Arian i Bobl yn y Byd Chwaraeon
Mae Cynllun Cymorth i Athletwyr Dawnus Conwy wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Chwaraeon Conwy, Chwaraeon Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r cynlluniau i’w cael yn y ffurfiau canlynol:
Grant Datblygu Personol
Mae’r wobr hon ar gael i athletwyr sy’n cystadlu yn eu camp ar lefel Ranbarthol, ac sy’n aelodau o glybiau sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Conwy. Mae’r cynllun grant hwn yn cael ei weinyddu gan Chwaraeon Conwy, ac mae’n cynnig cymorth ariannol hyd at £300.
I ymgeisio ewch i:
https://sportconwy.org.uk/support
Grant Anaf Chwaraeon
Mae’r wobr hon ar gael i athletwyr sy’n cystadlu yn eu camp ar lefel Ranbarthol, ac sy’n aelodau o glybiau sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Conwy. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Chwaraeon Conwy ac mae’n cynnig cefnogaeth ariannol hyd at £100. Gellir gwobrwyo'r grant hwn i athletwyr unigol i helpu a chostau sy'n ymwneud â mynd at ffisiotherapydd, podiatrydd, meddyg esgyrn neu therapydd chwaraeon.
I ymgeisio ewch i:
https://sportconwy.org.uk/support
Cynllun Athletwyr Talentog Conwy
Mae Cynllun Athletwyr Talentog Conwy yn rhoi cymorth i bobl dalentog sy’n cystadlu ar lefel Genedlaethol yn eu maes chwaraeon.
Mae’r cynllun yn cynnig mynediad am gyfradd ostyngol i gyfleusterau hamdden Conwy at ddibenion hyfforddiant.
I fod yn gymwys rhaid I chi fod yn byw yng Nghonwy a bod yn aelod cyfredol o Sgwad Cenedlaethol Corff Llwodraethu Chwaraeon Cymru.
I ymgeisio ewch i:
https://conwy-self.achieveservice.com/cy/service/Conwy_Talented_Athletes_Scheme
Cronfa Ragoriaeth Conwy
Mae’n darparu cyllid i unigolion o dan 30 oed sy'n byw yng Nghonwy sy'n dalentog mewn chwaraeon, addysg a'r celfyddydau. Nod y cynllun yw helpu unigolion i gyflawni eu potensial drwy hyfforddiant a datblygiad. Mae grantiau ar gael i bobl ym myd chwaraeon sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol ac sydd angen cyllid ar gyfer costau hyfforddi.
I ymgeisio ewch i:
https://conwy-self.achieveservice.com//cy/service/Conwy_Excellence_Fund
Dogfennau