Ddosbarthiadau Ffitrwydd


Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o ddosbarthiadau ffitrwydd sy'n addas i anghenion ein cymuned gyfan, o’r dechreuwr pur i'r ymarferwyr hynod ffit. Byddwch yn sicr o ddod o hyd i ddosbarth rydych yn ei fwynhau cymaint fel na fyddwch hyd yn oed yn sylweddoli eich bod yn ymarfer!

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Y Meddwl a’r Corff

Adfer Abs

Canolbwyntio ar graidd eich corff. Mae’r dosbarth hwn yn rhoi man cychwyn i helpu i gael bol mwy fflat, gwella eich sefydlogrwydd craidd a chanolbwyntio ar ddefnyddio’r cyhyrau craidd drwy amrywiaeth o ymarferion.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth erobeg

Cardio

Aerobeg

Dewch i ymarfer corff i’r rhythm gydag un o’n hyfforddwyr egnïol. Os ydych am weithio’n galed neu gael hwyl, bydd yr ymarferion cardio hwyliog yma yn gwella eich ffitrwydd a’ch helpu i golli pwysau.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth erobeg

Cardio, Aur (Dwyster Isel)

Aerobeg (Aur)

Mae Aerobeg (Aur) yn ddosbarth ymarfer corff llai heriol i grŵp, sydd wedi ei gynllunio i wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cydsymud a symudedd mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Mae’r dosbarth yn cynnwys symudiadau aerobig syml i gerddoriaeth, a chanolbwyntir yn gryf ar gadw’n heini, meithrin hyder a mwynhau ymarfer corff ar gyflymder cyfforddus. Mae’n ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr, oedolion hŷn, neu unrhyw un sy’n dychwelyd i wneud ymarfer corff – mae’r dosbarth Aerobeg (Aur) yn cynnig cyfarwyddiadau clir, ymarferion sy’n hawdd eu dilyn, a dewisiadau sy’n addas i alluoedd unigol, gan helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i gadw’n heini, bod yn fwy bywiog a symud yn ddiogel.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o erobeg mewn cadair

Cardio, Mewn Cadair

Aerobeg (Cadair)

Sesiynau mewn cadair sy’n ddelfrydol i bobl hŷn neu bobl llai abl o unrhyw oed. Maent yn sesiynau ymarferion grŵp llawn hwyl a mwynhad wedi’u gosod i gerddoriaeth a’r nod yw gwella symudedd, cydbwysedd, cryfder a hyblygrwydd.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Hwb Yr Hen Ysgol, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff mewn pwll

Ffitrwydd yn y Dŵr

Aerobeg Dŵr

Ymarfer corff diogel ac effeithiol sy’n defnyddio’r gwrthiant y mae’r dŵr yn ei greu. Defnyddir offer i gynyddu dwyster – addas i bob oed a lefel ffitrwydd.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Nofio Llandudno, Pwll Nofio Llanrwst

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Cardio

Aerobeg Hi-Lo

Dewch i ymarfer corff i rythm y gerddoriaeth gydag un o’n hyfforddwyr egnïol. Os ydych am weithio’n galed neu gael hwyl, bydd yr ymarferion cardio hwyliog yma yn gwella eich ffitrwydd a’ch helpu i golli pwysau.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff ar feic troelli

Cardio

Beicio Dan Do

Gyda cherddoriaeth wych yn y cefndir, bydd eich hyfforddwr yn eich arwain drwy amrywiol gamau o ymarfer – cynhesu, cyfnodau tempo uchel cyson, sbrintiau, dringo ac oeri. Gall y dosbarth ddefnyddio rpm / watiau a lefelau. Mae’n rhaid archebu o flaen llaw.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Hwb Yr Hen Ysgol, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o fenig bocsio

Cardio

Bocs Ffit

Ymarfer corff cardio gan ddefnyddio symudiadau bocsio a gwaith gyda phartner. Mae’r ymarfer hwn yn ffordd dda o gael gwared â straen ac yn ffordd hwyliog o losgi llawer o galorïau.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth erobeg

