James Joy - Pencampwriaethau Codi Pwysau
Athletwr o sir Conwy wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Codi Pwysau Pŵer
Bydd James Joy, o Fae Penrhyn, yn teithio i Winnipeg, Canada ym mis Medi i gystadlu ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Pŵer y Gymanwlad, yn dilyn llwyddiant ym Mhencampwriaethau Cymru ym mis Ebrill.
Fe wnaeth Cynorthwy-ydd Hamdden Ffit Conwy ddarganfod ei ddawn am godi pwysau pŵer mewn sesiynau cryfder yn rhan o’i hyfforddiant sbrintio cystadleuol. Roedd James yn ymarfer cyn ac ar ôl ei waith, a datblygodd hoffter mawr o’r gamp yn gyflym. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae bellach yn cystadlu’n rhyngwladol.
Mae codi pwysau pŵer yn cynnwys tri ymarfer o’r ymdrech fwyaf yn y disgyblaethau sgwatio, ymwthiad ar fainc (bench press) a chodi pwysau o’r llawr (deadlift). Mae tair ymgais ar bob math o ymarfer. Mae’r ymarferion mwyaf llwyddiannus i bob athletwr yn cael eu hadio at ei gilydd i roi cyfanswm sgôr, sy’n rhoi’r safleoedd o fewn categorïau pwysau ac oedran.
Wrth siarad am ei waith ymarfer, dywedodd James:
“Rydw i’n ymarfer yng Nghanolfan Hamdden Colwyn chwe diwrnod yr wythnos, gydag un diwrnod i orffwys. Dw i wir yn mwynhau. Mae’r platfformau codi pwysau yn y ganolfan yn rhai da iawn sy’n wych i ymarfer. Rydw i rŵan yn arbenigo mewn sgwatio ac yn anelu at 270kg yn y gystadleuaeth hon.”
Mae James ar hyn o bryd yn ymarfer gant y cant cyn y digwyddiad ar 17–27 Medi, a fydd yn dod ag athletwyr o wledydd y Gymanwlad ynghyd.
“Rydw i’n falch iawn o fod yn cynrychioli Cymru. Dyma fydd fy nigwyddiad cyntaf dros fy ngwlad, a gobeithio y bydd mwy i ddod!” meddai James
Dywedodd Mally Tidswell, Pennaeth Adain Gwasanaeth Hamdden (Ffit Conwy) y Cyngor:
“Rydyn ni’n eithriadol o falch o lwyddiant James. Mae ei ymroddiad wedi bod yn ysbrydoliaeth ac mae pawb yn Ffit Conwy’n dymuno’r gorau iddo wrth iddo gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”
Bydd y Pencampwriaethau’n cael eu cynnal o 17–27 Medi ac yn cael eu ffrydio’n fyw ar-lein, a fydd yn caniatáu i gefnogwyr weld James wrthi o’u cartrefi.