HYROX365

Mae gan Ffit Conwy gysylltiad swyddogol â HYROX ac mae’n cynnig sesiynau hyfforddi HYROX365 yn ei gampfeydd.  

Mae’r hyfforddiant grŵp yn cyfuno dygnwch, cryfder, pŵer a gallu aerobig - wedi’i deilwra i ffitrwydd math HYROX ond yn addas i bawb. 

Mae’r fformat ras HYROX yn cynnwys rhedeg am 1km, ac yna 1 orsaf hyfforddiant ymarferol bob tro. 
Mae hyfforddiant ymarferol yn cynnwys:  SkiErg, Gwthio Sled, Tynnu Sled, Naid Byrpi Lydan, Rhwyfo, Llwybr Ffermwr, Rhagwthion (lunges) â Bagiau Tywod a Pheli Wal.

Bydd ein hyfforddwyr yn eich arwain drwy bob sesiwn fel eich bod yn perfformio ar eich gorau. 

 

HYROX yn Ffit Conwy 

llun o f HyroxYoungstars

HYROX YOUNGSTARS

Dysgu Mwy
Llun o Hyrox365

Sesiynau hyfforddi HYROX365

Dysgu Mwy
Llun o HYROX i’r Teulu

HYROX i’r Teulu

Dysgu Mwy

Os ydych yn paratoi at ras neu eisiau bod yn ffit ac iach, bydd HYROX a Ffit Conwy yn eich helpu i gyrraedd yno.

 

Aelodaeth Ffit Conwy

Mae Aelodaeth Ffit Conwy yn cynnig gwerth rhagorol am arian, gyda mynediad i 8 campfa, 4 pwll nofio, dros 200 o ddosbarthiadau ffitrwydd i gyd yn cael eu cynnal mewn 10 canolfan hamdden ledled Conwy.