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Camu Pŵer

Mae Camu Pŵer yn ddosbarth ymarfer corff deinamig i grŵp, sy’n defnyddio gris i wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder a chydsymud. Mae’r dosbarth yn cyfuno ymarferion camu bywiog gyda symudiadau sy’n seiliedig ar bŵer, sy’n helpu i ddatblygu cryfder rhan isaf y corff gan hefyd roi ymarfer corff effeithiol sy’n llosgi calorïau. Yn addas ar gyfer pob gallu, mae Camu Pŵer yn rhoi cyfarwyddiadau clir a dewisiadau haenog, sy’n caniatáu i’r rhai sy’n cymryd rhan addasu dwyster ac uchder y gris i gyd-fynd â lefel eu ffitrwydd, gan hefyd fwynhau awyrgylch dosbarth hwyliog, llawn ysgogiad.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth Zumba

Cardio, Dawns

Camu Zumba

Mae Camu Zumba yn rhoi’r un curiadau heintus a symudiadau salsa chwilboeth â Zumba ond gyda phwyslais ychwanegol ar ran isaf y corff. Yn tynhau coesau ac yn siapio’r pen ôl mewn symudiadau hawdd i’w dilyn gyda ffrwydrad tanllyd o rythm o Dde America. Cymysgwch ddawns, ffitrwydd ac aerobeg nwydus i siapio eich corff a chodi eich ysbryd.

Lleoliad Canolfan Hamdden John Bright

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cryfder a Chyflyru

Cryfder a Chydbwysedd

Mae’r dosbarth hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau canolbwyntio ar ystum corff, datblygu hyder gyda phroblemau cydbwysedd, gwella eu ffordd o gerdded a datblygu cryfder y coesau yn ddiogel.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Dawns

Curiadau Ffit

Ffitrwydd dawnsio ynghyd â chyflyru’r corff – ymarfer i’r corff cyfan i dynhau eich coesau, eich pen ôl a’r craidd. Dawnsiau hawdd eu dilyn gydag ymarferion cryfhau, wedi eu gosod i gerddoriaeth egnïol iawn!

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cryfder a Chyflyru

Cyflyru gyda Barbwysau

Ymarfer gyda barbwysau i guriad y gerddoriaeth. Gan ddefnyddio barbwysau gweddol drwm cewch eich hyfforddi i wthio at eich targedau hyfforddi.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cryfder a Chyflyru

Cyflyru gyda Phwysau Tegell

Dyma ddosbarth ymarfer cryfder, gan ddefnyddio Pwysau Tegell. Mae’r dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o symudiadau gan ddefnyddio un neu ddwy law i siglo, pwyso neu dynnu. Mae’n ddosbarth hawdd ei ddilyn lle gellwch ddewis eich cyflymder eich hun, gyda phwysau sy’n addas i chi.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Aur (Dwyster Isel), Cryfder a Chyflyru

Cyflyru’r Corff (Aur)

Ymarfer aerobig i dargedu holl rannau’r corff. Bydd y dosbarthiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion gan gynnwys crensiadau, sgwatiau, rhagwthion (lunges), ac maent yn cael eu gwneud ychydig yn haws ac yn arafach.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Dawns

Dawns Ffit

Mae Dawns Ffit yn ddosbarth ymarfer corff egnïol i grŵp sy’n cyfuno dawns syml gyda symudiadau sy’n seiliedig ar ffitrwydd i wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cydsymud a lles cyffredinol. Gyda cherddoriaeth hwyliog yn gyfeiliant, mae’r dosbarth yn canolbwyntio ar eich cadw i symud, gwenu a llosgi calorïau heb iddo deimlo fel ymarfer corff. Mae’r dosbarth Dawns Ffit yn addas ar gyfer pob gallu – darperir coreograffi sy’n hawdd ei ddilyn gyda dewisiadau, ac mae hyn yn ei wneud yn ffordd gynhwysol a braf i gadw’n heini, meithrin hyder a gwella ffitrwydd drwy ddawns.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Effaith Metabolig

