cy Newyddion Les Mills Born to Move Ysgolion
start content

Les Mills Born to Move Ysgolion

Ffit Conwy ac Ysgolion Conwy yn Partneru gyda Les Mills i hybu Disgyblion i Symud

 Picture of Les Mills Born To Move session

Mae Ffit Conwy, Tîm Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi partneru gyda Les Mills, i gyflwyno Born to Move i ysgolion cynradd ar draws y sir. Nod y fenter yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fod yn fwy actif yn gorfforol yn ystod diwrnod yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Llywodraethu;

“Rydym yn y camau cynnar o ddatblygu. Rydym wedi cysylltu gydag ysgolion ac mae’r ymgysylltiad yn edrych yn gadarnhaol iawn. Ein nod yw cael cymaint o bobl ifanc â phosibl i symud ac ymgysylltu gyda ffitrwydd yn Sir Conwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg; 

“Mae creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn actif bob dydd yn hanfodol. Trwy’r bartneriaeth hon rydym yn rhoi adnoddau i’n hysgolion i ysbrydoli symudiad, cefnogi ffordd iach o fyw a helpu disgyblion i ffynnu tu mewn a thu allan i’r dosbarth.”

Dywedodd cynrychiolydd Les Mills: 

“Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gan y tîm Ffit Conwy trwy gydol y siwrnai hon. Mae eu hangerdd tuag at greu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn actif, ynghyd â’u hymrwymiad i gydweithio ar draws addysg, hamdden a gwasanaethau cymunedol, wedi bod yn rhyfeddol.

Mae gweledigaeth Conwy ar gyfer ymgorffori Born to Move yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n dod ynghyd gyda phwrpas a rennir. Mae’n bleser cael cefnogi eu cynlluniau uchelgeisiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith hirhoedlog y bartneriaeth i helpu mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd i adeiladu perthnasau cadarnhaol gyda symud a lles ar draws Conwy.”

Nodiadau i’r Golygydd: 

Mae Born to Move yn rhaglen weithgareddau a ddatblygwyd gan Les Mills i helpu pobl ifanc i fwynhau symud trwy gerddoriaeth, creadigrwydd, dawns, gweithgareddau crefftau ymladd, ymwybyddiaeth ofalgar a phrofiadau ffitrwydd sy’n briodol i’w hoedran. Gall ysgolion ddefnyddio’r cynnwys ar draws gwersi Addysg Gorfforol, egwyl actif o’r dosbarth, sesiynau lles, gweithgareddau amser cinio a chlybiau ar ôl ysgol. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Les Mills Born to Move - Ysgolion



end content