Adnewyddu Campfeydd Gwanwyn 2026 – Y Wybodaeth Ddiweddaraf
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn gwella ac ailwampio campfeydd y sir.
Ystafell HYROX Newydd yng Nghanolfan Hamdden Colwyn
Rydym wedi lansio gofod pwrpasol, newydd sbon ar gyfer dosbarthiadau HYROX. Mae’r gofod hwn wedi’i ddylunio ar gyfer ffitrwydd gweithredol a hyfforddiant i’ch paratoi ar gyfer ras.
- Gwthio a thynnu sled
- Taflu peli yn erbyn wal a cherdded yn cario pwysau
- Parthau cardio a chryfder penodol
- Hyfforddiant dan do a rhedeg yn yr awyr agored
Rydym yn cynnal dosbarthiadau HYROX i’r Teulu, Sêr Ifanc HYROX a HYROX 365, gyda sesiynau i ddechreuwyr yn dod yn fuan.
Dysgwch fwy: HYROX365
Hwb Yr Hen Ysgol a Canolfan Hamdden Dyffyrn Conwy, Llanrwst
Lliwiau newydd ffres i gyd-fynd â’n brand, Lloriau newydd sbon, Offer ychwanegol, yn cynnwys dau lwyfan codi pwysau newydd Watson — sydd bellach yn cyd-fynd â’r offer Watson sydd eisoes yng Nghonwy a Chyffordd Llandudno.
- Nid ydym wedi cael gwared ar unrhyw offer – dim ond wedi rhoi mwy o ddewis i gefnogi pob lefel ac arddull hyfforddi
Canolfan Nofio Llandudno
Cymerwch olwg – Campfa a Stiwdio ‘Gravity’ Canolfan Nofio Llandudno
Edrychiad ffres, mwy ymarferol, a phrofiad gwell i’r holl aelodau. Dewch i weld y cyfleusterau ar eu newydd wedd yng Nghanolfan Nofio Llandudno yn fuan – Campfa, Nofio ac Ymarfer Corff!
Mae mwy o ddatblygiadau ar y gweill ar draws ein safleoedd a byddant yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn fuan iawn.