Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ymyrraeth iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n darparu mynediad at ddwy sesiwn ymarfer corff wedi’u teilwra a dan oruchwyliaeth bob wythnos.
Mae’r cynllun yn 16 wythnos o hyd ac yn £3 y sesiwn.
Lluniwyd y cynllun ar gyfer oedolion anweithgar sydd naill ei mewn perygl o iechyd gwael neu â chyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli, i ddarparu cyfleoedd ymarfer corff hwyliog, gwobrwyol ac y gellir eu hymgorffori mewn bywyd bob dydd.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy’n anelu i wella iechyd a lles oedolion anweithgar nad ydynt yn symud llawer sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd eisoes yn dioddef o gyflwr cronig.
Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i wreiddio arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
Ar ôl eu hatgyfeirio, mae cleifion sy’n bodloni’r meini prawf yn cael eu gwahodd i’w canolfan hamdden leol ar gyfer asesiad cychwynnol gyda gweithiwr atgyfeirio ymarfer corff proffesiynol cymwys. Byddant yn cael cynnig rhaglen ymarfer corff wedi ei theilwra, dan oruchwyliaeth am 16 wythnos a bydd eu cynnydd yn cael ei adolygu ar gyfnodau allweddol.
Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o’r cynllun, yn 16 oed neu’n hŷn ac yn addas i ymuno â’r cynllun, siaradwch â’r meddyg teulu/nyrs practis/gweithiwr iechyd proffesiynol am gael eich atgyfeirio.
- Colwyn Leisure Centre
- Abergele Leisure Centre
- Hwb Yr Hen Ysgol, Llanrwst
- Llandudno Junction Leisure Centre
Gallwch gael mynediad at y cynllun yn y lleoliadau canlynol:
Bydd un o’n Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol yn eich cefnogi drwy gydol eich siwrnai ar y cynllun. Byddwch yn derbyn ymgynghoriad cychwynnol, ymarfer corff priodol ar bresgripsiwn, ac adolygiad 4 wythnos ac 16 wythnos.
Ar ôl cwblhau’r cynllun, byddwch yn derbyn adolygiad 16 wythnos lle byddwn yn canfod llwybr ymadael priodol i chi. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymaelodi â Ffit Conwy gyda gostyngiad o 40%.
Gallai’r buddion corfforol gynnwys:
- Gwella cryfder ac effeithlonrwydd y galon a’r ysgyfaint
- Gwella cryfder cyhyrol
- Sefydlogi’r cymalau
- Gellir oedi arwyddion cynnar o osteoporosis
- Gallwch leihau lefelau braster yn y corff a phwysau gormodol
- Gallwch wella’ch gallu i ymlacio a chysgu
- Gallwch ymgymryd â gweithgareddau dydd i ddydd yn haws
- Teimlo’n fwy effro ac egnïol
- Helpu i gynnal osgo da
- Helpu i normaleiddio pwysau gwaed
- Lleihau’r perygl o ddatblygu diabetes
- Helpu i gynnal annibyniaeth
Bydd y buddion seicolegol yn cynnwys:
- "Nid wyf yn teimlo gymaint o straen a gorbryder"
- "Mae fy hunanhyder a’m hunan-barch wedi gwella"
- "Mae cadw’n heini wedi fy helpu i roi’r gorau i ysmygu"
- "Mae’r sesiynau ymarfer corff yn fy helpu i neilltuo amser i mi fy hun"
- "Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn edrych yn hapusach"
- "Rwy’n cymryd mwy o gyfrifoldeb am fy iechyd"
Mae’r buddion cymdeithasol yn cynnwys:
- "Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl eraill a oedd yn pryderu am yr un pethau â mi"
- "Mae’r sesiynau wedi fy helpu i fynd allan o’r tŷ a datblygu diddordeb newydd"
- "Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn mwynhau’r sgyrsiau"
- "Rwy’n teimlo’n fwy heini ac rwyf bellach yn gallu treulio mwy o amser yn chwarae gyda’m hwyrion a’m hwyresau"
Straeon Llwyddiant
Brian Smith
Mae Brian Smith, 86 oed wedi elwa o sesiynau NERS yng Nghanolfan Hamdden Colwyn ac mae’n dweud wrthym amdano yma:
“Ces i godwm dros 2 flynedd yn ôl a thorri fy ysgwydd. Rydw i hefyd wedi cael problem gyda fy mhengliniau. Atgyfeiriodd y tîm ffisiotherapi fi at NERS, a dechreuais gyda dosbarth Cynllun Atal Codymau dros 2 flynedd yn ôl.
