start content

Ffitrwydd Grŵp Les Mills

Beth yw Les Mills? 

Wrth gymysgu’r gerddoriaeth fwyaf poblogaidd â gwyddor hyfforddiant o’r radd flaenaf, ysgogiad ac egni llawer o bobl, mae dosbarthiadau ffitrwydd grŵp LES MILLS yn gwneud i chi syrthio mewn cariad â ffitrwydd!

Ers blynyddoedd lawer, mae Ffit Conwy wedi cynnig rhaglenni LES MILLS fel rhan o’n ffitrwydd grŵp. Bob tri mis, mae Les Mills yn rhyddhau cerddoriaeth a symudiadau newydd i sicrhau bod pawb yn cynnal eu cymhelliant!

Mae Les Mills ar gael yng nghanolfannau hamdden Ffit Conwy fel dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr neu ddosbarthiadau dros y we.

Dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr: Mae dosbarthiadau a arweinir gan hyfforddwr yn cael eu rhedeg gan ein Hyfforddwyr Ffitrwydd Ffit Conwy sydd wedi cymhwyso mewn Les Mills. Gyda chyfoeth o brofiad mewn ystod o ddisgyblaethau, maent yn croesawu pob gallu i’w dosbarthiadau.

Dros y We: Mae Dosbarthiadau Ffitrwydd Ar-lein yn cael eu darparu ar sgrin fawr yn ein stiwdio ffitrwydd. Dan arweiniad hyfforddwyr Les Mills ei hun, yr union bobl sydd wedi creu’r dosbarthiadau. Maen nhw’n mynd â chi drwy bob sesiwn ymarfer corff, wrth i’r gerddoriaeth a’r goleuadau eich helpu i ymgolli yn y profiad. Mae’r dosbarthiadau’n dechrau’n awtomatig ar yr amseroedd dynodedig. 

LES MILLS BODYATTACK™

Math o ymarfer: Cardio

BETH YW LES MILLS BODYATTACK™?

Mae Les Mills BodyAttack™ yn ddosbarth ffitrwydd egni uchel gyda symudiadau sy’n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd. Rydym yn cyfuno symudiadau athletaidd fel rhedeg, rhagwthion, a neidio gydag ymarferion cryfder fel ymarferion gwthio i fyny a sgwatiau.

(Ar gael ar hyn o bryd gan Ffit Conwy fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS BODYBALANCE™

Math o ymarfer: Cryfder 

Cenhedlaeth newydd o Ioga

  • Gwella HYBLYGRWYDD
  • Teimlo’n DDI-GYNNWRF ac wedi CANOLBWYNTIO
  • Adeiladu CRYFDER

 

BETH YW BODYBALANCE?

Yn ddelfrydol i bawb, mae BODYBALANCE™ yn genhedlaeth newydd o ddosbarthiadau ioga fydd yn gwella eich meddwl, eich corff a’ch bywyd.

Byddwch yn barod i blygu ac ymestyn drwy gyfres o symudiadau ioga syml, elfennau o Tai Chi a Pilates, gyda thrac cerddorol ysbrydoledig yn chwarae yn y cefndir. Mae rheoli eich anadl yn rhan o’r holl ymarferion, a bydd yr hyfforddwyr bob amser yn cynnig dewisiadau i’r rhai sy’n dechrau.

Mae BODYBALANCE yn gyflwyniad gwych os nad ydych wedi rhoi cynnig ar ioga o’r blaen. Os ydych eisoes yn gwneud rhyw fath o ioga, byddwch wrth eich bodd â’r amrywiaeth o’ch dosbarth arferol.

 

MANTEISION

Gwella eich hyblygrwydd a chryfhau eich cryfder craidd wrth leihau lefelau staen. Byddwch yn canolbwyntio ac yn creu synnwyr parhaus o les a thawelwch.

 

PAM EI FOD YN GWEITHIO

Wedi’i lywio gan wyddoniaeth - Mae rheoli eich anadl, canolbwyntio ac ymestyn yn gwneud BODYBALANCE yn ddatrysiad adfer defnyddiol. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn teimlo’n fwy cadarnhaol, yn hyderus, wedi’u hysgogi a llai o straen.

(Ar gael ar hyn o bryd gan Ffit Conwy fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS BODYCOMBAT™

Math o ymarfer: Cardio

  • Heini, Cyflym, Cryf
  • Teimlo wedi eich GRYMUSO
  • Ysgogi FFITRWYDD CARDIO
  • Ymarfer eich CORFF CYFAN

 

Beth yw BODYCOMBAT?

