cy Newyddion Enillwyr Gwobrau Chwaraeon 2025
start content

Enillwyr Gwobrau Chwaraeon 2025

Sports Awards Winners 2025 (1)

Cafodd talent chwaraeon lleol o bob rhan o sir Conwy ei ddathlu mewn seremoni wobrwyo arbennig.

Cafodd Gwobrau Chwaraeon Conwy eu cynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 21 Tachwedd i gydnabod ac anrhydeddu unigolion talentog y byd chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr o’r sir. Roedd dros 330 o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd chwaraeon yn bresennol yn y digwyddiad, a gafodd ei noddi gan Chwaraeon Conwy.

Roedd yr athletwraig Olympaidd Brydeinig fwyaf llwyddiannus erioed, y cyn feiciwr proffesiynol trac a ffordd, y Fonesig Laura Kenny yno i gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr haeddiannol, ynghyd â’r cyhoeddwr a sylwebydd chwaraeon proffesiynol, Matt Ward, fu’n arwain y seremoni.

Ymhlith yr enillwyr oedd Bechgyn a Merched Dan 18 Clwb Hoci Eirias, a enillodd y wobr Tîm Chwaraeon Iau. Mae’r ddau dîm wedi chwarae hoci gwych eleni, nhw yw Pencampwyr Gogledd Cymru a buont yn chwarae yn y rowndiau terfynol cenedlaethol. 

Enillodd Ysgol Craig-y-don Ysgol y Flwyddyn eleni ar sail eu hymrwymiad cadarn i chwaraeon, gweithgarwch corfforol a lles, boed hynny drwy’r cwricwlwm neu du hwnt.  

Roedd deuddeg categori i gyd, gan gynnwys y wobr Llwyddiant Arbennig, a gyflwynwyd i Charlie Sheen sy’n 12 oed. Llwyddodd i gwblhau her rhedeg 75 milltir y llynedd er budd Ysbyty Plant Alder Hey gan godi £6,000 i’r elusen.

Dywedodd Austin Roberts, Is-Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a draddododd yr araith agoriadol: 

“Roedd yn wych gweld cynifer o glybiau chwaraeon a sefydliadau Conwy yn cael eu cynrychioli yn y gwobrau. Mae’r holl wobrau ar y noson yn adlewyrchu ymdrech ac ymrwymiad blwyddyn gyfan gan nifer fawr o bobl, ac mae’r llwyddiant ar y noson yn adlewyrchu’r ymdrech gan ein hathletwyr talentog.
Diolch yn fawr i’r rhai wnaeth noddi’r digwyddiad, hebddyn nhw, ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal y digwyddiad hwn”

Cefnogwyd gwobrau eleni gan Chwaraeon Conwy, MWT Civil Engineering Ltd, Achieve More Training, Thomo’s Outdoor World, Always Aim High Events, Gwasanaeth Addysg CBSC, Glan Y Gors Karting, Evolution Bikes, Blue Turtle, Powlsons, Actif Gogledd Cymru, Ffit Conwy.

 

Enillwyr 2025 yw:

  • Athletwr Iau y Flwyddyn: Ben Sinfield

  • Athletwraig Iau y Flwyddyn: Agatha Favill

  • Tîm Chwaraeon Iau: Bechgyn a Merched Dan 18 Clwb Hoci Eirias

  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn: Jack Clague

  • Gwirfoddolwr: John Hatton

  • Gwobr Llwyddiant Arbennig: Charlie Sheen

  • Athletwr Hŷn y Flwyddyn: Calum Beach

  • Athletwraig Hŷn y Flwyddyn: Michelle Farrell

  • Tîm Chwaraeon Hŷn: Clwb Pêl-droed Bae Colwyn

  • Hyfforddwr y Flwyddyn: Wesley Jones

  • Cyfraniad i Chwaraeon: Pam Gibbons

  • Ysgol y Flwyddyn: Ysgol Craig y Don

Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad lleol sydd â diddordeb mewn cefnogi'r digwyddiad trwy nawdd, cysylltwch â Caroline Jones drwy caroline.jones@conwy.gov.uk

end content