Mae mynd i sesiynau NERS wedi gwella fy mywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n llawer mwy hyblyg a gallaf bellach godi pethau o’r llawr. Pe na bawn i wedi dechrau ymarfer corff, ‘dw i’n meddwl y byddwn i wedi gorfod cael cadair olwyn.
Os ydych wedi cael eich atgyfeirio at NERS a'ch bod ychydig yn bryderus, does dim angen poeni o gwbl. Mae'r holl hyfforddwyr a staff y dderbynfa wedi rhoi cymaint o groeso i mi, ac wedi fy annog. Bydd eich lles cyffredinol yn gwella, ewch amdani, bydd yn newid eich bywyd!
‘Dw i wrth fy modd gyda’r sesiynau, dw i bellach yn gwneud chwech yr wythnos. Dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed. Mae wedi fy adfywio’n llwyr yn 86 oed. ‘Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ‘dw i’n fwy ffit nag erioed, ac os galla i wneud hyn yna gall unrhyw un!”
Peter Nolan
“Ar ôl i mi gael strôc, daeth tro annisgwyl ar fy myd. Daeth tasg syml fel cerdded yn her ddychrynllyd, ac roedd rhaid i mi ddibynnu ar ffon i symud o gwmpas. Roedd yn gyfnod anodd, llawn ansicrwydd a rhwystredigaeth. Fe rois i gynnig ar sawl triniaeth yn y gobaith o adennill y gallu i symud o gwmpas – aciwbigo, sesiynau ffisiotherapi preifat a phigiadau hyd yn oed – ond ddaeth yr un o’r dulliau hyn yn agos i gael yr un effaith drawsnewidiol â’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff.
O’r funud y cofrestrais i ar gyfer y rhaglen, roeddwn i’n teimlo rhyw obaith newydd. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i ddarparu cynlluniau ymarfer corff wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion unigol, ac mae wedi bod yn arbennig o fuddiol i fy adferiad i. Dan arweiniad hyfforddwyr gwybodus a gyda chymuned llawn cefnogaeth, fe ddechreuais i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i byth yn gallu eu gwneud eto.
Wrth i mi ddilyn y rhaglen, cefais fy synnu pa mor gyflym y cynyddodd fy nghryfder a’m hyder i. Fe ddatblygodd fy nghamau petrus yn dibynnu ar fy ffon i’r profiad anhygoel o loncian ychydig o bellter. Alla’ i ddim disgrifio’r synnwyr o gyflawniad roeddwn i’n ei deimlo gyda phob buddugoliaeth fechan. Yn ogystal ag adennill fy ngallu corfforol, roeddwn i hefyd yn ailddarganfod rhan ohonof i fy hun nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ei weld byth eto.
Nid yn unig y mae’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff wedi gwella fy iechyd corfforol, mae hefyd wedi cael effaith enfawr ar fy lles cyffredinol. Mae’r cyfuniad o symud, rhyngweithio’n gymdeithasol a chymorth arbenigol wedi meithrin ymdeimlad o gymuned sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod fy nhaith tuag at wellhad. Rydw i wedi dysgu am bwysigrwydd cadw’n heini a sut mae hynny’n cyfrannu at fy iechyd meddyliol ac emosiynol.
Rydw i’n argymell y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff yn frwd i unrhyw un sydd wedi wynebu heriau tebyg. Mae wedi gweddnewid fy mywyd, ac rydw i’n credu’n gryf y gall wneud hynny i eraill hefyd. Os ydych chi’n chwilio am lwybr tuag at wellhad sy’n blaenoriaethu lles a symudiad, mae’r rhaglen hon yn ddewis ardderchog. Mentrwch ar y daith ac fe welwch chi fod posib i chi gyflawni mwy nag y byddech chi erioed wedi’i gredu.”
Manylion Cyswllt:
Roxana Coleson, Goruchwyliwr Atgyfeirio Ymarfer Corff
Ffon: 01492 576134
E-bost: NERS@conwy.gov.uk