Camwch i ymarfer BODYCOMBAT a byddwch yn dyrnu ac yn cicio eich ffordd i ffitrwydd. Mae’r ymarfer hwn, sy’n llawn egni ac wedi’i ysbrydoli gan grefft ymladd yn gwbl ddigyswllt ac nid oes unrhyw symudiadau cymhleth i’w meistroli. Bydd hyfforddwr LES MILLS™ yn eich herio i wneud ymarfer mwy dwys a’ch ysbrydoli i wneud y mwyaf o bob rownd. Byddwch yn rhyddhau straen, yn cael hwyl ac yn teimlo ar ben y byd.

Bydd BODYCOMBAT yn ymarfer eich corff cyfan a’ch gwneud yn heini, yn gyflym a chryf. Byddwch yn rhyddhau ac yn grymuso eich hun.

 

MANTEISION

Mae BODYCOMBAT yn gweithio ar eich coesau, yn tynhau cyhyrau’r breichiau, cefn ac ysgwyddau ac yn hyfforddiant craidd gwych. Byddwch yn chwalu calorïau, yn datblygu cydsymud, ystwythder a chyflymdra, a byddwch yn cael eich grymuso.

 

MEGIS DECHRAU?

Gallwch addasu ymarfer BODYCOMBAT i’ch siwtio chi. Mae ein hyfforddwyr bob amser yn dangos dewisiadau i weithio ar eich lefel eich hun. Dechreuwch gyda 1-2 ddosbarth yr wythnos a byddwch yn ymarfer fel pencampwr mewn dim o dro.

(Ar gael ar hyn o bryd gan Ffit Conwy fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS BODYPUMP™

Math o ymarfer: Cryfder 

O nerth i nerth.

  • Adeiladu CRYFDER
  • TENEUO A THYNHAU’R CYHYRAU
  • Gweithio ar BOB CYHYR MAWR

 

RHOWCH GYNNIG AR BODYPUMP - Y DOSBARTH BARBWYSAU GWREIDDIOL

BODYPUMP, ymarfer i’r corff cyfan fydd yn llosgi calorïau, siapio a thynhau eich corff cyfan, cynyddu’r cryfder craidd a gwella iechyd yr esgyrn. Bydd hyfforddwyr yn mynd â chi drwy’r symudiadau a thechnegau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan eich annog a’ch ysbrydoli gyda cherddoriaeth wych – a’ch helpu i gyflawni mwy nag y gallech ar eich pen eich hun.

Wedi ei lywio gan wyddoniaeth - gan ddefnyddio’r fformiwla ailadrodd o ddefnyddio pwysau ysgafn ac ailadrodd yn aml, mae BODYPUMP yn datblygu cyhyrau athletig, yn helpu metaboledd a gwella cyfansoddiad y cyrff. 

(Ar gael gyda Ffit Conwy dan arweiniad Hyfforddwr neu fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS BODYPUMP HEAVY™

Math o ymarfer: Dawns

BETH YW LES MILLS BODYPUMP HEAVY™?

Mae BODYPUMP HEAVY i bawb! Mae’r symudiadau syml, araf, gyda llawer o gyfnodau i gael eich gwynt atoch rhwng setiau, yn golygu nad oes yn rhaid i chi ruthro i gyd-fynd â churiad y gerddoriaeth neu boeni am fod ar ei hôl hi. Gall dechreuwyr ddechrau gyda phwysau ysgafn, meistroli ffurf a thechneg gywir a datblygu ar eu cyflymder eu hunain, dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol wedi’u hardystio gan Les Mills. Gall unigolion mwy profiadol ddatblygu ymhellach a chryfhau fwy fyth.

 

 

LES MILLS CORE™

Math o ymarfer: Cryfder 

  • Yr ymarfer gwyddonol eithaf i gryfhau’r cyhyrau craidd.
  • Cynyddu CRYFDER CRAIDD
  • Tynhau cyhyrau’r BOL, PEN-ÔL A CHOESAU
  • Gwella YSTUM CORFF

Wedi’i ysbrydoli gan egwyddorion athletig elitaidd, mae LES MILLS COREyn ymarfer craidd gwyddonol ar gyfer tynhau cyhyrau craidd yn anhygoel a pherfformiad chwaraeon. Rydych yn cynyddu cryfder, sefydlogrwydd a dygnwch yn y cyhyrau sy’n cefnogi eich craidd, gwella cydbwysedd, helpu i atal anafiadau a gwella popeth a wnewch.

