Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
GWYBODAETH BWYSIG
Cau’r Gampfa: Gwella’ch Profiadau yn y Gampfa
Bydd gwaith i osod system cylchrediad aer newydd yn y gampfa yn cael ei wneud ddydd Llun 15 a dydd Mawrth 16 Rhagfyr. Oherwydd natur y gwaith, bydd y gampfa ar gau ar y diwrnodau yma. Bydd gweddill y safle ar agor a’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra wrth i ni geisio gwella’r cyfleusterau ar gyfer ein haelodau.
Mae Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno yn gyfleuster cymunedol poblogaidd ac mae’n cynnig amgylchedd modern i wneud ymarfer corff ynddo.
Mae’r gampfa helaeth yn cynnig amrywiaeth o offer modern i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd. Mae’n cynnwys ardal hyfforddi, peiriannau gwrthiant a chardio Technogym, platfformau codi Watson a phwysau rhydd. Mae’n amgylchedd delfrydol i feithrin hyder a gweithio rhannau penodol o’ch corff.
I’r rhai sy’n mwynhau gwneud ymarfer corff mewn grŵp, mae dwy stiwdio ffitrwydd yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr a rhai ar-lein. Mae amserlen dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol ar gael sy’n golygu bod rhywbeth i bawb!
Mae crèche â staff goruchwylio ar gael i rieni sy’n dymuno gwneud ymarfer corff (mae modd archebu o flaen llaw). Mae modd archebu lle yn yr ystafell gyfarfod fach yn y ganolfan hefyd ac mae offer tenis bwrdd ar gael i’w llogi
Canolfanau Eraill