Ymarfer corff dwysedd uchel gyda chyfnodau gorffwys. Gweithiwch hyd eithaf eich gallu CHI, Gorffwyswch, yna cychwynnwch eto. Defnyddir cyfuniad o ymarferion pwysau corff, dymbelau, a chardio. Bydd yr ymarfer hwn yn llosgi calorïau ac yn codi eich cyfradd fetabolaidd, ac yn llosgi calorïau am gyfnod hir ar ôl i chi orffen ymarfer.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden John Bright

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth Ffitrox

Cardio, Cryfder a Chyflyru

FfitRox

Cylched ffitrwydd ymarferol sy'n cyfuno gorsafoedd cryfder, cardio, a dygnwch wedi'u seilio ar hyfforddiant ffitrwydd hybrid. Gallwch ddisgwyl slediau, rhwyfo, SkiErg, cario, ymarferion pwysau corff, a chyflyru egni uchel, addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth Zumba

Cardio, Dawns

Ffitrwydd Zumba

Anghofiwch yr ymarfer, ymunwch â’r parti! Mae Zumba yn ffordd ardderchog o gyflyru’ch corff i gerddoriaeth a symudiadau gwych o bob rhan o’r byd; byddwch yn cael cymaint o hwyl fel na fyddwch yn sylwi eich bod yn ymarfer.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o’r stiwdio Gravity

Cryfder a Chyflyru

Gravity

Mae sesiynau hyfforddiant grŵp ‘Gravity’ yn cynnig manteision gwych i weddu i bob unigolyn gan ei fod yn ymarfer effeithlon i’r corff cyfan gan roi canlyniadau cyflym, gweladwy, sy’n newid y corff. Mae’n cynyddu cryfder a dygnwch wrth wella cydsymud a chydbwysedd, codi eich cyfradd fetabolaidd ac mae’n gwella perfformiad gweithredol gweithgareddau dyddiol ac athletiaeth.

Lleoliad Canolfan Nofio Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Grit (Athletaidd, Cardio a Chryfder)

Mae Grit yn gyfres o ymarferion corff ffitrwydd sy’n cynnwys hyfforddiant ysbeidiol dwysedd uchel (HIIT) mewn grŵp, ac mae wedi ei gynllunio i wella ffitrwydd yn gyflym, datblygu cryfder, a llosgi braster drwy gyfnodau byrion o ymarfer corff caled wedi eu dilyn gan gyfnodau byrion o adfer. Mae ar gael mewn fformat Cryfder, Cardio ac Athletaidd, ac mae’n defnyddio pwysau’r corff, camau a phwysau gyda cherddoriaeth bwerus a hyfforddiant.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth erobeg

Cardio, Cryfder a Chyflyru

HIIT

Mae HIIT yn ddosbarth ymarfer egnïol wedi ei gynllunio i wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder a dygnwch drwy gyfnodau byrion o ymarfer corff caled wedi eu dilyn gan gyfnodau byrion o adfer. Mae’r sesiynau’n cyfuno symudiadau gweithredol ac ymarferion pwysau’r corff i roi ymarfer effeithiol i’r corff cyfan mewn ffurf sy’n effeithlon o ran amser. Mae HIIT, sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o lefelau ffitrwydd, yn cynnig dewisiadau y gellir eu haddasu a hyfforddiant clir drwyddo draw, sy’n galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ymarfer wrth eu pwysau eu hunain gan gael herio a’u sbarduno mewn amgylchedd grŵp cefnogol.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Hyfforddiant Hyrox 365

Mae HYROX365 yn trosi elfennau sylfaenol y ras HYROX yn ymagwedd gron a chynhwysol tuag at ffitrwydd perfformiad sy’n darparu ar gyfer nid yn unig cyfranogwyr HYROX ond unrhyw athletwr ac mae’n galluogi’r hyfforddwyr i gymryd safbwynt cyfannol yn ymwneud â thaith ffitrwydd gorfforol a meddyliol yr athletwr.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes gyda mat rholio