Mae dewisiadau gyda’r holl symudiadau yn LES MILLS CORE, felly mae’n heriol, ond yn bosibl beth bynnag fo lefel eich ffitrwydd. Yn ystod yr ymarfer, mae Hyfforddwyr cymwys yn eich arwain drwy’r dechneg gywir wrth i chi weithio gyda thiwbiau gwrthiant a phlatiau pwysau, yn ogystal ag ymarferion pwysau’r corff fel crensiadau a hofran. Mae ymarferion ar gyfer y cluniau, pen-ôl a gwaelod y cefn hefyd.

 

DYSGWCH FWY AM FECANWAITH EICH CORFF YN LES MILLS CORE

Mae pob dosbarth yn pwysleisio techneg wych ac ymwybyddiaeth fel y gallwch ddysgu am eich corff a’i gryfhau.

 

MANTEISION

Yn seiliedig ar egwyddorion hyfforddiant athletig, mae’r hyfforddiant craidd hwn wedi’i ddylunio i’ch gwneud yn gryfach a helpu gyda chydbwysedd ac atal anafiadau.

 

GWYDDONIAETH LES MILLS CORE

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gyhyrau’r torso a’r sling sy’n cysylltu rhan uchaf a rhan isaf eich corff. Mae’n ddelfrydol ar gyfer tynhau’r bol a’r pen-ôl, yn ogystal â gwella cryfder gweithredol a helpu i atal anafiadau.
(Ar gael gyda Ffit Conwy dan arweiniad Hyfforddwr neu fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS GRIT™

Faint ydych chi ei eisiau?

  • Gwella CRYFDER
  • Cynyddu FFITRWYDD CARDIOFASGWLAIDD
  • FFURFIO CYHYRAU TYNN

 

BETH I’W DDISGWYL MEWN YMARFER

Mae LES MILLS GRIT™ yn hyfforddiant ysbeidiol dwysedd uchel sy’n para 30 munud (HIIT), a gynlluniwyd i wella cryfder, ffitrwydd cardiofasgwlaidd a ffurfio cyhyrau tynn. Mae’r sesiynau’n defnyddio barbwysau, plât pwysau ac ymarferion pwysau’r corff i roi gwaith i bob prif grŵp cyhyrau. Mae LES MILLS GRIT yn cyfuno HIIT â cherddoriaeth bwerus a hyfforddwyr ysbrydoledig a fydd ar lawr gyda chi, yn eich cymell i wneud mwy i ddod yn heini'n gyflym.

 

MANTEISION
  • Gwella cryfder a ffitrwydd cardiofasgwlaidd yn gyflym
  • Cynyddu cyhyrau tynn
  • Gosod nodau ffitrwydd newydd - ac yna eu chwalu!
  • Gweithio eich metaboledd yn galed
  • Anghofiwch oriau o hyfforddi - dim ond 30 munud, ddwywaith yr wythnos mae’n ei gymryd

 

WEDI’I LYWIO GAN WYDDONIAETH

Mae LES MILLS GRIT wedi’i ddylunio’n wyddonol i godi eich ffitrwydd i’r lefel nesaf.  Mae’r effaith HIIT yn golygu eich bod yn cynyddu ffitrwydd aerobig, rhyddhau ffibrau cyhyrau gwingo cyflym a thyfu meinwe cyhyrau tynn, gan losgi braster. Cewch weld drosoch chi eich hun.

(Ar gael gyda Ffit Conwy dan arweiniad Hyfforddwr neu fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS RPM™

Math o ymarfer: Cardio

Gêr uwch

  • FFITRWYDD aerobig
  • TYNHAU’R corff
  • Llosgi CALORÏAU

Ymarfer beicio grŵp dan do yw RPM ™ ble rydych chi’n rheoli’r dwyster. Mae’n hwyl ac yn llai heriol. 

Gyda cherddoriaeth wych a’r grŵp yn beicio fel un, mae eich hyfforddwr yn mynd a chi ar daith i ddringo mynyddoedd, beicio cyflym ac ar dir gwastad. Mewn sesiwn ymarfer RPM rydych yn cylchdroi’r pedalau yn ailadroddus i gyrraedd eich uchafbwynt cardio ac yna yn arafu ychydig, gan gadw’r cyflymder gyda’r gweddill i godi eich perfformiad personol a hybu eich ffitrwydd cardio.

