cy Cartref Ein Cyfleusterau Chwaraeon a ffitrwydd Ffitrwydd Pencampwriaethau Peiriant Rhedeg RunX Technogym
start content

Pencampwriaethau Peiriant Rhedeg RunX Technogym



RHEDWCH NERTH EICH TRAED - Cymerwch ran yn RUN X™ yng Nghanolfan Hamdden Ffit Conwy  Cyffordd Llandudno 

Ymunwch â chymuned fyd-eang lle mae pob rhedwr yn cael ei ddathlu: o’r rhai sy’n rhedeg eu 5k cyntaf i’r rhai sy’n ceisio cyflawni eu hamser gorau.

O 24 Hydref 2026, gall rhedwyr yn Ffit Conwy ymuno ag eraill o amgylch y byd i gystadlu yn y cam cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Peiriant Rhedeg RunX Technogym. 

Bydd RUN X™ yn cynnig cyfle i redwyr fesur eu hunain yn erbyn perfformiad cyfranogwyr eraill, ar sgôr fwrdd ar-lein, gan fonitro’r sgoriau yn fyw o fewn eu clwb ac ar raddfa fyd-eang.

Bydd canlyniadau’r treialon 5km yn cael eu hardystio gan y peiriannau rhedeg sy’n cysylltu ag Ecosystem Ddigidol Technogym.

Cam 1 - Cymhwyso


Ar ôl ymuno â’r bencampwriaeth, gall holl redwyr gofrestru ar y Sgôr Fwrdd Byd-eang trwy redeg 5km ar beiriant rhedeg Technogym mewn Canolfan RUN X Swyddogol. Cynhelir y rhain ar Ddiwrnodau Cymhwyso penodol.

Cam 2 - Rhanbarthol

Rhanbarthol: Dyma’r lefel cyfandirol, lle bydd 25% uchaf y rhedwyr ymhob categori yn dilyn y cam cymhwyso yn symud ymlaen i gystadlu am le yn Rowndiau Terfynol y Byd.

Cam 3 - Rowndiau Terfynol y Byd

Y digwyddiad wyneb yn wyneb, ar ddiwedd y tymor lle bydd y rhedwyr uchaf ymhob categori yn dilyn y rowndiau Rhanbarthol, yn cystadlu am deitl y byd a chyfran o’r wobr.


 

Dyddiadau ar gyfer y cam cymhwyso:

 Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno 

10:30am a 11:15am

  • 24 Hydref 2026
  • 31 Hydref 2026 
  • 14 Tachwedd 2026
  • 28 Tachwedd 2026 
  • 12 Rhagfyr 2026
  • 19 Rhagfyr 2026 
  • 16 Ionawr 2027
  • 23 Ionawr 2027

Cost: Mae cofrestru ar gyfer RUN X am ddim i redwyr, ac nid oes ffi mynediad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth (wedi’i gynnwys yn aelodaeth Ffit Conwy) 

Archebu:
Ap Ffit Conwy 0300 456 95 25 

I gael mwy o wybodaeth am RUN X™ ewch i:

www.runx.org

end content