HYROX Youngstars
HYROX i blant!
Mae’r sesiynau hyfforddi i grŵp yn cyfuno’r chwaraeon dygnwch clasurol sef rhedeg gydag ymarferion cryfder a chydsymud o hyfforddiant ymarferol. Mae’r sesiynau HYROX Youngstars wedi’u seilio ar hyfforddiant HYROX365 i oedolion, ond gydag addasiadau'n seiliedig ar oedran ac aeddfedrwydd ar gyfer y gwahanol grwpiau oedran.
Y gorsafoedd ymarfer yw: SkiErg, Gwthio Sled, Tynnu Sled | Llusgo Sled, Naid Byrpi Lydan neu Naid Broga, Rhwyfo, Llwybr Ffermwr, Rhagwthion a Pheli Wal.
Sesiwn ar gyfer dau ystod oedran:

Rhaid archebu a mynychu rhaglen 4 neu 6 wythnos (dwy sesiwn yr wythnos) a bydd cystadleuaeth HYROX bach yn y sesiwn olaf.

(Y cyn Glwb Codi Iau - Hyrox)
Yn y sesiynau hyfforddi hyn, y mae modd eu harchebu bob wythnos, bydd y bobl ifanc yn gweithio ar wella eu cryfder, cyflymdra, cydsymud a stamina drwy ymarferion wedi’u hysbrydoli gan ddigwyddiadau HYROX. Mae’r dosbarth hwn yn berffaith ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau cadw’n heini ac ymgymryd â heriau ffitrwydd newydd!
Canolfan Hamdden Colwyn
Dydd Llun a Dydd Mercher: 16:00-16:45
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
Dydd Iau: 16:00-16:45
Canolfan Hamdden y Creuddyn
Dydd Llun: 16:45-17:30
Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am.
Archebwch eich sesiynau hyfforddi HYROX ar Ap Ffit Conwy!