Mae RPM yn ffordd wych o ddatblygu eich synnwyr o gyflawniad personol. Gallwch dynnu ar egni’r grŵp a dod o hyd i’ch rythm yn y gerddoriaeth. Rydych chi’n rheoli eich lefelau gwrthiant a’ch cyflymder eich hun, fel y gallwch ddatblygu eich lefel ffitrwydd eich hun dros amser. Taith ydyw, nid ras.

 

MAE RPM YN LLYTHRENNOL YN HAWS NA REIDIO BEIC

Yn deillio o rasio beics, mae RPM yn defnyddio’r synnwyr o ddringo a beicio cyflym mewn ymarfer ble rydych chi’n rheoli’r dwyster.

 

MANTEISION
  • Wedi’i brofi mewn ras ac ar y corff
  • Mae beicio mewn grŵp yn gwella canlyniadau personol
  • Gwella eich ffitrwydd aerobig
  • Llosgi calorïau a braster
  • Hyfforddiant uchafbwynt cardio wedi’i greu gan y gorau yn y byd

 

MEGIS DECHRAU?

Bydd eich hyfforddwr yn dangos i chi sut i osod eich beic a’r holl symudiadau beicio sylfaenol. Gallwch ddechrau gyda 4 neu 5 trac a gweithio eich ffordd i fyny i ddosbarth cyfan.

(Ar gael gyda Ffit Conwy dan arweiniad Hyfforddwr neu fel ymarfer dros y we)

 

 

LES MILLS SPRINT™

Ailddiffiniwch eich llinell derfyn.

Math o ymarfer: HIIT

  • DWYSEDD uchel
  • CANLYNIADAU cyflym
  • Chwalu TARGEDAU

 

BETH YW LES MILLS SPRINT?

Mae LES MILLS SPRINT ™ yn sesiwn ymarfer 30 munud o Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT) gan ddefnyddio beic dan do i gyflawni canlyniadau cyflym.

Mae’n ddull byr, dwys o hyfforddiant lle daw’r wefr a’r cymhelliant o wthio eich cyraeddiadau corfforol a meddyliol. Ymarfer dwysedd uchel, is o ran her, mae wedi’i brofi’n wyddonol ei fod yn creu canlyniadau cyflym.

Mae’r 30 munud rydych chi’n ei roi mewn ymarfer LES MILLS SPRINT yn arwain eich corff i losgi calorïau am oriau. Byddwch yn cyfuno pyliau dwys, pan fyddwch yn gweithio mor galed â phosibl, â chyfnodau o orffwys sy’n eich paratoi at yr ymdrech nesaf. Y wobr? Rydych yn chwalu eich nodau ffitrwydd, yn gyflym. 

 

HYFFORDDIANT YSBEIDIOL DWYSEDD UCHEL (HIIT) AR FEIC

Mae LES MILLS SPRINT ™ yn sesiwn ymarfer 30 munud dwysedd uchel gan ddefnyddio beic dan do i gyflawni canlyniadau cyflym.

 

MANTEISION
  • Y perfformiad gorau bosib yn yr amser byrraf
  • Datblygu cyhyrau tynn a hyfforddi eich corff i losgi braster
  • Llosgi calorïau am oriau ar ôl eich ymarfer
  • Gwthio eich terfynau meddyliol a chorfforol
  • Byr a dwys - i gyd mewn 30 munud

 

MEGIS DECHRAU?

Nid oes angen i chi fod yn feiciwr, ond bydd arnoch angen rhywfaint o ffitrwydd ar gyfer LES MILLS SPRINT. Cymerwch bethau’n ysgafn am y sesiynau cyntaf i gael ymdeimlad o’r hyfforddiant. Os ydych yn ei weld yn anodd, mae croeso i chi arafu, lleihau’r baich neu eistedd a gorffwys. Rydym yn argymell dau ymarfer HIIT yr wythnos fel rhan o gynllun hyfforddi cytbwys.

 

 

LES MILLS THE TRIP™

Math o ymarfer: Dawns

BETH YW LES MILLS ‘THE TRIP’?

Mae Les Mills The Trip™ yn brofiad ymarfer y byddwch yn ymgolli’n llwyr ynddo sy’n cyfuno ymarfer beicio 40 munud gyda sawl uchafbwynt gyda thaith drwy fydoedd wedi eu creu’n ddigidol. Gyda sgrin a system sain fel sinema, mae THE TRIP yn mynd â chymhelliant a’r egni a ddefnyddir i lefel arall, gan losgi llawer o galorïau.

(Ar gael ar hyn o bryd gan Ffit Conwy fel ymarfer dros y we)

 

 

 

 

end content