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Ioga

Mae’n targedu hyblygrwydd, sefydlogrwydd a chryfder. Dyma raglen ffitrwydd sy’n cynnwys ymestyn dwfn, cydbwysedd, symudiadau ioga ac arferion ffitrwydd cyfoes sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn addas ar gyfer pob gallu.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Mewn Cadair, Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Ioga (Cadair)

Mae’r dosbarth hwn yn ddosbarth llai heriol, sy’n targedu hyblygrwydd, sefydlogrwydd a chryfder. Mae’n cynnwys ymestyn dwfn, cydbwysedd, symudiadau ioga ac arferion ffitrwydd cyfoes sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes mewn ystum ioga

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Ioga (Dru)

Dull gosgeiddig a chryf o ioga yw Ioga Dru, sy’n seiliedig ar symudiadau sy’n llifo, anadlu’n benodol a delweddu. Wedi ei selio yn llwyr ar draddodiadau ioga hynafol, mae Dru yn gweithio ar y corff, y meddwl a’r ysbryd – gan wella cryfder a hyblygrwydd, creu sefydlogrwydd yng nghraidd y corff, adeiladu teimlad o bositifrwydd, a phrofiad ymlaciol iawn i chi.

Lleoliad Canolfan Hamdden John Bright

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddyn mewn ystum ioga

Cryfder Craidd

Ioga (Dull Rhydd)

Mae Ioga (Dull Rhydd) yn ddosbarth ioga hyblyg a chynhwysol sy’n cyfuno amrywiaeth o arddulliau ioga i wella cryfder, symudedd, cydbwysedd ac i ymlacio. Gall pob sesiwn amrywio o ran cyflymder a ffocws, gan gyfuno cyfres o symudiadau llyfn a chynnal ystum ac anadlu ystyrlon.

Lleoliad Canolfan Hamdden John Bright

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes mewn ystum ioga

Cryfder Craidd

Ioga (Egnïol)

Mae Ioga Egnïol yn gyfres gorfforol egnïol o symudiadau i wella cryfder, cydbwysedd, gwytnwch a hyblygrwydd. Heriwch eich galluoedd gyda’r ioga cyflymach a deinamig hwn er mwyn lleihau straen a hybu lles meddyliol a chorfforol.

Lleoliad Canolfan Hamdden John Bright, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes mewn ystum ioga

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Ioga (Hatha)

Cyfuno asanas (symudiadau ioga) gyda thechnegau anadlu ac ymlacio er mwyn creu iechyd da a bywyd hir. Bydd symudiadau ioga yn ymarfer pob rhan o’ch corff; ymestyn, tynhau, cryfhau ac ymestyn y cyhyrau a’r gewynnau i ryddhau tensiwn corfforol a meddyliol.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes mewn ystum ioga

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Ioga (Vinyasa)

Mae’n cysylltu anadl â symudiad drwy newidiadau di-dor parhaus rhwng ystumiau, gan greu ymarfer llyfn, yn debyg i ddawns, sy’n cynyddu gwres, cryfder a hyblygrwydd.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Creuddyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes mewn ystum ioga

Cryfder Craidd

Ioga (Yin)

Arddull ioga araf a myfyriol lle mae ystumiau goddefol ar y llawr yn cael eu cynnal am gyfnodau estynedig (3-5+ munud) i dargedu meinweoedd cysylltiol dwfn, gan hybu hyblygrwydd, ymlacio, ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cardio

Les Mills BodyAttack™

Mae Les Mills BodyAttack™ yn ddosbarth ffitrwydd egni uchel gyda symudiadau sy’n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd. Rydym yn cyfuno symudiadau athletaidd fel rhedeg, rhagwthion, a neidio gydag ymarferion cryfder fel ymarferion gwthio i fyny a sgwatiau. (Dosbarth rhithiol yn unig)

