cy Newyddion Cystadleuaeth gymnasteg Ffit Conwy yn llwyddiant
start content

Cystadleuaeth gymnasteg Ffit Conwy yn llwyddiant

Gymnastics Competition

Cystadleuaeth gymnasteg cyntaf Ffit Conwy yn llwyddiant ysgubol.

Daeth dros 200 o gystadleuwyr trampolinio a gymnasteg talentog o Sir Conwy ynghyd am ddigwyddiad hwyliog ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror 2026 i arddangos eu sgiliau.

Roedd y digwyddiad Clwb Gymnasteg Ffit Conwy a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy yn dod a phlant ac oedolion o bob lefel gallu i gystadlu mewn amrywiaeth o berfformiadau a phatrymau, o flaen cynulleidfa fawr a phanel o feirniaid. 

Dywedodd Elaine Williams, Cydlynydd Gymnasteg/Trampolinio Ffit Conwy a Threfnydd y Digwyddiad:  

"Am ddiwrnod gwych! Roedd y cystadleuwyr trampolinio a gymnasteg yn anhygoel! Mae pawb wedi gweithio mor galed yn paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn a rhoddodd pawb eu gorau."

"Rydym mor falch o bob un. Gwelwyd cymaint o ddewrder, gwaith caled, digon o hwyl a pherfformiadau gwych. Mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth, ac mae nifer o bethau ar y gweill ar gyfer 2026 gan gynnwys mwy o ddosbarthiadau, gan alluogi mwy o blant i ymuno."
ch 

Derbyniodd pob cystadleuwr fedal, tystysgrif a chrys-t a chyflwynwyd gwobrau i’r enillwyr. Dechreuodd y Clwb Gymnasteg ym Medi 2025 gan Wasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffit Conwy) gan weithio mewn partneriaeth gyda Gymnasteg Cymru yn dilyn y cynllun gwobrau RIS


Mae’r rhaglen yn darparu siwrnai gynyddol trwy gymnasteg hamdden lle gall pob plentyn brofi ystod eang o weithgareddau, patrymau symud sylfaenol a sgiliau gymnasteg a gwneud y mwyaf o’u creadigrwydd.

I ddarganfod mwy am raglen Gymnasteg RISE Ffit Conwy ewch i Gymnasteg RISE

end content