start content

Cystadlaethau GymSync

Mae’n swyddogol bod Ffit Conwy’n cynnal cystadlaethau GymSync yng Nghanolfan Hamdden Colwyn!

Beth yw Cystadleuaeth GymSync?

Mae GymSync yn gystadleuaeth ffitrwydd ar-lein a ddarperir gan gampfeydd trwyddedig megis Ffit Conwy, i ddod o hyd i’r athletwr, campfa, cwpwl, mam, dad, person ifanc ac unrhyw gategori arall, mwyaf heini. Mae digwyddiadau GymSync yn cael eu cynnal yr un pryd mewn campfeydd ledled y DU a’r Byd, gyda phawb yn cystadlu gyda’i gilydd.

Gallwch gystadlu yn lleol ac yn genedlaethol gydag aelodau eraill: Mae holl gampfeydd yn cynnal eu digwyddiad dros yr un penwythnos a bydd sgôr fwrdd fyw yn dangos perfformiad yr holl athletwyr mewn un lle.

Pryd fydd y Gystadleuaeth GymSync nesaf?

THEMA:  ‘HYBRID CLIMB’

LLEOLIAD: Canolfan Hamdden Colwyn 

DYDDIAD: : Dydd Sadwrn 26 Medi 2026

  • TON 1: 09:00am
  • TON 2: 09:45am
  • TON 3: 10:30am
  • TON 4: 11:15am
  • TON 5: 12pm

Sgôr Fwrdd o’r Perfformiadau: HYBRID CLIMB

Timau o ddau: Parau benywaidd, parau gwrywaidd neu barau cymysg

COST: £18 fesul person fesul tîm.  (Tim o 2 = £36)

Beth sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth? – HYBRID CLIMB

Timau o 2, am yn ail fel y mynnoch chi

Copa 1

10 munud – cymaint o rowndiau â phosib’

50 ymarfer dros-y-bocs i fynd ymlaen i’r nesaf. Yna:

10/20/30/40/50/60 ac ati o galorïau ar beiriant RowErg*

*15 calori ar SkiErg rhwng pob ymdrech

2 funud o seibiant

Copa 2

10 munud – cymaint o rowndiau â phosib’

50 ymarfer dros-y-bocs i fynd ymlaen i’r nesaf. Yna:

10/20/30/40/50/60 ac ati o galorïau ar beiriant SkiErg*

*15 byrpi pogo i’r ochr rhwng pob ymdrech

2 funud o seibiant

Copa 3

10 munud – cymaint o rowndiau â phosib’

50 ymarfer dros-y-bocs i fynd ymlaen i’r nesaf. Yna:

10/20/30/40/50/60 ac ati o byrpis pogo i’r ochr*

*15 calori ar beiriant RowErg rhwng pob ymdrech

Safon Yr Ymarferion

Byrpis pogo i’r ochr

Dylai dwy linell gyfochrog o dâp gael eu gosod ar y llawr gyda 30cm rhwng yr ymylon ALLANOL.

Mae pob ymarferiad yn dechrau gyda byrpi brest-ar-lawr yn cydredeg â’r llinell, gyda brest a chluniau’r athletwr yn cyffwrdd y llawr.

Yn ystod y byrpi, ni chaiff unrhyw ran o ddwylo, traed na chorff yr athletwr gyffwrdd na chroesi dros unrhyw un o’r ddwy linell dâp.


Ar ôl codi ar ei draed, mae’n rhaid i’r athletwr wedyn symud i’r ochr dros y darn lle mae’r tâp drwy gamu neu neidio dros y ddwy linell dâp, cyn camu neu neidio’n ôl dros y ddwy linell, fel bod y ddwy droed yn glanio ar yr ochr wreiddiol (y “pogo”).


Gall traed yr athletwr gyffwrdd ag unrhyw un o’r ddwy linell dâp wrth gamu neu neidio. Er hynny, er mwyn cwblhau un ymarferiad, mae’n rhaid i’r DDWY droed basio’n glir dros y DDWY linell dâp a chyffwrdd â’r llawr ar yr ochr gyferbyn cyn dychwelyd.