Lleoliad Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cryfder a Chyflyru

Les Mills BodyBalance™

Mae Les Mills BodyBalance™ yn ymarfer corff sy’n seiliedig ar ioga ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella ei hyblygrwydd, cryfder craidd ac ymdeimlad o les. (Dosbarth rhithiol yn unig)

Lleoliad Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cryfder a Chyflyru

Les Mills BodyPump™

Mae Les Mills Bodypump™ yn ymarfer gyda barbwysau ar gyfer unrhyw un sydd eisiau tynhau’r corff a gwella ffitrwydd – yn gyflym. Gan ddefnyddio pwysau ysgafn i gymedrol gyda llawer o ailadrodd, mae BODYPUMP yn gweithio eich corff i gyd.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cryfder a Chyflyru

Les Mills BodyPump Heavy™

Mae BODYPUMP HEAVY i bawb! Mae’r symudiadau syml, araf, gyda llawer o gyfnodau i gael eich gwynt atoch rhwng setiau, yn golygu nad oes yn rhaid i chi ruthro i gyd-fynd â churiad y gerddoriaeth neu boeni am fod ar ei hôl hi. Gall dechreuwyr ddechrau gyda phwysau ysgafn, meistroli ffurf a thechneg gywir a datblygu ar eu cyflymder eu hunain, dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol wedi’u hardystio gan Les Mills. Gall unigolion mwy profiadol ddatblygu ymhellach a chryfhau fwy fyth.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Les Mills Body Combat™

Camwch i ymarfer Les Mills BodyCombat™ a byddwch yn dyrnu ac yn cicio eich ffordd i ffitrwydd. Mae’r ymarfer hwn, sy’n llawn egni ac wedi’i ysbrydoli gan grefft ymladd, yn gwbl ddigyswllt ac nid oes unrhyw symudiadau cymhleth i’w meistroli.  (Dosbarth rhithiol yn unig)

Lleoliad Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Cryfder a Chyflyru

Les Mills Core™

Mae Les Mills Core™ yn ymarfer corff hanner awr i’r craidd sy’n rhoi canlyniadau cyflym ar bob lefel o ffitrwydd. Gan ymarfer y cyhyrau o amgylch craidd y corff, mae’n darparu elfen hanfodol ar gyfer corff cryfach.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Hwb Yr Hen Ysgol, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Dawns

Les Mills Dance™

"Les Mills Dance™ yn ymarfer corff egnïol, am dri chwarter awr, a fydd yn eich herio a gwneud i chi symud. Mae pob dosbarth yn cynnwys deg trac unigol, gyda phob un yn cyflwyno coreograffi newydd. Mae’n cyfuno symudiadau dawns arloesol gyda’r gerddoriaeth ddiweddaraf i ysgogi egni a chyffro ym mhob symudiad." (Dosbarth rhithiol yn unig)

Lleoliad Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Les Mills Grit™

Les Mills Grit™ is high-intensity interval training (HIIT) workout, designed to improve strength and build lean muscle. This workout has three elements to blast all major muscle groups. Strength , Plyo, Cardio.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Hwb Yr Hen Ysgol, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff ar feic troelli

Cardio

Les Mills RPM™

Mae Les Mills RPM™ yn ymarferiad beicio o’r radd flaenaf i gyrraedd uchafbwynt cardio; mae’n defnyddio’r ymdeimlad o ddringo a beicio cyflym i losgi calorïau a gwella ffitrwydd cardio. Gyda cherddoriaeth wych yn y cefndir a’r grŵp yn beicio gyda’i gilydd, rydych yn cyrraedd eich uchafbwynt cardio drosodd a throsodd ac yna’n arafu ychydig, gan gadw’r cyflymder gyda’r gweddill i godi eich perfformiad personol a hybu eich ffitrwydd cardio.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff ar feic troelli

