top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Hyfforddiant Gwaith Chwarae
start content

Hyfforddiant Gwaith Chwarae: Rhaglen Hyfforddiant Datblygiad Chwarae Conwy 2024-2025

Darperir yr holl hyfforddiant gan hyfforddwyr gwaith chwarae cymwys aphrofiadol.Mae’r holl hyfforddiant yn hwyliog a chwareus ac mae’r hyfforddwyr yngwneud popeth i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion pob dysgwr. Cofiwchroi gwybod i ni am unrhyw beth all eich helpu i gymryd rhan yn yr hyfforddiant.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi archebu lle, cysylltwch â datblyguhamdden@conwy.gov.uk.

Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae

  • Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: cynhelir yr hyfforddiant hwn nifer o weithiau trwy gydol yflwyddyn, anfonwch e-bost at datblyguhamdden@conwy.gov.uk i gael mwy o wybodaeth

Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae yn gwrs rhagarweiniol gwych i waith chwarae ac mae’n cynnwys cyfuniad da o wybodaeth sy’n seiliedig ar ymarfer a theori.

Dyma’r cymhwyster lefel mynediad ar gyfer symud ymlaen at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith.

Gwaith chwarae ymarferol

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 4 Medi 2024, 9:30am tan 2:30pm

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut i greu amgylchedd chwarae mwy cyfoethog. Byddwn yn gwneud hyn trwy feddwl yn ddwysam y cwricwlwm gwaith chwarae a sut allwn ei ddefnyddio felcanllaw i feddwl am syniadau chwareus, ac yn bwysicach, sutallent gael eu defnyddio yn ymarferol i wella gofod chwarae ymhellach.

Bydd hyn yn cynnwys rhannu syniadau ac yn bwysicach, torchi ein llewys, rhoi cynnig arni, gwneud pethau, achael hwyl, mewn sesiwn gynhwysfawr a chefnogol o rannu sgiliau.

Tanau, cuddfannau a rhaffau

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 11 Medi 2024, 10am tan 2pm

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ystyried dulliau ymarferol i gynnwys yr amgylchedd naturiol / awyr agored yn chwarae plant.

Byddwn yn edrych ar sgiliau ymarferol syml sy’n cefnogi adeiladu yn yr awyr agored, yn cynnwys cyrsiau rhaffau, rhaffau tynn,siglenni coed a chreu cuddfannau. Byddwn hefyd yn edrych argynnwys tannau ar gyfer coginio ac archwilio – bydd hyn yn cynnwys coginio dros dân.

Byddwn yn edrych ar ffyrdd i gefnogi plant hŷn yn defnyddio cyfarpar a choed i’w helpu nhw i adeiladua chreu eu gofodau chwarae eu hunain. Yn olaf byddwn yn trafodsut i gydbwyso risgiau a manteision y mathau yma o gyfleoedd chwarae er mwyn rhoi cyfle i blant chwarae dan eu harweiniad eu hunain.

Bydd y cwrs hwn yn un ymarferol ac yn cael ei gynnal yn yr awyr agored – bydd disgwyl i chi chwarae beth bynnag fo’r tywydd!

Ymgyddiad a chwarae

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Colwyn Bay
  • Dyddiad: 18 Medi 2024, 6pm tan 9pm

Bydd y sesiwn yn archwilio ymddygiad sy’n heriol a’i ail-fframio trwy lens dull gwaith chwarae.

Byddwch yn archwilio cymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol ac yn ystyried sut all ein dulliau a lefelau ymyrraeth ymestyn a gwella chwarae plant a phobl ifanc, a hefyd helpu ymarferwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddelio ag ymddygiad sydd yn heriol.

Meddwl am y risgiau mewn chwarae

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 25 Medi 2024, 6pm tan  9pm

Bydd y sesiwn yn archwilio sut allwn ni fel ymarferwyr ddarparu graddfa resymol o risg a her yn eu lleoliad trwy ddefnyddio dull gwaith chwarae. Bydd yn archwilio rhai o ddeddfwriaethau achanllawiau allweddol yn ogystal â rhai o’r damcaniaethau sy’nllywio ein hymarfer a’n helpu ni i ddatblygu darpariaeth sy’n canolbwyntio mwy ar y plentyn.

Bydd yn cynnwys asesiad risg dynamig a’r defnydd o asesiadau risg-mantais, yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol o ran sut i ystyried y cydbwysedd iawn, wrth lynu at egwyddorion gwaith chwarae.

Chwarae i bawb

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 9 Hydref 2024, 6pm tan 9pm

Mae pob plentyn ac unigolyn ifanc angen chwarae. Os ydych yngweithio gyda nhw, byddwch yn siŵr o brofi eu hymddygiad chwarae cyffredin beth bynnag yw eich rôl neu leoliad.

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut all ddull gwaith chwarae gyd-fynd â gwaith ieuenctid ac i’r gwrthwyneb. Byddwn yn ystyried sut allwn wella’r cynnig chwarae mewn lleoliadau ieuenctid a chefnogi pobl ifanc yn well gyda materion a all godi yn eu bywydau.

Conwy chwaraeus

  • Lleoliad: Ystafelloedd Hyfforddi, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 16 Medi 2024, 12:30pm tan 2:40pm

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cynghorwyr tref, cymuned a sir, cymdeithasau tai, swyddogion Conwy Cynllunio a’r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, ac unrhywun arall y mae ei swydd yn effeithio ar ofodau cymunedol.

Byddy gweithdy yn archwilio beth yw cymuned chwareus a sut gellireu creu yn defnyddio dyluniadau, gofodau ac agweddau.

Gwella llefydd ar gyfer chwarae

  • Lleoliad: Canolbwynt Datblygu Hamdden, Porth Eirias, Bae Colwyn
  • Dyddiad: 6 Tachwedd 2024, 1pm tan 4pm

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i wella eu hamgylchedd chwarae presennol trwy archwilio chwarae a hunanasesu.

Bydd y cwrs yn archwilio pwysigrwydd y cwricwlwm gwaith chwarae ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar sut i ddarparu mannau cyffrous, amrywiol a chyfoethog i blant a phobl ifanc chwarae.

Ddim yn gweld yr hyn sydd arnochchi ei eisiau? Rydym am roi’r hyn sydd ei eisiau arnynt i’r sector chwarae a phawb sy’n gweithio gyda phlant a phob lifanc, felly os oes gennych angen o ran hyfforddiant ym maes chwarae neu waith chwarae nad ydym yn sôn amdano yma, rhowch wybod i ni abyddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.

end content