start content

Cynigion

NFD Top 400 Cy

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol - Sesiwn am ddim yng Nghampfeydd Ffit Conwy

I ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol  Ddydd Mercher, 16 Medi, mae gan Ffit Conwy gynnig cyffrous ar gyfer aelodau a phobl nad ydynt yn aelodau hefyd!

I’r rhai nad ydynt yn aelodau:

  • Cewch un ymweliad am ddim i’r gampfa ddydd Mercher, 16 Medi 2026
  • Ymunwch cyn hanner nos ddydd Mercher 23 Medi 2026, a byddwn yn hepgor eich ffi ymuno

Aelodau Ffit Conwy:

  • Dewch â ffrind am ddim (sydd ddim yn aelod, yn unig)
  • Os ydynt yn ymuno cyn hanner nos dydd Mercher, 23 Medi 2026 (dim ffi ymuno), byddwch yn derbyn crys-t arbennig â logo.

Mae’r cynnig yn berthnasol i fynediad i’r gampfa yn unig. Nid yw’n cynnwys dosbarthiadau na gweithgareddau eraill. Mae amodau a thelerau’n berthnasol.

I hawlio’r cynnig dim ffi ymuno, cofrestrwch drwy ein Canolfan Gyswllt ar 0300 456 95 25

Sesiwn Am Ddim yn y Gampfa, Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol - Telerau ac Amodau

  1. Mae’r cynnig ar gael ar Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn unig.
  2. Mae’r cynnig yn cynnwys un sesiwn am ddim yn y gampfa ar gyfer pobl nad ydynt yn aelodau mewn unrhyw gyfleuster Ffit Conwy sy’n cymryd rhan. Canolfannau Hamdden
  3. Mae’r cynnig yn berthnasol i fynediad i’r gampfa’n unig, ac nid yw’n cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, nofio, yr ystafelloedd iechyd, cyrtiau, caeau, neu unrhyw weithgaredd arall.
  4. Mae gan bob cyfranogwyr hawl i un ymweliad â’r gampfa yn unig fel rhan o’r cynnig hwn. Ni chaniateir mwy nag un ymweliad, na sawl mynediad ar yr un dydd.
  5. Mae’n rhaid i gyfranogwyr gwblhau sesiwn sefydlu (ar-lein neu’n bersonol), a gofynion sgrinio iechyd cyn cael mynediad i’r gampfa.
  6. Mae’n rhaid i gyfranogwyr gydymffurfio gyda holl ofynion aelodaeth Ffit Conwy, iechyd a diogelwch, ac ymgyfarwyddo â’r gampfa pan fo’n berthnasol. Telerau Ac Amodau
  7. Byddwn yn hepgor ffi ymuno pobl nad ydynt yn aelodau sy’n mynychu dan y cynnig hwn os ydynt yn prynu aelodaeth cymwys Ffit Conwy cyn hanner nos, dydd Mercher, 23 Medi 2026. 
  8. Gall aelodau Ffit Conwy ddod â ffrind i gymryd rhan mewn sesiwn am ddim yn y gampfa. Bydd aelodau yn derbyn crys-t Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol os yw eu gwestai yn prynu aelodaeth gymwys gan Ffit Conwy cyn hanner nos, dydd Mercher, 23 Medi 2026.
  9. Un crys-t yn unig ar gyfer pob atgyfeiriad am aelodaeth gymwys. Gellir casglu’r crysau-t yn eich safle dewisol o ddydd Iau, 24 Medi 2026.
  10. Nid oes modd trosglwyddo’r cynnig, na’i gyfnewid am arian parod, ac nid oes modd ei ddefnyddio gydag unrhyw gynnig aelodaeth arall, ac eithrio bod Ffit Conwy’n datgan hynny’n glir.
  11. Gall cyfranogwyr rhwng 11 a 15 oed ddefnyddio’r cynnig hwn dim ond gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan riant neu warcheidwad cyfreithiol. Rhaid darparu’r caniatâd cyn i’r sesiwn gampfa gael ei chynnal. Mae Ffit Conwy yn cadw’r hawl i wrthod mynediad neu gyfranogiad os na cheir caniatâd rhiant boddhaol. Mae cyfranogiad hefyd yn ddarostyngedig i gydymffurfio â Pholisi Campfa Iau Ffit Conwy a’r gofynion goruchwylio perthnasol. Rheolau Aelodaeth Iau Ffit Conwy (11-15 Oed)
  12. Mae Ffit Conwy yn cadw’r hawl i ddiwygio neu ddod â’r cynnig hwn i ben ar unrhyw adeg.
end content