Cardio

Les Mills Sprint™

Mae Les Mills Sprint™ yn sesiwn ymarfer 30 munud o Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT) gan ddefnyddio beic dan do i gyflawni canlyniadau cyflym.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o  Les Mills 'The Trip'

Cardio

Les Mills The Trip™

Mae Les Mills The Trip™ yn brofiad ymarfer y byddwch yn ymgolli’n llwyr ynddo sy’n cyfuno ymarfer beicio 40 munud gyda sawl uchafbwynt gyda thaith drwy fydoedd wedi eu creu’n ddigidol. Gyda sgrin a system sain fel sinema, mae THE TRIP yn mynd â chymhelliant a’r egni a ddefnyddir i lefel arall, gan losgi llawer o galorïau. (Dosbarth rhithiol yn unig)

Lleoliad Dros Y We - Amryw Leoliadau

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddyn yn nofio

Ffitrwydd yn y Dŵr

Nofio Ffit

Mae pob dosbarth yn darparu ffordd amgen i ymarfer, gwella ffitrwydd, cyrraedd targedau a hyfforddi ar gyfer heriau personol mewn amgylchedd cymdeithasol. Mae’n darparu cymysgedd o wahanol ymarferion, dulliau, cyflymder a hyd er mwyn annog ymarfer corff mwy amrywiol a heriol na nofio traddodiadol mewn lonydd. Gyda chymorthyddion hyfforddi a heriau amrywiol, mae rhywbeth ar gael sy’n addas i bob gallu a diddordeb. Mae’r ymarferion yn amrywio o nofio hyd y pwll rhwng 10 a 120 o weithiau, yn dibynnu ar allu, ac yn para 60 munud.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Nofio Llandudno, Pwll Nofio Llanrwst

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Pilates

Ymarferion cryfhau ac ymestyn sy’n amcanu i dynhau, nerthu ac ailalinio heb dyfu'r cyhyrau.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Creuddyn, Canolfan Hamdden John Bright, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Cryfder a Chyflyru

Pilates Beichiogrwydd (Gyn Geni)

Gellwch chi ddechrau rhaglen ymarfer corff yn ddiogel yn ystod eich beichiogrwydd ar ôl trafod gyda’ch darparwr gofal iechyd, ond peidiwch â dechrau gweithgaredd caled newydd. Mae croeso i chi ymuno ar ôl 14 wythnos o feichiogrwydd hyd nes y bydd y babi’n cyrraedd. Mae pob dosbarth yn cynnig ymarferion symud ac ymwybyddiaeth ofalgar defnyddiol wedi’u dylunio i gefnogi’r newidiadau yn eich corff, gydag addasiadau posib i’r ymarferion yn dibynnu ar sut rydych chi’n teimlo ar y diwrnod. Mae pob beichiogrwydd yn unigryw, felly does yna’r fath beth ag ymagwedd sy’n addas i bawb! Byddwch yn mwynhau rhyddhau tensiwn, cyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar rywfaint o ymarferion ymlacio hefyd. Dyma rai o’r manteision: - Bydd yn eich cadw’n gryf ac yn hyblyg drwy gydol eich beichiogrwydd. - Bydd yn cryfhau eich cyhyrau craidd (gan gynnwys llawr y pelfis), sy’n galluogi eich corff i ymdopi’n well â’r straen a achosir gan bwysau cynyddol eich babi. - Gall cyhyrau gwan arwain at boen yn eich cefn neu eich pelfis. Drwy ymarfer cyhyrau dyfnaf eich bol sy’n sefydlogi eich cefn a’ch pelfis, fe ddysgwch chi sut i reoli a lleddfu anesmwythder.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff

Mewn Cadair, Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Pilates (Cadair)

Ymarferion cryfhau ac ymestyn sy’n amcanu i dynhau, nerthu ac ailalinio heb dyfu'r cyhyrau.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden John Bright, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth Qigong

