Polisi Parch, Diogelwch a Gwrth-aflonyddu
Yn Ffit Conwy rydym yn ymroddedig i greu amgylcheddau croesawgar, cynhwysol a diogel, lle gall pawb fwynhau cadw’n heini.
Mae gan bob cwsmer yr hawl i wneud ymarfer corff, nofio a chymryd rhan mewn gweithgareddau heb brofi aflonyddwch, bygythion, gwahaniaethu neu sylw nas dymunir.
Mae gan Ffit Conwy ymagwedd o ddim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, bygythion, ymddygiad bygythiol ac unrhyw ymddygiad sy’n gwneud i unigolyn arall deimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus. Mae’r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu canllawiau a ddatblygwyd ledled y sector gweithgarwch corfforol yn y DU gan ukactive, Sport England, This Girl Can, a phartneriaid diogelu.
Yr Hyn a Ddisgwyliwn gan ein Cwsmeriaid
Gofynnwn i’r holl gwsmeriaid, aelodau ac ymwelwyr i:
- Drin pawb â chwrteisi, urddas a pharch
- Parchu gofod personol pobl eraill
- Dilyn cyfarwyddiadau’r staff a rheolau’r cyfleuster
- Helpu i greu amgylchedd cyfeillgar a chynhwysol
- Bod yn ystyriol tuag at eraill sy’n defnyddio ein cyfleusterau.
Ymddygiad Annerbyniol
Ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad canlynol:
Aflonyddu Rhywiol
Mae hyn yn cynnwys:
- Sylwadau, jôcs neu ystumiau nas dymunir
- Sylwadau amhriodol am edrychiad unigolyn
- Sylw mynych nas dymunir
- Ceisiadau nas dymunir am fanylion cyswllt personol
- Unrhyw fath o ymddygiad bygythiol rhywiol.
Bygythion ac Aflonyddu
Mae hyn yn cynnwys:
- Syllu’n barhaus
- Dilyn neu fonitro cwsmer arall
- Ymwthio i ofod personol rhywun
- Bwlio, ymddygiad bygythiol neu ymosodol
- Unrhyw ymddygiad sy’n achosi i rywun deimlo’n anniogel.
Tynnu Lluniau a Ffilmio
Mae’n rhaid i gwsmeriaid beidio â:
- Thynnu lluniau o eraill neu eu ffilmio heb eu caniatâd
- Defnyddio camerâu neu ffonau symudol mewn ystafelloedd newid, toiledau neu ardaloedd gwaharddedig eraill
- Rhannu delweddau o gwsmeriaid eraill heb ganiatâd.
Ein Hymrwymiad
Mae staff campfeydd, cynorthwywyr hamdden a rheolwyr dyletswydd Ffit Conwy yn monitro a phatrolio ein campfeydd a’n cyfleusterau yn weithredol i helpu i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi. Hyfforddir staff i adnabod ymddygiad amhriodol, ymateb i bryderon a gweithredu pan fo angen.
Os ydych yn profi neu’n gweld ymddygiad sy’n eich gwneud yn anghyfforddus, siaradwch ag aelod o staff cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn:
- Cymryd pob adroddiad o ddifrif
- Trin pryderon mewn modd sensitif a pharchus
- Ymchwilio i ddigwyddiadau’n ddi-oed
- Cymryd camau gweithredu priodol lle bo angen.
Canlyniadau Camymddwyn
Os canfyddir bod unrhyw rai wedi torri’r polisi hwn, gellir:
- Rhoi rhybudd llafar neu ysgrifenedig iddynt
- Eu hanfon o’r cyfleuster
- Rhoi ataliad dros dro ar eu haelodaeth Ffit Conwy neu eu gallu i Dalu a Chwarae, neu eu terfynu
- Rhoi gwybod i’r Heddlu neu awdurdodau eraill amdanynt.
Angen Cefnogaeth?
Os ydych yn teimlo’n anniogel neu’n profi unrhyw fath o aflonyddu wrth ddefnyddio ein cyfleusterau, siaradwch ag aelod o dîm Ffit Conwy ar unwaith.
Gellwch hefyd gysylltu ag aelod o dîm Ffit Conwy yn gyfrinachol drwy:
Ffonio 0300 456 9525 neu e-bostio hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Mae gan bawb yr hawl i gadw’n heini mewn amgylchedd sy’n ddiogel, croesawgar a pharchus. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Ffit Conwy yn wasanaeth lle mae pob cwsmer yn teimlo’n gyfforddus, ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn gallu gwneud ymarfer corff gyda hyder.