chwarae
- Cwricwlwm newydd i ysgolion
- Annog mwy o leoliadau addysg i gychwyn ar yr Her Amser Chwarae Egnïol a symud ymlaen i’r Wobr Arian
- Prosiect Ysgolion Bro i gael ei roi ar waith mewn mwy o leoliadau addysg gan gynnwys ysgolion cynradd lleol
- Potensial i gytuno ar benderfyniad ‘lleol’ sy’n seiliedig ar faint a faint o adnoddau sydd ar gael i wella cyfleoedd chwarae drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
- Hyfforddiant Canlyniadau'n Cyfrif a’i weithredu mewn lleoliadau sy’n cael eu cymeradwyo gan Adran Iechyd a Diogelwch Conwy.
- Defnyddio Mannau Dan Do i gyflwyno rhaglen ‘Have a Go’
- Cyflwyno nodweddion chwareus ar draws swyddfeydd a safleoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle gallai plant fod yn bresennol
- Menter Darpariaeth Chwarae i blant mewn llety dros dro
- Nid oes cyllid cyfalaf ar gael i gynnal datblygu mannau chwarae ffurfiol
- Agwedd tuag at anghenion chwarae plant
- Mynediad i lefydd i bob plentyn
- Dim cludiant â chymhorthdal i blant
Darpariaeth dan oruchwyliaeth:
Mater D: Darpariaeth dan oruchwyliaeth
Mater G: Hyfforddiant Gwaith Chwarae a Datblygu’r Gweithlu
- Byddai 20% yn hoffi mwy o amser yn chwarae tu allan
- Byddai plant sy’n byw yn ardaloedd arfordirol Conwy yn hoffi mwy o amser i chwarae
- Mae oedolion yn mynd â 45% o blant allan i chwarae
- Yr hynaf yw’r plant yng Nghonwy maent yn llai bodlon gyda’u cyfleoedd i chwarae
- Profiadau amrywiol plant ar draws amrywiaeth o fannau chware
- Mae mannau chwarae ysgolion yn bwysig
- Mae gan Gonwy swyddog sydd yn gyfrifol am Gyfleoedd Chwarae Digonol sydd â chysylltiadau da gydag adrannau sy’n ei ddarparu
- Gwefan ranbarthol i gael mynediad at gyfleoedd darpariaeth chwarae sy’n gysylltiedig â mannau chwarae
- Rhaglen hyfforddiant blynyddol y TDCh
- TDCh yn darparu hyfforddiant achredig
- Darpariaeth ‘Have A Go’ wedi’i thargedu ar chwarae plant hŷn
- Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored yn cael ei gyflwyno yn ystod y tymor yn gysylltiedig â Chanolfannau i Deuluoedd Conwy
- Darpariaeth Mynediad Agored dros y Gwyliau yn cael ei gyflwyno bob gwyliau
- Darpariaeth wedi’i dargedu ar gyfer grwpiau penodol allai wynebu rhwystrau unigryw. Darpariaeth wedi’i dargedu yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda phartneriaid trydydd sector
- Dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
- Cynnwys Digwyddiadau Teulu mewn mannau anffurfiol mewn rhaglenni darpariaeth chwarae
- Her Amser Chwarae Egnïol a rhaglen datblygu’r gweithlu
- Swyddogion TDCh wedi’u huwchsgilio ac yn gallu darparu hyfforddiant achredig a hyfforddiant nad yw’n achredig
- Yr holl ddarpariaeth chwarae sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei weithredu yn unol â Safonau Gofynnol Cenedlaethol
- Swydd-ddisgrifiadau pob Gweithiwr Chwarae yn cael eu hadolygu i gynnwys yr holl hyfforddiant perthnasol
- TDCh, Gwasanaeth Ieuenctid, Canolfannau i Deuluoedd, Datblygu Hamdden yn mapio pob gweithgaredd er mwyn sicrhau eu bod yn estyn cymunedau a chyfleoedd i ymgysylltu
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn rhwydweithio’n dda ac yn cael eu defnyddio yng Nghonwy
- Darpariaeth chwarae yn ddibynnol ar gyllid grant
- Colli Darpariaeth Rhieni Chwareus a ariannwyd yn wreiddiol drwy grant datblygu plant
- Mae TDCh angen rhwydwaith partner trydydd sector mwy i ddeall a darparu cyfleoedd chwarae ar gyfer carfannau penodol o blant yn fwy effeithiol
- Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan
- Uwchsgilio swyddogion TDCh i gefnogi’r gwaith o weithredu Safonau Gofynnol Cenedlaethol
- TDCh yn archwilio cyfleoedd i fentora lleoliadau drwy fframwaith sicrhau ansawdd
- Adolygu anghenion hyfforddiant ar gyfer y Tîm sy’n Ymwneud â Gwaith Chwarae a’r Gweithlu Gwaith Chwarae
- Defnyddio mannau dan do i gyflwyno cyfleoedd chwarae yn ystod misoedd y gaeaf
- Datblygu rhaglen hyfforddiant flynyddol
- Datblygu Gweithdai i Rieni
- Ymgyrch chwarae drwy sianeli corfforaethol
- Adolygu a datblygu gwirfoddolwyr ar gyfer cynllun chwarae a gwobrwyo i aelodau
- Gallai Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant edrych ar asesu gwaith chwarae yn 2027 gyda chefnogaeth TDCh