Cryfder Craidd

Qigong

Gyda symudiadau ysgafn, rheoli anadl, a myfyrdod, mae Qigong (ynganiad ji-gong) yn defnyddio ymarferion i wneud y gorau o’r egni yn y corff, y meddwl a’r ysbryd, gyda’r nod o wella a chynnal iechyd a lles.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth Qigong

Mewn Cadair, Cryfder Craidd

Qigong (ar eich eistedd)

Mae Qigong (a ynganir ji-gong) yn ymarfer Tsieineaidd traddodiadol sy’n cyfuno symudiadau ysgafn, ymarferion rheoli anadl a myfyrio.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff ar feic troelli

Cardio

Ride 2 Colour

Mae Ride 2 Colour yn defnyddio system ryngweithiol beicio dan do sy’n defnyddio pum parth lliw (Gwyn, Glas, Gwyrdd, Melyn, Coch) i arwain dwyster eich ymarfer corff mewn amser real yn seiliedig ar y pŵer personol yr ydych yn ei ddefnyddio (watiau) a lefel eich ffitrwydd (FTP). Mae’n gwneud dosbarthiadau grŵp yn gynhwysol drwy adael i bawb weithio wrth ei bwysau ei hun o fewn eu parth personol, gan roi adborth gweledol clir i gael y canlyniadau gorau posibl – pa un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n feiciwr elitaidd – drwy ddangos ymdrech o adferiad ysgafn (Gwyn / Glas) i’r pŵer mwyaf (Melyn / Coch).

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Tai Chi

Mae’r dosbarth hwn yn defnyddio dull byr arddull Yang Cheng Man Ching 37. Mae’n ddull syml ac effeithiol sy’n cadw hanfod Tai Chi traddodiadol, gan ei wneud yn hawdd ar gyfer ymarferwyr modern. Gall y dosbarth hwn wella hyblygrwydd, cryfder, cydbwysedd a chydsymud, ac mae’n lleihau straen, gwella ein gallu i ganolbwyntio, a hybu iechyd yn gyffredinol.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o bobl yn gwneud ymarfer corff

Mewn Cadair, Cryfder Craidd, Cryfder a Chyflyru

Tai Chi (ar eich eistedd)

Mae’r dosbarth hwn yn ddosbarth llai heriol, sy’n defnyddio elfennau Tai Chi a myfyrio i helpu i wella iechyd corfforol, lleihau straen a gwella lles meddyliol mewn ffordd hygyrch i ystod ehangach o gyfranogwyr.

Lleoliad Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Ymarfer Cylchol

Ymarfer mewn gorsafoedd. Gweithio gydag amser a nifer o ymarferion i ymarfer y corff cyfan. Gall y sesiynau hyn ddefnyddio cyfuniad o ymarferion HIIT ac ymarferion sy’n canolbwyntio ar un grŵp o gyhyrau ar y tro, fel rhwyfo barbwysau a sgwatiau. Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a defnyddwyr mwy profiadol.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Creuddyn

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddynes yn gwneud ymarfer corff drwy godi pwysau

Aur (Dwyster Isel), Cryfder a Chyflyru

Ymarfer Cylchol (Aur)

Ymarfer mewn gorsafoedd. Mae’r gorsafoedd wedi eu dylunio i fod ar lefel is a chaiff pobl fynd ar eu cyflymder eu hunain.

Lleoliad Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy

Llun o ddosbarth erobeg

Cardio, Cryfder a Chyflyru

Ymarfer Cylchol HIIT

Ymarfer mewn gorsafoedd gan ddefnyddio ymarferion HIIT ac amrywiaeth o offer. Mae ymarfer yn galed am gyfnodau byrion yn gwella eich ffitrwydd yn gyflym gan losgi mwy o fraster ar yr un pryd. Mae ymarferion yn cynnwys byrpis, pengliniau uchel a rhagwthion plyo.

Lleoliad Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn, Canolfan Hamdden Creuddyn, Hwb Yr Hen Ysgol, Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

Archebwch drwy ap Ffit Conwy


Amserlen
Rhestrau Prisiau