Ni all yr ymarferiad nesaf gychwyn nes mae’r DDWY droed wedi dychwelyd yn glir i’r ochr wreiddiol ac yn gwbl glir oddi wrth y llinell dâp agosaf.


Nid oes angen newid cyfeiriad bob yn ail a pherfformio pob byrpi ar yr un ochr sydd angen i’r athletwyr ei wneud.


Gan fod hwn yn ymarfer am yn ail, gall yr athletwyr newid ar unrhyw adeg yn ystod y symudiad OND mae’n rhaid i’r ddau athletwr gwblhau pob byrpi ar yr UN ochr i’r darn sydd wedi’i dapio. Wrth newid, mae’n rhaid i’r athletwr sy’n dechrau gychwyn eu byrpi o’r un ochr.

 

Peiriannau RowErg a SkiErg

Cyn dechrau pob cylch, mae’n rhaid gosod y monitor i 0.

Sut Cewch eich Sgorio

 

Cyfanswm Sgôr AMRAP 1 (Calorïau RowErg + SkiErg)

Cyfanswm Sgôr AMRAP 2 (Calorïau SkiErg  + Byrpi a Naid)

Cyfanswm Sgôr AMRAP 3 (Byrpi a Naid + Calorïau RowErg)

SGÔR TERFYNOL = AMRAP (1 +2 + 3) *AC EITHRIO’R YMARFER DROS Y BOCS

Awgrymiadau Strategaeth

Cytunwch ar eich trefn chi cyn i’r cloc ddechrau. Nid oes unrhyw drefn benodol. Chi a’ch partner sy’n penderfynu pwy sy’n gweithio a phwy sy’n gorffwys, a phryd. Penderfynwch ymlaen llaw rhag gorfod trafod ar ganol yr ymarferion.

Peidiwch â’i gor-wneud hi ar yr ymarferion gorfodol ar y dechrau. Mae 50 o ymarferion dros-y-bocs yn agor pob esgyniad cyn i’r ysgol hyd yn oed ddechrau. Os ewch chi’n rhy gyflym yma, fe fyddwch wedi bwrw’ch plwc cyn y ddringfa.

Pwyllwch gyda’r ysgol – mynd yn hirach o hyd mae hi. Mae mynd yn rhy gyflym yn rownd 2 yn costio rownd 6 i chi. Dechreuwch dan reolaeth.

 

Pam cymryd rhan?

  • Gosod nod i’ch cymell ymlaen
  • Ychwanegu elfen o hwyl a chystadleuaeth i’ch arferion ffitrwydd
  • Olrhain eich cynnydd mewn amser go iawn
  • Bod yn rhan o her gymunedol ehangach

Cwestiynau Cyffredin

  1. Dydw i heb hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth, alla i barhau i gymryd rhan?
    Gallwch. Mae wedi cael ei ddylunio i fod yn hygyrch ond yn heriol. Mae gwaith tîm yn gwneud gwahaniaeth.
  2.  A oes unrhyw symudiadau cymhleth?
    Na. Dim ond SkiErg, Rhwyfwr a Byrpi dros y Bocs.
  3. Does gen i ddim tîm eto
    Ymatebwch i’r e-bost hwn a gallwn eich helpu i ffurfio tîm.
  4. Oes rhaid i mi fod yn aelod?
    Na, mae croeso i bawb! Gwahoddwch eich ffrindiau.
  5. Sut mae’r sgorio’n gweithio?
    Cyfanswm cyfun yr holl galorïau ac ymarferion ar draws y holl rannau.

Sut i gofrestru

Ydych chi’n gêm? Cofrestrwch Yma: https://compete.gym-sync.com/competitions/3732

Mae llefydd yn gyfyngedig felly sicrhewch eich timoedd o 2 yn gynnar.

Ar agor i aelodau ac eraill hefyd.

 

end content