- Ymestyn Gwobr Her Amser Chwarae Egnïol ar draws lleoliadau gofal plant - gellir gwneud hyn gyda mecanwaith marc sicrhau ansawdd
- Sesiynau chwaraeon galw heibio ‘jumpers for goal posts’
- Datblygu mannau Canolfannau Clyd gyda TDCh i sicrhau bod anghenion chwarae plant yn cael eu darparu yn y mannau yma
- Cyllid blynyddol drwy ffrydiau grant ar gyfer darpariaeth chwarae cymunedol
- Dim corff llywodraethu ar gyfer staff, darpariaeth mynediad agored methu cofrestru gyda AGC oherwydd natur mynediad agored y ddarpariaeth
Synergedd polisi, ymgysylltu, eiriolaeth a gwybodaeth:
Mater F: Mesurau a ddefnyddir i hyrwyddo mynediad i chwarae, yn cynnwys darparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau
Mater G: Cyfleoedd hyfforddi ar gyfer y gweithlu chwarae
Mater H: Lefel ymgysylltu â’r gymuned a chyfranogiad
Mater I: Y graddau y mae polisïau addysg a chynlluniau datblygu lleol yn ystyried yr angen i wella cyfleoedd chwarae i blant
- Dydi 25% o blant byth yn chwarae tu allan
- Mae 70% o blant yn chwarae tu allan o leiaf ambell ddiwrnod yr wythnos
- Byddai 20% yn hoffi mwy o amser yn chwarae tu allan
- Byddai merched yn hoffi mwy o amser i chwarae ac maent yn llai tebygol o gael chwarae tu allan
- Byddai plant sy’n byw yn ardaloedd arfordirol Conwy yn hoffi mwy o amser i chwarae
- Mae oedolion yn mynd â 45% o blant allan i chwarae
- Yr hynaf yw’r plant yng Nghonwy maent yn llai bodlon gyda’u cyfleoedd i chwarae
- Mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu chwarae neu dreulio amser yn rhai o’r lleoedd neu’r holl leoedd yr hoffent wneud hynny
- Dywedodd plant anabl bod ganddynt lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant o leiafrifoedd ethnig llai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae gan blant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig lai o ddewis o ran lle i chwarae
- Mae oedolion yn mynd â 45% o blant allan i chwarae
- Nid yw 20% o blant yn cael chwarae tu allan heb oedolyn
- Defnyddio Upshot i gasglu a chofnodi monitro ar gyfer darpariaeth gymunedol
- Tudalennau cyfryngau cymdeithasol TDCh yn boblogaidd ac yn weithgar
- Mae gan TDCh berthynas dda gyda’r wasg yn lleol
- Gweithdai a digwyddiadau eiriolaeth wedi’u cynnwys yng nghynllun hyfforddiant blynyddol TDCh
- Ymgysylltu strategol amrywiol o fewn Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol
- Ymgynghori â TDCh ar ddatblygiadau newydd
- Mae angen ymgynghori a monitro ar gyfer yr holl waith grant felly mae TDCh yn adolygu’r ddarpariaeth yn gyson drwy’r mecanweithiau yma
- Mae Uwch Swyddog Chwarae Conwy yn gysylltiedig â Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Lleol a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
- Mae hyfforddiant chwarae i’w weld mewn hyfforddiant cychwynnol ar gyfer sawl rôl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar draws Gofal Cymdeithasol a Hamdden
- Mae angen llawer o waith ar wefan Conwy i sicrhau bod Gwaith Datblygu Chwarae a Chyfleoedd i chwarae ar gael yn hawdd
- Mae angen llawer o waith ar wefan Conwy i sicrhau bod Gwaith Datblygu Chwarae a Chyfleoedd i chwarae ar gael yn hawdd- Nid yw rhai adrannau yn ymwneud â’r Asesiad o Gyfleoedd Chwarae Digonol neu Gynllun Gweithredu eto.
- Nid oes mecanwaith i ddarparu Chwarae Stryd neu gau strydoedd ar gyfer chwarae
- Sicrhau bod y wasg leol yn cael mwy o gyfle i roi sylw i straeon cadarnhaol sy’n ymwneud â chwarae ac arferion chwarae
- Datblygu gweithdai eiriolaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr o fewn Rhaglen Hyfforddi TDCh
- Gweithdai Cyfleoedd Chwarae Digonol i gael eu cynnwys mewn cynlluniau hyfforddi i sefydlu budd-ddeiliaid newydd yng Ngrŵp Llywio Cyfleoedd Chwarae Digonol
- Bydd Ymchwil Grŵp Ffocws ac Ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau chwarae
- Pwysigrwydd Cyfleoedd Chwarae Digonol i gael ei gryfhau o fewn y Cynllun Lles Corfforaethol.
- Adolygu canllawiau a pholisïau sydd gan Gonwy mewn perthynas â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Chwarae
- Capasiti i TDCh ddarparu cynllun datblygu gweithlu mor fawr yn effeithiol
- Mecanwaith newydd i lywodraethu ar gyfer Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol a Chynnydd ar Gynllun Gweithredu
