Gweithdy Tai Chi
Ystod Oedran:
16+
Mae’r gweithdy’n dysgu ffurf fer arddull Yang 37-ystum Cheng Man Ching. Mae’n ddull syml ac effeithiol sy’n cadw hanfod Tai Chi traddodiadol, gan ei wneud yn hawdd ar gyfer ymarferwyr modern. Bydd ymarfer rheolaidd yn datblygu hyblygrwydd, cryfder, cydbwysedd a chydlyniad, yn ogystal â lleihau straen, cryfhau ffocws meddyliol a chefnogi iechyd a lles cyffredinol.
Dyddiadau a Lleoliadau
Dydd Sadwrn 19 Medi 1:30pm - 3:30pm
Darganfyddwch wreiddiau ac egwyddorion Tai Chi a hynny tra’n dysgu’r Ffurf Fer yn Null Cheng Man Ching Yang.
Bydd y cwrs hwn yn eich tywys drwy’r gyfres o symudiadau ffurf fer gam wrth gam gan ganolbwyntio ar ddatblygu a pherffeithio pob symudiad.
Bydd sylw yn cael ei roi’n benodol i osgo, cydbwysedd, aliniad, anadlu a’r ffurf gywir gan eich helpu chi i feithrin hyder a datblygu gwell dealltwriaeth o gelfyddyd Tai Chi.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Hanes cryno a chyflwyniad i wreiddiau Tai Chi.
- Cyflwyniad i egwyddorion y Dull Cheng Man Ching Yang.
- Hyfforddiant cam wrth gam drwy’r gyfres ffurf fer.
- Arweiniad ar yr osgo cywir, ystum a thechneg.
- Cyfleoedd i ymarfer a mireinio pob symudiad.
- Taflen ysgrifenedig o’r ffurf yn llawn i fynd adref gyda chi, gan eich galluogi i barhau i ymarfer a datblygu eich Tai Chi yn annibynnol.
Addas ar gyfer y rhai hynny sy’n awyddus i ddatblygu eu dealltwriaeth o Tai Chi mewn amgylchedd cefnogol a strwythuredig.
Archebwch eich sesiwn ar Ap Ffit Conwy neu drwy ffonio 0300 456 95 25
Cost: £10 Premiwm - £15 Aelodau - £20 Rhai nad ydynt yn aelodau
Archebwch ar-lein