top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Polisi Canslo ac Ad-dalu
start content

Polisi Canslo ac Ad-dalu

Canslo Eich Aelodaeth Debyd Uniongyrchol

Rydym ni’n cydnabod bod amgylchiadau llawer o bobl yn newid. Dan amgylchiadau o’r fath, os byddwch chi’n dymuno canslo eich aelodaeth debyd uniongyrchol, byddwn ni’n gofyn i chi wneud hynny'n uniongyrchol â'ch banc eich hun. Ni ellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn un o’n cyfleusterau ni. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn ysgrifenedig drwy hamdden.leisure@conwy.gov.uk.

Mae gan aelod yr hawl i ddod â'r cytundeb hwn i ben cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl y dyddiad y daeth yn aelod drwy gais ysgrifenedig i hamdden.leisure@conwy.gov.uk. Bydd gan yr aelod hawl i gael ad-daliad o’r ffi aelodaeth a dalwyd namyn swm pro rata am y nifer o ddyddiau a ddefnyddiodd ei aelodaeth cyn canslo.

Os na all Ffit Conwy gasglu’r ffi debyd uniongyrchol ar y dyddiad ail-gyflwyno, ar yr wythfed ar hugain o bob mis neu’n agos at y dyddiad hwnnw, bydd yr aelodaeth yn cael ei ‘rhwystro’ ac ni ellir ei defnyddio hyd nes eich bod chi’n talu’r ffioedd sy’n ddyledus. Os ydych chi’n dymuno ail-ddechrau eich aelodaeth gyda ni, bydd gofyn i chi dalu'r ffi ymuno a'r taliad pro rata.

Canslo Eich Aelodaeth Flynyddol

Gan ein bod ni’n cynnig Aelodaeth Flynyddol am bris gostyngol i gwsmeriaid sy’n dymuno ymrwymo am 12 mis, ni ellir canslo’r aelodaeth hon ar ôl ei phrynu oni bai fod hynny am resymau tosturiol neu feddygol pryd y gellir ystyried hyn â thystiolaeth berthnasol / tystiolaeth feddygol berthnasol a phriodol.

Gweithgareddau Wedi'u Rhaglennu Ac Y Gellir Cadw Lle Ar Eu Cyfer

Gall eich Aelodaeth roi'r hawl i chi gadw lle ar gyfer dosbarthiadau neu weithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn eich aelodaeth.

Rydym ni’n annog yr aelodau i gyd i sicrhau eu bod nhw’n defnyddio eu cerdyn i fewngofnodi ar gyfer pob dosbarth maen nhw’n mynd iddo. Rydym ni hefyd wedi atgoffa ein timau derbynfa am bwysigrwydd cofnodi pawb sy’n bresennol.

Cwsmer yn Canslo Dosbarth neu Weithgaredd

Mae’n rhaid i sesiynau unigol y mae unigolyn wedi cadw lle ar eu cyfer gael eu canslo o leiaf 1 awr cyn i’r gweithgaredd ddechrau.

Nid oes modd rhoi ad-daliadau. Fodd bynnag, mae modd trosglwyddo eich lle ar gyfer dosbarth neu weithgaredd i ddyddiad arall neu gellir ychwanegu credyd at eich cyfrif i'w ddefnyddio yn y dyfodol trwy gysylltu â'r Ganolfan Hamdden yn uniongyrchol, gan sicrhau eich bod chi’n rhoi o leiaf 1 awr o rybudd.

Mae’n rhaid canslo gweithgareddau grŵp fel chwaraeon raced a chwaraeon tîm o leiaf 24 awr cyn amser cychwyn y gweithgaredd a drefnwyd ymlaen llaw. Bydd 50% o'r taliad yn cael ei gymryd a bydd 50% yn cael ei ad-dalu ar gyfer gweithgareddau sy’n cael eu canslo o fewn 24 awr. Ni fydd y defnydd yn cael ei ychwanegu at gyfrif aelod.

Ni fydd modd ad-dalu ffioedd aelodaeth os bydd yr aelod yn canslo gweithgaredd neu gyfleuster a drefnwyd ymlaen llaw.

Os oes gan gwsmer unrhyw ddyledion heb eu talu ar eu cyfrif, bydd mynediad i’n cyfleusterau yn cael ei ‘rwystro’ ac ni chaniateir mynediad hyd nes bod y ffioedd sy’n ddyledus yn cael eu talu.

Bydd eich cydweithrediad chi o ran dilyn y polisi canslo yn ein galluogi ni i roi eich lle chi i aelodau eraill.

Os bydd y ganolfan yn canslo

Rydym ni’n cadw’r hawl i wrthod neu ganslo unrhyw ddosbarth neu weithgaredd yr ydych chi wedi cadw lle ar eu cyfer heb roi rheswm, gwrthod mynediad i’r ganolfan, gwrthod cais am aelodaeth a diddymu aelodaeth.

Gallwn ni ychwanegu at, newid, diddymu neu ganslo cyfleusterau neu weithgareddau yn ein canolfan ar unrhyw adeg. Mae hyn yn cynnwys cau’r ganolfan neu wneud newidiadau i’w horiau agor am resymau diogelwch, cynnal a chadw neu ddigwyddiadau arbennig.

Ni fydd modd ad-dalu ffioedd aelodaeth os bydd y ganolfan yn canslo gweithgaredd neu gyfleuster a drefnwyd ymlaen llaw gennych chi. Ni fydd y ganolfan yn atebol am unrhyw wariant arall neu golled y bydd y cwsmer yn ei ddioddef o ganlyniad i ganslo’r trefniant.

end content